Sunday, February 21, 2016

Yn ol i wleidyddiaeth yr anterliwt

Felly mae Llafur yn ol efo'u naratif arferol - neu wleidyddiaeth yr anterliwt.  Ychydig wythnosau'n ol roedd yn ymddangos fel petaent am amrywio rhyw fymryn ar eu nonsens arferol a dweud mai dewis rhyngddyn nhw ac UKIP oedd yn wynebu 'r etholwyr.  Erbyn hyn ymddengys eu bod yn ol i'r arferol - dewis rhyngddyn nhw eu hunain a'r Toriaid.

Ffurf ar ddramau poblogaidd a ddatblygodd yn bennaf yng Ngogledd Ddwyrain Cymru oedd yr anterliwt.  Roeddynt yn cael eu perfformio mewn ffeiriau yn aml ac roedd ganddynt neges foesol syml fel rheol - roeddynt yn portreadu'r Byd yn nhermau brwydr rhwng daioni a drygioni.  Mae Llafur yn gweld y Byd yn y ffordd yma.  Mae nhw eu hunain yn bobl dda, mae'r Toriaid yn bobl ddrwg, ac os byddant yn cael eu hethol byddant yn mynd ati i fwyta babanod, lluchio'r henoed i'r mor oddi ar glogwyni a throi pawb sydd ar ol yn gaethweision am weddill eu bywydau.  Mae pleidlais i unrhyw un ond nhw yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y Toriaid drwg, drwg yn cael eu hethol ac yn erlid pawb.  Mae hyn yn gwbl idiotaidd wrth gwrs - ond mae'n naratif sy'n cael ei defnyddio ym mhob etholiad yn ddi eithriad.

Mae'r ffordd yma o edrych ar wleidyddiaeth wedi ei wreiddio mewn dau dueddiad sydd gan y Blaid Lafur - moesoli a byw yn y gorffennol.  Mae'r gred ei bod yn blaid mwy moesol na'r un arall wedi ei wreiddio ym meddylfryd Llafur.  Mae'n gred gwbl di dystiolaeth yn yr oes sydd ohoni wrth gwrs, ond dydi hynny ddim yn ei gwneud fymryn gwanach.  Mae hyn gyda llaw yn un o'r rhesymau pam bod Llafur yn cael cymaint o broblem efo bod yn ffeithiol gywir - os ydym yn meddwl ein bod yn fwy moesol na phawb arall, dydi ambell i gelwydd gwyn ddim yn ymddangos yn  rhy ddrwg.  

Ac wedyn dyna i ni 'r gorffennol.  Yn Etholiad Cyffredinol 1959 cafodd y Toriaid a Llafur rhyngddyn nhw bron i 99% o'r bleidlais yn y DU (heb gyfri Gogledd Iwerddon).  Mae'r polau diweddaraf yn rhoi 54% i'r ddwy blaid efo 'i gilydd yn etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai.  Byddwn yn synnu os cant hynny.  Ac eto mae Llafur yn dal i ymddwyn  fel petaent yn y 50au.

Mae'r byd o ddewis beinari syml wedi hen farw.  Yn hwyr neu'n hwyrach bydd rhaid i Lafur ddefnyddio mymryn o ddychymyg a meddwl am rhywbeth arall i'w ddweud wrth wynebu'r etholwyr - mae'n anffodus nad eleni fydd hynny'n digwydd.


No comments: