Sunday, December 27, 2015

Edrych ymlaen i 2016 - rhan 2

Mi gawn ni olwg ar etholiadau Gogledd Iwerddon - sydd i'w cynnal ym mis Mai.  O'r pleidiau sydd efo seddi ar hyn o bryd mae gennym Sin Fein a'r SDLP ar ochr genedlaetholgar pethau, y DUP, UUP, TUV a UKIP ar yr ochr unoliaethol - y Gwyrddion ac Alliance yn rhywle yn y canol.

O'r saith degau cynnar tan ddechrau'r ganrif yma roedd y bleidlais genedlaetholgar wedi cynyddu'n rheolaidd - roedd hyn yn cael ei yrru gan ddemograffeg - cynnydd yn y bleidlais Babyddol.  Daeth hyn i ben yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda'r ochr unoliaethol yn cadarnhau eu goruwchafiaeth.  Cynrychiolir hyn yn arbennig gan y ffaith i'r UUP adennill Fermanagh South Tyrone eleni - yr etholaeth eiconig a enillwyd gan Bobby Sands ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth yn 1981.  Roedd y bleidlais genedlaetholgar wedi hollti yno tra bod y bleidlais unoliaethol yn unedig, ond roedd y canlyniad yn un anisgwyl serch hynny.

Nid newidiadau demograffig sy'n gyfrifol am hyn - mae yna dystiolaeth sylweddol bod y boblogaeth Babyddol yn parhau i gynyddu tra bod yr un Brotestanaidd yn gostwng.  Mae'n debyg mai cwymp yn y niferoedd o Babyddion sy 'n pleidleisio a chynnydd yn y niferoedd Protestanaidd sydd ar waith.

Beth bynnag dwi ddim yn gweld llawer o newid ym mis Mai o gymharu a 2011.  Mae'n debyg y bydd y blaid adain Chwith- PBP - yn cymryd un o seddi SF yng Ngorllewin Belfast (er y gallai sedd yr SDLP syrthio yr un mor hawdd), ond maent yn debygol o gael sedd ychwanegol yn Lagan Valley - ffliwc ystadegol oedd yn gyfrifol iddynt fethu yn 2011.  Os ydi Martin McGuiness yn sefyll yn Foyle yn hytrach na Mid Ulster, gallai SF ddod o flaen yr SDLP ac ennill un o'u seddi yn ninas Derry.

Bydd y DUP yn gwneud yn dda yn Fermanagh South Tyrone er na wnaethant sefyll yno yn yr Etholiad Cyffredinol - mae eu harweinydd newydd Arlene Foster yn cynrychioli'r etholaeth, ond byddant yn colli sedd yn Gogledd Down os ydi Sylvia Hermon (yr aelod seneddol annibynnol) yn sefyll.  Beth bynnag - fel hyn 'dwi 'n ei gweld hi.


Dwyrain Belfast - DUP 3, Alliance 2, UUP 1
Gogledd Belfast - DUP 3, SF 2, SDLP1
De Belfast - SDLP 2, DUP 2, Alliance 1, SF 1
Gorllewin Belfast - SF 4, SDLP 1, PBP 1

Foyle - SDLP 3, SF 2, DUP 1
De Down - SDLP 3, SF 2, DUP 1
Dwyrain Antrim - DUP 3, SF 1, Alliance 1, UUP 1
De Antrim - DUP 1,  UUP 3, SF 1, Alliance 1
Gogledd Antrim - DUP 3, UUP 1, TUV 1, SF 1

Newry Armagh - SF 3', SDLP 1, UUP 1, DUP 1
Gorllewin Tyrone - SF 3', SDLP 1, UUP 1, DUP 1
Mid Ulster - SF 3', SDLP 1, UUP 1, DUP 1
Fermanagh South Tyrone - SF 3, DUP 2, UUP 1

Strangford - DUP 3, Alliance 1, UUP 1, UKIP 1.
Lagan Valley - DUP 3, UUP 1, Alliance 1, UKIP 1
Dwyrain Londonderry - DUP 3, UUP 1, SF 1, SDLP 1
Upper Bann - DUP 2, UUP 2, SF2.
Gogledd Down - DUP 3, UUP 1, Alliance 1, Gwyrdd 1.

Felly DUP 36 (-1) SF 29(-),  UUP 16 (+1) SDLP 14( -)  Alliance 8(-) UKIP 2(+1) PBP 1 (+1) TUV (-1) Gwyrdd 1 (-). 

Un ddiflas mae gen i ofn - ychydig iawn o newid yn ol pob tebyg.   Ond mae yna bosibilrwydd na fydd pethau yn mynd yn ol y disgwyl.  Bydd yr etholiadau yn fuan ar ol y Pasg - a dathliadau Gwrthryfel 1916 - ac ar ben hynny mae'n debyg y bydd SF newydd gael etholiad dda yn y De - ac efallai y byddant mewn llywodraeth.  Petai 'r cyfraddau pleidleisio Pabyddol yn codi yn sgil hynny, lle'r oedd yn y 90au, gallaii nifer o seddi anisgwyl syrthio i'r pleidiau cenedlaetholgar - ac yn arbennig felly SF. Does yna ddim ffordd o wybod os y bydd hynny 'n digwydd.



No comments: