Tuesday, February 16, 2016

Etholiadau Gweriniaeth Iwerddon - rhan 3 Fine Gael

Un arall am etholiad Gweriniaeth Iwerddon sydd i'w gynnal wythnos i ddydd Gwener.


Ail blaid bythol wyrdd ydi Fine Gael wedi bod ers i Fianna Fail ddod i rym.   Daeth yn ail ym mhob etholiad rhwng ei ffurfio yn 1933 o dri grwp / plaid arall - Cumann na nGaedheal, y National Centre Party a'r grwp ffasgaidd y National Guard neu'r Blueshirts.  Ia, rydach chi wedi darllen y cymal olaf yn gywir, mae hoff blaid Wyddelig y DU wedi ei gwreiddio yn rhannol mewn ffasgaeth.  Blas enw Fine Gael hyd heddiw ydi'r Blueshirts.  





Er nad ydi hi wedi bod mewn grym llawer, mae gan Fine Gael ddelwedd sefydliadol.  Y rheswm am hyn mae'n debyg ydi bod yr elfennau cyfoethocaf a mwyaf dylanwadol mewn cymdeithas wedi tueddu i'w chefnogi.  Tuag at FG y symudodd Protestaniaid y Weriniaeth hefyd gyda llaw.  Plaid geidwadol sy'n rhoi pwyslais ar gyfraith a threfn, a cheidwadiaeth gyllidol a chymdeithasol fuodd hi o'r dechrau'n deg.  Mae hefyd yn fwy gwrthwynebus i'r traddodiad milwrol gweriniaethol na'r un blaid arall.

Mae'n rhyfedd felly bod rhai o'r datblygiadau mwyaf rhyddfrydig yn hanes y Weriniaeth wedi digwydd pan roeddynt mewn grym.  Esiampl o hyn ydi'r Mother and Baby Scheme ym 1948.  Y rheswm am hynny ydi mai'r unig ffordd maent wedi gallu ennill grym hyd 2011 oedd trwy glymbleidio efo pleidiau llai.  Daeth y Mother & Baby Scheme i fodolaeth o ganlyniad i glymblaid efo plaid adain chwith, wereniaethol oedd a chysylltiadau agos efo'r IRA.  Mae FG efo hanes o fod yn hynod hyblyg pan mae'n dod i glymbleidio.  Fel rheol, fodd bynnag maent wedi clymbleidio efo Llafur i ennill grym - er gwaetha'r enw, plaid ganol y ffordd ydi'r Blaid Lafur Gwyddelig.  

Etholiad Cyffredinol 2011 oedd eu hetholiad gorau erioed - daethant yn agos iawn at gipio grym ar eu pen eu hunain.  Mae'n debyg mai'r unig beth a ataliodd hynny rhag digwydd oedd i Lafur banicio at ddiwedd yr ymgyrch ac addo'r haul a'r lleuad i'r etholwyr os byddent yn ennill grym.  Gweithiodd hynny  o safbwynt ethol digon o TDs i Lafur allu clymbleidio - ond maent yn talu'n ddrud rwan gan iddynt orfod torri bron i pob addewid.

Ychydig wythnosau yn ol roedd yn edrych fel petai FG/Llaf yn debygol o ail ffurfio llywodraeth efo cymorth ambell i aelod annibynnol - a chyda mwyafrif llawer llai.  Ond dydi 'r ymgyrch heb fod yn garedig i 'r naill blaid na 'r llall ac mae canran FG o'r bleidlais wedi llithro yn raddol.  Gyda Llafur yn parhau yn wan iawn, mae'r opsiwn FG / Llaf yn edrych yn llawer llai tebygol.  

Dwi'n weddol siwr mai FG fydd yn arwain y llywodraeth nesaf, ond mae'n dechrau edrych fel petai cyfansoddiad y llywodraeth yn un hynod o anarferol.  Petai'r ddwy blaid Rhyfel Cartref yn cael eu gorfodi i ddod at ei gilydd, byddai'n ail strwythuro gwleidyddiaeth y Weriniaeth yn llwyr.  Mae hefyd yn fwy na phosibl y bydd yna etholiad arall eleni.


No comments: