Saturday, January 23, 2016

Mae nhw'n paratoi am _ _ gweir

O diar, ymddengys bod Llafur yn disgwyl trychineb yn etholiadau mis Mai.  Yn ol cyflwyniad i gabinet cysgodol y blaid gan gyfarwyddwr etholiadau'r blaid, Patrick Hennegan, dydi pethau ddim yn edrych yn dda.




Ynglyn a'r Alban


“A result in line with these polls would see 13 constituency seats fall to the SNP, while two further seats would be tight races between the SNP and the Conservatives with Labour coming third,” 

Felly mae Llafur yn disgwyl colli 15 allan o 15 sedd uniongyrchol yn yr Alban.  Ond beth am y seddi rhanbarthol?  Mae yna lawer o'r rheiny yn yr Alban, ac maen nhw'n siwr o achub Llafur?  Wel na.

“However, Labour have problems here too, as polling points to a much more fragmented regional vote, with rises for the Conservatives, the Greens, Ukip and the Liberal Democrats in current polling _ _ Labour could fall to 25 seats or below, far behind the SNP, who could claim up to 70, and only a little way ahead of the Conservatives, who could take 20 or more.”

Wel 'na fo 'ta, dyna Llafur wedi rhoi'r gorau i obeithio am ennill yn yr Alban a throi eu golygon at geisio dod yn ail.  Beth am Gymru felly?  Mae'n rhaid y gall Llafur obeithio am ganlyniad cadarnhaol yma.  Na mae gen i ofn:

In Wales a 7% fall in support since 2011 suggests that Labour would lose effective control of the Welsh assembly and could suffer its worst ever result there.

Cynghorau Lloegr?  Mae etholiadau am lawer o'r rheiny yn digwydd ym mis Mai hefyd. Mwy o ing a gwewyr mae gen i ofn.

In English councils, Labour is down on average by 8% on its 2012 polling levels, suggesting the loss of control of 20 councils.  

Mae'r blog yma wedi nodi sawl gwaith yn y gorffennol bod Llafur yn datblygu i fod yn blaid fwyfwy Lundeinig - ac oddi yno y daw'r unig newyddion da.  

There is optimism that Labour’s Sadiq Khan will defeat Tory candidate Zac Goldsmith .  
Ymddengys bod Llafur ddeg pwynt o flaen y Toriaid yn iard gefn Corbyn.

Mi fyddwch chi'n clywed - ac yn darllen - pob math o ddatganiadau cadarnhaol gan Lafur Cymru tros y misoedd nesaf am y derbyniad gwych maent yn ei gael ar stepen y drws ac ati, ac ati.  Heip ydi o i gyd - maen nhw'n disgwyl cweir y tu allan i Lundain - ac mae'n hynod debygol mai dyna fydd yn digwydd.

2 comments:

Anonymous said...

Mae'r erthygl yn tybio y gwnaiff Llafur golli reolaeth o'r senedd. Ni fydd hyn yn bosib tra mae Leanne Wood yn arwain Plaid Cymru. Os oes rhywun yn gallu cynnig 'scenario' realistig arall parthed clymblaid, diddorol fuasai ei glywed.

Unknown said...

Druan â'r Blaid Lafur. Braf ydy schadenfreude...

Ond, rhaid i'r Blaid sicrhau mai NI a nid ukip sy'n elwa o gwymp hir ddisgwliedig Llafur 'Cymru'.

Rhaid i ni gael naratif Gymreig a chynnig atebion a syniadau arloesol ac uchelgeisiol.
Mae Rhun e.e. wedi dechrau gwneud hyn eisioes (araith at yr economi).

Rhaid dweud NA i gydweithio efo Llafur - fel arall gei di sefyllfa (yn Llanelli e.e) lle fydd Llafur yn dweud "fotia i ni achos bydd PC yn gweithio efo ni ta beth".

Nid job PC ydy propio i fyny Llafur byth a hefyd pan maen nhw brin o fwyafrif.