Thursday, January 28, 2016

Y broblem i Lafur yng Nghymru

Mae dadansoddiad Roger Scully o'r rhesymau (neu rai o'r rhesymau) tros siwrna wahanol Llafur Cymru a Llafur yr Alban yn y blynyddoedd wedi 2007 yn un treiddgar. 



Yr hyn sydd gan Roger ydi bod perfformiad Llafur yn y ddwy wlad Geltaidd yn debyg iawn yn 2007, ond bod Llafur Cymru wedi perfformio'n well na Llafur yr Alban ers hynny.  Mae'n priodoli hynny i ddau beth yn bennaf:

1). Y ffaith i'r SNP lywodraethu yn effeithiol iawn fel gweinyddiaeth leiafrifol rhwng 2007 a 2011.  Agorodd hyn y drws i fuddugoliaeth ysgubol yn 2011.  

2).  Y ffaith bod yr wrthwynebiad i Lafur wedi ei hollti sawl ffordd yng Nghymru, tra bod llawer o'r bleidlais wrth Lafur wedi hel o gwmpas un blaid nerthol yn yr Alban.

Mae hyn yn wir - natur wasgaredig y bleidlais wrth Lafur a sicrhaodd bod y blaid honno yn ennill nifer o seddi fis Mai diwethaf efo llai na 40% o'r bleidlais.

Mae'n weddol amlwg bod Llafur Cymru mewn gwell lle o lawer na Llafur yr Alban - ond mae gan fersiwn Gymreig y blaid broblem nad oes gan y fersiwn Albanaidd.  O ran strategaeth etholiadol mae pethau'n weddol syml i Lafur yn yr Alban - beirniadu record yr SNP mewn llywodraeth a honni y byddan nhw yn gwneud yn well (a gobeithio nad ydi pobl yn cofio eu cyfnod nhw mewn llywodraeth). 

Yng Nghymru mae'n fwy anodd - mae'r Toriaid yn fygythiad i Lafur mewn rhai ardaloedd, UKIP mewn ardaloedd eraill a Phlaid Cymru mewn ardaloedd eraill eto.  Mae'r pleidiau hynny yn wahanol iawn i'w gilydd, ac mae'n anodd creu naratif etholiadol sy'n effeithiol yn erbyn y cwbl ohonyn nhw.  Petai gan Lafur record dda o lywodraethu yng Nghymru byddai yna naratif ar gael - ond mae eu record yn alaethus o wael.  Dyma pam bod Llafur yn ceisio hawlio clod am lwyddiannau sydd ddim oll i'w wneud efo nhw - llwyddiant mewn chwaraeon neu ganmoliaeth arbennig i'r wlad yn Rough Guide.

Mae dod o hyd i naratif addas yn goblyn o broblem iddyn nhw - dwi'n falch mai eu problem nhw ydi hi.

1 comment:

Anonymous said...

Plaid yng Nghymru yn methu yn yr un ffordd mae Llafur yn methu yn yr Alban. Bod yn negyddol ynglyn a phopeth mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Negyddiaeth yn ddigon da I ennill pleildleisiau protest, ond wnaiff byth arwain I fod y Blaid mwyaf. E.e. llafur yn yr Alban. ll.g. Yng Ngwynedd a Phlaid Cymru yng Nghymru