Monday, December 07, 2015

Trydariad mwyaf bisar y diwrnod

Ymddengys bod ymgeisydd Llafur Arfon yn credu mewn rhywbeth mae'n ei alw yn Tory / Plaid Media.

Cyfeirio oedd Sion at stori a ymddangosodd yn y Western Mail (gweler isod) y bore 'ma. 

Mae'r papur hwnnw yn perthyn i gwmni Trinity Mirror.  Mae Trinity Mirror a'i ragflaenydd Mirror Group Plc wedi bod yn berchnogion rhai o'r papurau mwyaf cefnogol i Lafur yn y DU ers i'r Mirror droi'n bapur oedd wedi ei anelu at y dosbarth gweithiol yn 1934. 

Mae'r cysyniad o Tory / Plaid Media yn gysyniad mor ddychmygol a thylwyth teg neu ysbrydion.  


No comments: