Sunday, November 15, 2015

Unoliaethwyr Ulster yn dangos mwy o sensitifrwydd na Jason 'McCarthy' Mohammad

Onid yw'n ddiddorol i arweinydd Unoliaethwyr Ulster (yr UUP), Mike Nesbitt  deimlo'r angen i ymddiheuro i genedlaetholwyr Gwyddelig oherwydd i unoliaethwyr mwy eithafol ganu God Save the Queen yn eu presenoldeb yn ystod digwyddian yn Stormont i gofio Cadoediad 1918, tra bod Jason Mohammad yn harthio Leanne Wood oherwydd nad yw'n un am ganu'r un gan?



Mae'n dod i rhywbeth pan mae Unoliaethwyr Ulster yn fwy sensitif i hunaniaeth Wyddelig nag ydi BBC Cymru i hunaniaeth Gymreig.

2 comments:

Anonymous said...


Dim syndod ynglyn ag agwedd negyddol tuag at y rhai sy'n dewis peidio canu anthem cenedlaethol Prydeinig\Lloegr.

Ble mae'r rhyddid i ddewis?




Anonymous said...

Yr hyn sydd fwyaf anymunol am agwedd JM ydi ei fod yn dal ei hunaniaeth Brydeinig ei hun fel rhyw ddelfryd y dylai LW a phawb arall geisio ymgyraedd tuag ato.