Sunday, May 29, 2016

Ond tydi Llafurwyr Caerdydd yn rhai rhyfedd?

Rydan ni wedi hen arfer bellach at gynghorwyr Llafur Caerdydd yn ymddiswyddo, yn cynllwynio yn erbyn ei gilydd, yn ffraeo ar lawr y cyngor, ond o bosibl ddim atyn nhw'n defnyddio trydar i feirniadau ei gilydd a'r cabinet Llafur.

Ond wele - Russell Goodway (Llafur Elai) ac Ashley Govier (Llafur Grangetown) wrthi ar trydar. 











Dewis syml rhwng Llafur a'r Toriaid



Saturday, May 28, 2016

Week in Week Out a'r Gymraeg

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn ymwybodol nad ydi'r awdur pob amser yn cytuno efo'r BBC pan mae'n dod i faterion gwleidyddol, ond mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf erioed wedi cael lle i feddwl bod tueddiadau gwrthwynebus i'r Gymraeg yn neunydd cyfrwng Saesneg BBC Wales.

Welais i ddim o raglen Week in Week Out y noson o'r blaen chwaith - ond mae rhai a'i gwelodd wedi gweld natur newyddiaduraeth y rhaglen fel tystiolaeth o ddiwylliant gwrth Gymraeg yn y gorfforaeth.  Mae'n debyg ei bod yn hollol wir bod rhai o honiadau'r rhaglen wedi eu seilio ar ddata nad oedd llawer o hygrededd iddo  - ond bod cyfeiriad uniongyrchol at y data hwnnw wedi ei ddileu o'r rhaglen derfynol.  Mae'n ymddangos eu bod hefyd wedi rhoi llais i un ochr o'r ddadl - bod darparu hawliau i ddefnyddwyr y Gymraeg yn ddrud iawn - tra'n anwybyddu'r ochr arall i pob pwrpas.  Dydi'r naill wendid na'r llall ddim yn adlewyrchu'n arbennig o dda ar newyddiaduraeth y rhaglen, ac mae'n awgrymu rhagfarn ar ran y sawl oedd yn gyfrifol amdani - ond dydi hynny ynddo'i hun ddim yn awgrymu rhagfarn corfforaethol wrth gwrs.

Ond wedi dweud hynny mae'n bwysig bod y BBC - a darlledwyr eraill - yn ceisio ymarfer synnwyr cyffredin pan mae'n dod i faterion fel hyn.  Dydi ymdriniaeth newyddiadurol o'r Gymraeg ddim yr un peth ag ymdriniaeth newyddiadurol o faint o bres mae cynghorau yn ei wario ar brif weithredwyr, neu ar sut maent yn gweithredu eu cynlluniau unedol, neu sut mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn dosbarthu adnoddau i lywodraeth leol.  Mae yna fwy yn gyffredin mewn rhai ffyrdd efo hil neu grefydd.  

Mae materion felly yn faterion sensitif - ac mae yna reswm pam eu bod yn sensitif.  Mae cymdeithas yn aml wedi ei rannu ar seiliau crefyddol, ethnig neu ieithyddol - ac mae'n bwysig o safbwynt sicrhau cydlynnedd cymdeithasol nad yw rhai grwpiau yn teimlo bod yna ragfarnau strwythurol yn eu herbyn.  Mae gan ddarlledwyr gwladwriaethol gyfrifoldeb arbennig yn hyn o beth - mae canfyddiad o ragfarn yn erbyn grwp penodol gan ddarlledwr felly yn awgrymu rhagfarn gan y wladwriaeth ei hun. 

 Dydi ymddygiad y gorfforaeth yn ystod refferendwm annibyniaeth yr Alban ddim yn union yr un peth a'r hyn a drafodir ar hyn o bryd, ond mae'r canfyddiad (cwbl gywir) bod y BBC wedi cymryd ochr yn nyddiau olaf, ffrantig yr ymgyrch wedi niweidio delwedd y Gorfforaeth yn yr Alban - ac mae'n un o'r rhesymau tros y surni sydd yn parhau yn yr Alban ynglyn a thegwch y refferendwm - surni fydd yn arwain at refferendwm arall mewn ychydig flynyddoedd.  

Dydw i ddim yn dadlau nad oes trafodaeth i'w chael ynglyn  a chostau sefydlu hawliau cyfartal i grwpiau ieithyddol gwahanol yng Nghymru.  Mae pob dim yn agored i ddadl a thrafodaeth mewn democratiaeth iach.  Ond rhaid i ddadl felly gael ei chynnal mewn ffordd gall a theg - nid ar sail hysteria sy'n cael ei greu gan raglen sy'n seilio ei hymdriniaeth ar ddata amheus a sylwebaeth un ochrog.  

Calliwch bois.

Tuesday, May 24, 2016

Ysgol Feddygol i'r Gogledd gam yn nes

Ychydig iawn o flogiadau Blogmenai sydd wedi eu 'sgwennu gan neb ag eithrio fi - mae yna un neu ddau yn y gorffennol pell.  Ond dwi'n falch o ddweud i Sian Gwenllian gytuno i gynhyrchu un heddiw yn dilyn ei chwestiwn i Carwyn Jones ynglyn a sefydlu ysgol feddygol ym Mangor.  

Mae'n fater o bwys sylweddol i'r Gogledd Orllewin - ac mae gam yn nes o gael ei wireddu heddiw.

Mae sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor gam yn nes heddiw wrth i'r Prif Weinidog Carwyn Jones gydnabod fod angen ystyried creu cynllun busnes ar gyfer sefydliad o'r math fel rhan o gynllun hyfforddi doctoriaid newydd ar draws Cymru. 




Mae'r compact rhwng Plaid Cymru a Llafur yn cynnwys ymrwymiad gan Lafur i greu cynllun i hyfforddi yn ogystal ag i recriwtio mwy o ddoctoriaid. Mae hyn yn gam mawr ymlaen yn y gwaith o wella'r NHS. Mae'n glod i waith y Blaid wrth negodi'r compact grewyd ar sail cytuno i beidio pleidleisio yn erbyn enwebiad Carwyn Jones fel y Prif Weinidog newydd. 


Wrth gwrs mae angen hyfforddi gweithwyr iechyd eraill hefyd i ddiwallu'r prinder staff ond heddiw, yn ystod seshiwn cwestiynau Prif Weinidog, fe benderfynais ganolbwyntio ar ddoctoriaid gan gymryd y cyfle i son am Ysgol Feddygol i'r Gogledd ym Mangor. 


Ar hyn o bryd, does dim dewis gan ein pobol ifanc sydd a'u bryd ar fod yn ddoctoriaid - rhaid iddyn nhw fynd i Dde Cymru neu i un o wledydd eraill y DU i hyfforddi. Mae tystiolaeth yn dangos fod doctoriaid yn aros i weithio yn yr ardal lle cawson nhw eu hyfforddi. Prin iawn yw'r doctoriaid rheini sy'n dychwelyd i weithio i froydd eu mebyd, er efallai mai dyna oedd eu dyhead gwreiddiol. 


Byddai sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor gan adeiladu ar yr arbenigedd meddygol sydd yno'n barod yn creu gweithlu newydd i'r Gogledd, llawer ohonyn nhw yn siarad Cymraeg gan wella'r gwasanaeth i bobol yr ardal. Cafwyd cam pendant ymlaen heddiw pan gytunodd Carwyn Jones fod angen ystyried creu cynllun busnes. 

Byddaf yn dal ati efo hyn dros y misoedd nesaf.

Sian Gwenllian 

Yr etholiad yn Arfon - ychydig o nodiadau

Mi fydda i'n ceisio peidio bod yn rhy blwyfol ar Flogmenai - ond cyn fy mod wedi treulio tipyn o amser yn ymgyrchu yn Arfon ar gyfer etholiad eleni, dwi'n siwr y bydd darllenwyr y blog sy'n byw y tu allan i'r etholaeth yn maddau i mi am gynhyrchu ychydig o nodiadau ar berfformiad y Blaid - a phleidiau eraill - yn yr etholaeth.

Mewn wyth etholaeth yn unig cafodd unrhyw blaid fwy na 50% o'r bleidlais.  Plaid Cymru enillodd dair o 'r rheiny, Llafur enillodd bedair a Kirsty Williams un.  Roedd canran y Blaid yn Arfon yn uwch nag yn unman arall ag eithrio Ogwr - sy'n golygu bod y ganran o'r bleidlais gafodd Sian Gwenllian yn uwch na'r ganran gafodd Carwyn Jones na'r un o'i aelodau cabinet neu weinidogion eraill.  Mae hyn yn gryn gamp i rhywun sy'n sefyll am y tro cyntaf, a sydd o ganlyniad heb gael y cyfle i adeiladu pleidlais bersonol ar hyd a lled yr etholaeth.



Mae gan Lafur bleidlais barchus yn Arfon - 34%.  O ganlyniad mae gwleidyddiaeth yr etholaeth wedi ei bolareiddio mwy nag yn unman arall yng Nghymru.  Pleidleisiodd 89% o'r etholwyr i'r Blaid neu i Lafur.  Dim ond yn y Rhondda ceir polareiddio tebyg - gydag 87% yn pleidleisio i'r ddwy blaid gyntaf.  

Tra bod y 3% y cafodd y Dib Lems yn yr etholaeth yn eithaf nodweddiadol o'u pleidlais tros y rhan fwyaf o Gymru, roedd y 6% y cafodd y Toriaid yn anarferol o isel.  Dim ond yn y Rhondda (2%) roedd eu pleidlais yn sylweddol is - roedd y ganran yn Arfon yn debyg i ganran Merthyr, Cwm Cynon ac Aberafon.  Mae'n eithaf sicr y byddant wedi colli eu hernes petai UKIP wedi trafferthu sefyll yn yr etholaeth.  Yn y Rhondda yn unig y collodd y Toriaid eu hernes y tro hwn.  Mae'n hawdd anghofio bod tua 40% o'r etholaeth (Ogwen a Bangor) yn cael eu cynrychioli gan Dori yn San Steffan hyd at 1997.  Y Dib Lems druan oedd eu prif wrthwynebwyr tan y flwyddyn honno - cawsant eu goddiweddyd gan Beti Williams (Llafur) y flwyddyn honno.  Cafodd Sian bump gwaith cymaint o bleidleisiau na'r Toriaid a'r Dib Lems efo'i gilydd.  

A son am Fangor, dwi'n credu mai Bangor ydi'r unig ddinas i gael ei chynrychioli erioed gan Blaid Cymru ar lefel Cynulliad neu San Steffan - ond roedd y Blaid ymhell ar y blaen yno, gan ennill 8 o'r 10 ward - rhai ohonynt gyda mwyafrifoedd anferth.  Roedd Bangor yn dipyn o gadarnle i'r Blaid yn 2016.  

Er bod Llafur (fel arfer) yn hynod hyderus o gipio'r sedd - ac wedi llusgo rhes di ddiwedd o weinidogion i'r etholaeth tros y misoedd diwethaf ni chawsant bleidlais arbennig o uchel. Cawsant ganran uwch mewn 28 etholaeth arall a phleidlais uwch mewn 31.  Deugain etholaeth sydd yng Nghymru i gyd.  

Yn anarferol roedd y gyfradd pleidleisio yn uwch yn Arfon nag oedd yn y rhan fwyaf o etholaethau tebyg.  Yn wir roedd yn uwch nag oedd yn unrhyw etholaeth yng Ngwynedd, Ynys Mon, Conwy, Fflint, Dinbych na Wrecsam.  


Sunday, May 22, 2016

Etholiad 2016 y Toriaid vs Plaid Cymru

Mae'n debyg gen i bod yna deimlad i Blaid Cymru wneud yn eithaf da yn etholiadau Mai 5 tra bod yToriaid wedi gwneud yn sal.  Ar un olwg mae hyn yn rhyfedd braidd gan bod nifer pleidleisiau a nifer seddi'r ddwy blaid yn debyg iawn.  Serch hynny dwi'n credu bod y canfyddiad yn un cywir - yn arbennig os ydym yn edrych tua'r dyfodol yn hytrach nag aros efo'r canlyniad ei hun.

Mae Vaughan wrth gwrs yn gwbl gywir i dynnu sylw at y ffaith bod y Toriaid yn y Cynulliad yn edrych yn griw digon llwyd o gymharu a'r pleidiau eraill - mae nifer o aelodau newydd wedi eu hethol i Lafur a Phlaid Cymru, mae holl aelodau UKIP (ag eithrio Nathan Gill o bosibl) yn wynebau newydd yn y cyd destun Cymreig, ac mae'r Lib Dems i bob pwrpas wedu eu llyncu gan y Blaid Lafur ar lefel Cynulliad.

Ond mae yna broblemau pellach yn wynebu 'r Toriaid Cymreig hefyd.  Yn gyntaf mae ganddynt gystadleuaeth ar y Dde - rhywbeth nad oedd yn wir yn y gorffennol.  Bydd cystadleuaeth o'r Dde ynglyn a sut i feirniadu'r weinyddiaeth Lafur - bydd yn feirniadaeth mwy lliwgar, mwy popiwlistaidd - a mwy boncyrs nag unrhyw beth fydd gan y Toriaid i'w gynnig.  Bydd ymateb i hyn yn fater braidd yn anodd i'r blaid.  Ydi hi'n ceisio cystadlu efo UKIP? - rhywbeth fyddai yn ei llusgo i'r Dde ac oddi wrth tir canol gwleidyddiaeth yng Nghymru.  Ydi hi'n anwybyddu UKIP? - cwrs fyddai'n arwain ati'n cael ei thaflu i'r cysgod gan rethreg mwy lliwgar ei chyd blaid Adain Dde.

I raddau mae'r Toriaid wedi ffeirio lle efo'r Blaid yn yr ystyr yma - roedd y Blaid yn cystadlu efo'r Lib Dems, a Kirsty Williams yn arbennig yn y senedd diwethaf i feirniadu Llafur.  Mae'r llwyfan hwnnw yn gwbl glir i'r Blaid bellach - ac o farnu o berfformiad hynod ymosodol wythnos gyntaf y senedd newydd mae'n bwriadu cymryd llawn fantais o hynny.  

Ond mae yna fater arall hefyd - sef perfformiad etholiadol y Blaid Doriaidd.  Syrthiodd ei phleidlais y tro hwn wrth gwrs - a chollodd ei statws fel y prif wrthblaid.  Ond dydi'r  Blaid Doriaidd ddim yn gystadleuol mewn rhannau helaeth o Gymru - a dydyn nhw ddim yn dangos unrhyw arwyddion o wella ar hynny.  Cymerer y Gymru Gymraeg er enghraifft.  Ynys Mon - 12%, Arfon 8%, Dwyfor / Meirion 16%, Ceredigion 7%, Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr - 15%.  Mae eu perfformiad yng Nghymoedd y De yn llawer gwaeth.  Dydyn nhw ond yn llwyddo i gael mwy na 10% ar ymylon y Cymoedd - yn Nhorfaen, Pontypridd, Ogwr a Chastell Nedd.  Roedd eu pleidlais mewn digidau sengl yng ngweddill y Cymoedd - 2% oedd eu canran yn y Rhondda.  Mae eu cefnogaeth yn parhau i fod wedi ei wreiddio yn yr ardaloedd a arferid eu disgrifio fel 'y Gymru Seisnig'.  Does yna ddim tystiolaeth bod unrhyw strategaeth o gwbl ar gyfer newid hyn.

Eto mae yna gyferbyniad i'w gwneud  efo Plaid Cymru.  Gydag un eithriad nodedig nad oes angen ei henwi enilliodd ei seddi uniongyrchol ym mherferfedd diroedd traddodiadol yr iaith Gymraeg.  Ond dangosodd bod potensial iddi dyfu mewn rhannau eraill o Gymru.  Roedd canlyniad Gorllewin Caerdydd yn dangos y gall berfformio'n gryf mewn dinasoedd - rhywbeth nad ydi'r Blaid wedi llwyddo i'w wneud o'r blaen. Roedd y perfformiad rhanbarthol yng Ngorllewin De Cymru ac ym Mlaenau Gwent  ( a'r Rhondda wrth gwrs) yn dangos bod potensial gwirioneddol iddi yn y Gymru ol ddiwydiannol.  Roedd perfformiadau'r Blaid yn etholiadau'r heddlu yn dangos bod iddi hefyd gefnogaeth 'feddal' yn y llefydd mwyaf anisgwyl.  Dwi'n credu fy mod yn gywir i ddweud iddi ennill ar yr ail bleidlais ym mhob etholaeth yn y Canolbarth a'r Gorllewin a'r Gogledd.  

Gall un o'r ddwy blaid edrych ymlaen at 2021 gydag hyder - ac nid y Blaid Doriaidd ydi honno. 

Saturday, May 21, 2016

Unig lais y Lib Dems yng Nghymru _ _

_ _ bellach ydi un Mark Williams.

Rwan efo Kirsty Williams wedi ei thraflyncu gan y Blaid Lafur, Mark Williams ydi 'r unig Dib Lem sy'n wleidydd proffesiynol yng Nghymru sydd mewn sefyllfa i ddweud ei ddweud. Roedd cau ceg un o'i feirniaid llymaf a mwyaf effeithiol yn y ffordd yma yn un peth clyfar o leiaf mae Carwyn Jones wedi llwyddo i'w wneud.



Y tro diwethaf i ni fod mewn sefyllfa pan mai un Dib Lem yn unig oedd mewn sefyllfa i agor ei geg oedd cyn etholiad 97, pan mai Alex Carlile oedd unig aelod seneddol Cymreig ei blaid.  Roedd Alex Carlile - beth bynnag ei wendidau - yn llais effeithiol a phendant, a felly hefyd Kirsty Williams.  

Bydd Mark Williams yn - sut allwn ni roi hyn mewn ffordd gweddol gwrtais? - yn lais cyhoeddus llai pendant a llai effeithiol na Kirsty Williams, Alex Carlile - ac yn wir pob arweinydd arall y gallaf feddwl amdano mae'r Dib Lems wedu ei gael yng Nghymru.  

Mae'r ffaith bod Kirsty Williams wedi gadael y llong dyllog yn nwylo Mark Williams yn awgrymu ei bod hi o leiaf wedi rhoi'r ffidil chwedlonol yn y to o safbwynt adfer ei phlaid.  'Dydw i ddim yn gweld bai arni hi.

Wednesday, May 18, 2016

Dameg y Blaid Lafur

Felly dyna ni wedi cyrraedd diwedd y stori fach yma - ac un dda oedd hi hefyd.  Mae hi bron yn ddameg o'r hyn ydi 'r Blaid Lafur yng Nghymru.

Dyna ni'n dechrau efo Carwyn Jones yn methu a chael mwyafrif llwyr, ond yn penderfynu ymddwyn fel petai ganddo un.  Felly dyma wrthod dod i unrhyw delerau efo Plaid Cymru, wrthod gohirio'r bleidlais am Brif Weinidog, fethu paratoi ar gyfer y bleidlais, fethu ymateb i sicrhau ei safle pan ddywedwyd wrtho bod Leanne am sefyll yn ei erbyn.  Ac o ganlyniad methodd ennill y bleidlais.

Dilynwyd hyn oll gan gorwynt ryfeddol o fyllio, tantro a phalu celwydd gan Lafurwyr bach a mawr. Yn naturiol ddigon roedd y Bib yn awyddus i fod yn rhan o'r sterics, ac i ffwrdd a nhw i fyny 'r A470 i Flaenau Gwent - lle'r oedd etholwyr newydd bleidleisio i'r Blaid mewn niferoedd sylweddol - i ailadrodd peth o gelwydd Llafur - fel petai'n Efengyl - wrth drigolion anffodus yr etholaeth.

Ac yna dechreuodd Llafur siarad efo UKIP a'r Toriaid a daeth y myllio, y stampio traed, yr hefru a'r moesoli i ddiwedd di symwth. Dechreuodd Andrew RT Davies awgrymu na fyddai ei blaid yn pleidleisio yn erbyn erbyn Carwyn Jones eilwaith.  

Doedd  Llafur ddim yn awyddus i dderbyn sel bendith o'r cyfeiriad yma a phenderfynwyd  mai'r unig ffordd gall i sicrhau bod eu harweinydd yn ennill  oedd trwy siarad a chyfaddawdu efo Plaid Cymru, digwyddodd hynny, ac agorwyd y ffordd yn ddi drafferth at  ethol Carwyn Jones.  

Mae'r holl stori bron yn ddameg o'r hyn ydi'r Blaid Lafur yng Nghymru - trahaus, twp, wedi ei hargyhoeddi bod ganddi hawl dwyfol i reoli, celwyddog, hysteraidd, rhagrithiol - ond a'r gallu i fod yn ymarferol, synhwyrol a hyblyg pan mae'r hyn mae'n ei charu fwyaf o dan fygythiad - ei 'hawl' i reoli.

Monday, May 16, 2016

Y dirywiad ym mhleidlais Llafur

Dwi'n gwybod nad ydan ni i fod i gymharu etholiadau o fathau gwahanol i'w gilydd.  'Dwi'n gwybod bod cyfraddau pleidleisio yn is mewn etholiadau Cynulliad a dwi hefyd yn gwybod bod etholiadau Cynulliad yn llai ffafriol i Lafur nag etholiadau San Steffan.

