Friday, November 06, 2015

Is etholiadau cyngor yng Nghymru

I'r rhai ohonoch sy'n mwynhau is etholiadau lleol mae yna saith ar y ffordd yng Nghymru tros y dair wythnos nesaf.  Mae'n ddiddorol bod Plaid Cymru wedi llwyddo i gael 6 ymgeisydd - mwy na neb arall.  Mewn pedair is etholiad yn unig mae Llafur wedi dod o hyd i ymgeisydd, tra bod gan y Toriaid ddau a'r Dib Lems ddwy a'r Gwyrddion un.

Tachwedd 12
Cyngor Conwy, Eglwysbach - Plaid Cymru yn amddiffyn  - 2 ymgeisydd - Tori, Plaid Cymru.
Cyngor Pen y Bont, Dyffryn Ogwr - Annibynnol yn amddiffyn - 5 ymgeisydd: Llafur, Plaid Cymru, UKIP, Annibynnol.

Tachwedd 19
Cyngor Gwynedd, Llanaelhaern - Llais Gwynedd yn amddiffyn  - 3 ymgeisydd: Plaid Cymru, Llais Gwynedd, Annibynnol.
Cyngor Gwynedd, Dewi (Bangor)  Plaid Cymru yn amddiffyn  - 3 ymgeisydd : Llafur, Dib Lem, Plaid Cymru
Cyngor Caerfyrddin Cydweli - Llafur yn amddiffyn  - 6 ymgeisydd: Tori, Llafur, Plaid Cymru, People First, a dau Annibynnol.

Tachwedd 26

Cyngor Gwynedd, De Pwllheli - Llais Gwynedd yn amddiffyn - 4 ymgeisydd: Plaid Cymru, Llais Gwynedd a dau annibynnol.

 Bettws (Casnewydd) - Annibynnol yn amddiffyn  - 6 ymgeisydd - Llaf, Ceid, Gw, DemRh a 2 x Annibynnol.

Yn ogystal a'r saith uchod mae un arall ar y gweill - ond does dim gwybodaeth wedi dod i law ynglyn a'r dyddiad na'r ymgeiswyr eto.

Cyngor Conwy Gogarth (Llandudno),  Toriaid yn amddiffyn.

Diweddariad (Diolch D M) - Deall bod Greg Robbins am sefyll dros y Blaid. Mae o'n cynrychioli'r ward ar gyngor tref Llandudno.


2 comments:

Dai said...

26ain Tachwedd
De Pwllheli (Gwynedd) Marwolaeth Llais Gwynedd - ymgeiswyr - PC, LlG, Ann a dim disgrifiad

Bettws (Casnewydd) - Ymddiswyddiad annibynwr - ymgeiswyr - Llaf, Ceid, Gw, DemRh a 2 x Annibynnol

Cai Larsen said...

Cywirwyd.