Thursday, April 07, 2016

Etholiad Comiwsiynydd yr Heddlu, Gogledd Cymru




Dydi Blogmenai ddim yn ceisio rhagweld canlyniadau etholiadau yn rhy aml y dyddiau hyn - yn gyhoeddus o leiaf - ond yn dal i gael hwyl yn betio ar etholiadau.  Y rheswm ydi bod cymryd ochr mewn ffordd mor bendant a mae'r blog yma yn ei wneud yn ei gwneud yn hynod o anodd bod yn wrthrychol wrth ddarogan yn gyhoeddus - byddai darogan canlyniad negyddol i fy mhlaid fy hun yn cael effaith negyddol - a dyna'r peth diwethaf 'dwi eisiau.

Serch hynny, dwi'n fodlon darogan un peth gyda chryn sicrwydd - naill ai Arfon Jones (Plaid Cymru) neu David Taylor (Llafur) fydd Comisiynydd yr Heddlu nesaf yn y Gogledd.  

Gan bod y bleidlais wedi ei hollti'n weddol agos rhwng y Toriaid, Plaid Cymru a Llafur tros ranbarth (heddlu'r) Gogledd yn etholiadau Cynulliad 2011 byddai rhywun yn meddwl ar yr olwg gyntaf bod gobaith gan y Toriaid hefyd.  Ond etholiad dau gymal ydi hon lle ceir ail bleidlais, a chan bod gwleidyddiaeth y Gogledd fel y mae o bydd ail bleidleisiau cefnogwyr Llafur yn fwy tebygol o lawer i fynd i'r Blaid nag i'r Toriaid, a bydd ail bleidleisiau cefnogwyr y Blaid yn fwy tebygol i fynd i Lafur nag i'r Toriaid - mae'n anhebygol y caiff y Tori ei ethol.

Rwan mae'r arfer cymharol newydd o ethol comisiynydd a rhai manteision iddo - mae'n dod a democratiaeth a'r tryloywder sydd ynghlwm a hynny i waith yr heddlu. Ond mae'n dod a phroblemau hefyd - a dwy yn arbennig - mae'n creu risg bod y broses o blismona yn mynd yn un wleidyddol ac mae'n creu risg bod rhywun sydd a fawr o glem beth mae'n ei wneud yn cael ei hun yn gyfrifol am blimona.  Mae plismona effeithiol yn fater pwysig iawn.



Yn anffodus mae David Taylor yn cyfuno'r ddau risg.  Er ei fod wedi treulio cyfnod cymharol fyr yn rhedeg busnes, mae'r rhan fwyaf o'i yrfa wedi ymwneud a gweithio i'r Blaid Lafur yng Nghaerdydd a gweithio fel ymgynghorydd arbennig i Peter Hain.  Does ganddo ddim profiad o blismona na gweinyddu'r gyfundrefn cyfiawnder.  Rhy ychydig o brofiad o blismona a gormod o brofiad o wleidyddiaeth os y mynwch chi.

Cymharwch hynny efo Arfon.  Mae wedi gweithio am ddeg mlynedd ar hugain fel heddwas, wedi gwneud amrywiol swyddi o fewn yr heddlu, ac wedi bod yn arolygydd.   Mae'n wir ei fod yn aelod o blaid ( a gadewch i ni fod yn onest, gyda'r etholiadau heddlu ar yr un diwrnod a rhai Cynulliad bydd yn nesaf peth i amhosibl i ymgeiswyr annibynnol gael eu hethol) - ond mae ei ddealltwriaeth o blismona wedi ei seilio ar brofiad ymarferol o - wel - blismona, ac nid ar ganfyddiad gwleidydd o'r hyn ydi plismona.  

Mae ganddo agwedd gall, ymarferol, ddyngarol a rhyddfrydig tuag at blismona - agwedd sydd yn deillio o wneud y gwaith tros gyfnod hir.  O'i ethol bydd yn gwybod beth mae'n ei wneud, a bydd y cyfeiriad mae'n ei osod wedi ei seilio ar brofiad, nid ar ddogma.

Mae'r term 'rhowch ddwy bleidlais i'r Blaid' yn cael ei ddefnyddio yn aml yn yr etholiad yma - ond bydd gennych dair pleidlais (neu yn wir pedair) ym Mis Mai.  Defnyddiwch eich pleidlais gyntaf yn etholiadau Comiwsiynydd yr Heddlu i sicrhau cyfeiriad gwybodus, aeddfed ac ymarferol i blismona yng Ngogledd Cymru. 

1 comment:

Gwynfor Owen said...

Mae gan y Blaid ymgeiswyr rhagorol ar gyfer swydd Comisiynydd Heddlu, ac edrych ymlaen I weld Arfon ac un arall yn cael eu hethol