Ond mae yna ganfyddiad yng Nghymru bod gwleidyddiaeth Cymru yn ddigyfnewid - pan rydym yn cymharu efo'r Alban o leiaf - a bod yr hegemoni Llafur yn parhau i oroesi - fwy neu lai.  Mae yna beth sail i'r gred honno.  Serch hynny mae'n bwysig cofio bod is seiledd y gefnogaeth Lafur yn dirywio'n sylweddol - ond bod yr hegemoni yn parhau oherwydd cyfuniad o system etholiadol sy'n ffafriol i Lafur a dosbarthiad cefnogaeth ffodus o safbwynt y blaid honno.  Roedd yna amser, yn y gorffennol cymharol agos, pan allai Llafur ddisgwyl i ddegau lawer o filoedd o bobl ddod allan i bleidleisio mewn etholiad ar ol etholiad - byddionoedd o bobl a gweud y gwir.  

I ddangos hyn dwi wedi dethol ychydig o ganlyniadau o etholiad cyffredinol 1997 (etholiad nad oedd yn benllanw i Lafur yng Nghymru gyda llaw) ac etholiadau'r Cynulliad eleni.  Mae'r gwahaniaeth yn sylweddol.  





















Rwan, dwi'n gwybod fy mod wedi nodi bod y system etholiadol yn arbed Llafur rhag llawn effeithiau'r dirywiad yn ei chefnogaeth.  Ond dydi'r system ddim yn eu hamddiffyn o dan pob amgylchiad.  Petai Llafur yn cael llai na 30% - fell ddigwyddodd yn etholiad Ewrop 2014 - byddai'r system yn dechrau gweithio yn erbyn, yn hytrach nag o blaid Llafur.






























Sunday, May 15, 2016

Problemau sylweddol ar y gorwel i Lafur

Mae'r blog yma eisoes wedi cydnabod i Lafur wneud yn dda yng Nghymru ar Fai 5 i'r graddau iddynt lwyddo i golli un sedd yn unig.  Ond wedi dweud hynny, aeth eu pleidlais i lawr yn sylweddol tros y wlad - ac yn arbennig felly mewn rhai ardaloedd penodol.  Wele'r 11 etholaeth lle bu cwymp o tros 10%.

Rhondda - 27.3%
Blaenau Gwent - 24.3%
Castell Nedd - 16.1%
Caerffili - 13.6%
Aberafon - 13.4%
Islwyn - 12.9%
Gorll Caerdydd - 11.5%
Pontypridd  -11.4%
Cwm Cynon  -10.9%
Pen y Bont - 10.9%
Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr - 10.8%

Yr hyn sy'n drawiadol ydi iddynt oll - ag eithrio'r olaf - ddigwydd mewn ardaloedd lle mae Llafur yn rheoli ar y cynghorau.  Mae cynghorau wedi gorfod torri yn ol yn sylweddol ar wariant wrth gwrs - ac at ei gilydd mae cynghorau Llafur wedi gwneud joban wael arni.

Bydd etholiadau'r cynghorau yn cael eu cynnal mewn blwyddyn - ac mae gan Llafur gryn le i boeni wrth edrych ymlaen atynt.  Petawn i yn Lafurwr byddwn yn poeni am Rhondda Cynon Taf, , Caerffili,  Castell Nedd Port Talbot, Blaenau Gwent a Chaerdydd - yn y drefn yna.


Friday, May 13, 2016

Marwolaeth rhyfedd y Lib Dems Cymreig

Llyfr gan George Dangerfield yn egluro marwolaeth di symwth y Rhyddfrydwyr yn Lloegr yn y blynyddoedd wedi 1918 ydi The Strange Death of Liberal England.  Aeth y blaid o fod yn un a bron i 400 o seddi a bron i hanner y bleidlais yn 1906 i drydydd plaid yn y 20au i bolio llai na 10% (2.7% yn 1955 er enghraifft) ac ennill llond dwrn o seddau yn y 50au.  Roedd y prosesau a arweiniodd at gwymp y blaid yn gymhleth os hawdd eu hadnabod.  Wnaeth y Rhyddfrydwyr ddim dechrau ad ennill tir mewn gwirionedd am hanner canrif wedi 'r gwymp.

