Wednesday, October 28, 2015

Ynglyn a defnyddio swyddogaeth undeb i bwrpas propoganda pleidiol wleidyddol

Mae'n ddiddorol bod Unsain yn mynnu ymddiheuriad gan y Blaid oherwydd y darllediad gwleidyddol diweddaraf sy'n tynnu sylw at fethiannau treuenus Llafur i gynnig gwasanaethau cyhoeddus effeithiol yng Nghymru.  Gellir darllen y stori gyflawn yma, ac mae'r darllediad wedi ei gyhoeddi ar y blog hwn ychydig ddyddiau yn ol.


Rwan, does 'na neb am wn i yn cymryd bod Unsain yn annibynnol o Lafur mewn unrhyw ffordd ystyriol o gwbl.  Yn wir mae fwy ynghlwm a chorpws llonydd, lleddf, hunan fodlon Llafur Cymru nag ydyw'r un undeb arall.  Ond yn yr achos yma mae yna gysylltiad agosach fyth.  Mi fydd y sawl yn eich plith sy'n gyfarwydd a gwleidyddiaeth etholiadol Arfon yn cofio'r gwr bonheddig yn y llun isod - Martin Eaglestone.


Safodd Martin mewn nifer o etholiadau Cynulliad a San Steffan yn Arfon /Caernarfon i Lafur yn yr etholaeth yn ystod y ddegawd ddiwethaf - gan gael cweir pob tro wrth reswm.  Bryd hynny roedd yn byw efo'i wraig a'i bump o blant yn y Felinheli.  Mae gen i frith gof o ganfasio ei dy yn ddamweiniol mewn rhyw etholiad neu'i gilydd.

Beth bynnag, diflannodd i Gaerdydd yn fuan wedi'r gweir arferol yn 2007 gan ail ymddangos yng Nghaerdydd.  Mae bellach yn byw yng nghyffiniau 'r Brifddinas ac mae'n briod a dynas newydd - Dawn Bowden.  Fel y gwelwch o'i thudalen flaen Trydar, does ganddi ddim cysylltiad o unrhyw fath efo'r Blaid Lafur fel y cyfryw:


Nagoes wir, dynas undeb ydi Dawn - a hi ydi'r swyddog Unsain sy'n gyfrifol am faterion iechyd yng Nghymru.  Hi hefyd sydd wedi bod yn gyfrifol am y myllio a'r tantro hunan gyfiawn sy'n nodweddu'r stori fach yma.

Rwan mae'n bosibl wrth gwrs mai consyrn at ei haelodau sydd yn gyrru sterics Dawn.  Byddai hynny'n rhyfedd braidd gan nad oes unrhyw feirniadaeth o aelodau Unsain - nag unrhyw undeb arall - yn y darllediad.  Beirniadaeth o'r blaid wleidyddol sydd wedi rhoi arweiniad mor ddi ddim a di gyfeiriad tros cymaint o flynyddoedd sydd yna.  Ond dyna fo, mae pobl yn gallu bod yn rhyfedd.

Ar y llaw arall gallai Dawn fod yn defnyddio ei statws o fewn Unsain i gymryd rhan mewn ymarferiad propoganda pleidiol wleidyddol yn dilyn cynllwyn bach a ddeorwyd tros y bwrdd brecwast rhwng dau hac Llafuraidd.

Dwi'n meddwl fy mod yn gwybod pa eglurhad sydd fwyaf tebygol.

5 comments:

Unknown said...

Oni ddylai aelodau Unison ystyried ymddiswyddo o'r Undeb ac uno ag undeb arall. Ond gofyn?

Unknown said...

Fe geisiais unwaith fel aelod o Unsain i berswadio'r undeb yng Nghymru i drosglwyddo ei gefnogaeth o Lafur i Blaid Cymru. Cafodd y cais hwnnw (drwy gangen y WDA) ddiflannu yng nghors biwrocratiaeth yr undeb. Ond doedd neb yn y cyfarfod (rhyw ugain o bobl) yn anghydfyd â'r ddadl - bod Llafur wedi troi ei chefn ar sosialaeth a threfnu goresgyniad anghyfreithlon Irac.

Alwyn ap Huw said...

Does dim newyddion yn y post yma , yn anffodus.

Mi fûm yn swyddog NUPE, un o'r undebau a daeth yn rhan o Unsain, yn yr 80au, ac yn fynychwr cyson o'u sesiynau hyfforddi i swyddogion yr Undeb. Rhan o'r hyfforddiant oedd datgan bod pob ymosodiad ar bolisi'r Blaid Lafur ar y GIG yn ymosodiad ar "weithwyr caled" y gwasanaeth yn hytrach nag ymosodiad ar weinyddiaeth y gwasanaeth; ond bod ymosodiadau Llafur ar safonau'r GIG yn ymosodiad ar y Gweinidog Iechyd.

Roedd pobl fel fi, fy nghyfeillion Bob Skillicorn a Dafydd Porthor, yn ddwys ystyried creu undeb Cymreig i weithwyr cyhoeddus megis UCAC (athrawon), ond wedi marwolaeth sydyn Bob, daeth y syniad i ben; yn bennaf oherwydd paranoia'r cyfnod ar "methu coelio" bod Bob wedi marw'n naturiol.

Rwy'n siomedig na ddaeth Undeb y Gweithwyr Cyhoeddus Cymreig i fodolaeth; ond yn dal i gredu bod ei angen.

Cai Larsen said...

Diolch Alwyn.

Mi fedra i dy sicrhau di mai yn naturiol y bu farw Bob - mi gafodd o drawiad ar y galon.

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n gwybod yn iawn be oedd y dyfarniad parthed marwolaeth Bob, son am baranoia'r cyfnod oeddwn.