Mae'n debyg na fydd neb byth yn ysgrifennu llyfr am farwolaeth rhyfedd y Lib Dems yng Nghymru, a dydi'r blaid heb ddod yn agos at uchelfannau 1906 yng Nghymru mewn blynyddoedd diweddar, ond mae'r math o bleidlais y cafodd y Lib Dems mewn rhannau eang o Gymru eleni yn debyg i 'r hyn y byddant yn ei gael yn y 50au - os nad yn waeth.

Ac un o'r pethau rhyfeddol ydi fel mae bron i'r cwbl o bleidlais y blaid wedi ei chanoli ar rannau cyfyng iawn o Gymru erbyn hyn.  Ystyrier y sylwadau yma gan Jason Morgan er enghraifft:




Gadewch i ni ystyried tipyn yn fanylach.

40 etholaeth sydd yno i gyd - cafodd y Dib Lems lai na 1,000 o bleidleisiau mewn mwy na'i hanner - 21 sedd i gyd.  Os ydan ni'n adio sgor y 21 etholaeth at ei gilydd cawn gyfanswm o 13,617 - sy'n llai na'r bleidlais gafodd Kirsty Williams ym Mrycheiniog a Maesyfed.

Cafodd y Dib Lems tua 1% mewn pum etholaeth - Ynys Mon, Llanelli, Rhondda, Blaenau Gwent a Chaerffili.  Petaent wedi cael yr holl bleidleisiau yna mewn un etholaeth mae'n anhebygol y byddant wedi cadw eu hernes.

Mewn tair etholaeth yn unig y cafodd y blaid fwy na 30%, mewn pedair y cafwyd mwy nag 20% ac mewn 6 y cafwyd mwy na 10%.  Os ydych chi angen rhyw fath o gymhariaeth, cafodd y blaid 10%+ ym mhob etholaeth ag eithrio Ynys Mon yn Etholiad Cyffredinol 2010.



Oes yna wersi i 'w dysgu o'r hyn ddigwyddodd i Ryddfrydwyr Lloegr yn y gorffennol?  Oes mae'n debyg.  Y gyntaf ydi bod y ffordd yn ol yn un faith ac anodd ar ol trychineb etholiadol.  Bydd i ddigwyddiadau dechrau'r mis oblygiadau pell gyrhaeddol - gan gychwyn yn etholiadau lleol y flwyddyn nesaf.  Yr ail ydi ei bod yn bosibl goroesi am gyfnodau maith mewn ambell i ardal, hyd yn oed pan mae'r hwch wedi mynd trwy'r siop go iawn ym mhob man arall.  Parhaodd y Rhyddfrydwr i ennill seddau yn Nhrefaldwyn a Cheredigion hyd yn oed pan nad oeddynt yn gystadleuol yn yr unman arall yn y DU bron.   

Ond ar wahan i hynny mae'r Dib Lems bellach yn ymylol i wleidyddiaeth Cymru - ac yn debygol o aros felly am gyfnod maith.

A beth am hon?  





Wednesday, May 11, 2016

Arweiniad yr idiot i beth ddigwyddodd heddiw

1). Mae Llafur yn rhoi eu harwrinydd ger bron y Senedd fel eu henwebai ar gyfer y swydd o Weinidog Cyntaf.

2). Er nad oes ganddyn nhw'r niferoedd i sicrhau bod eu harwrinydd yn cael ei ethol, dydyn nhw ddim yn trafferthu gwneud unrhyw waith codi pontydd paratoadol.  Y rheswm am hyn ydi bod y gred bod  ganddi ddwyfol hawl i reoli Cymru wedi ei wreiddio yn dwfn yn DNA Llafur Cymru.

3). Mae Plaid Cymru yn cynnig ei harweinydd hithau i'r Senedd fel Gweinidog Cyntaf / Prif Weinidog.

4).  Mae Llafur a'r un aelod Dib Lem yn pleidleisio i'r Llafurwr, mae pawb arall yn pleidleisio i'r Bleidwraig.  Mae'r bleidlais yn gyfartal.

5). Yn hytrach na gofyn iddyn nhw eu hunain pam bod y Toriaid ac UKIP yn ei chael yn haws pleidleisio i un o aelodau mwyaf Adain Chwith y Senedd, sy'n credu mewn chwalu'r DU, ac aros yn Ewrop yn hytrach nag i'w hymgeisydd nhw - mae Llafur yn gwneud yr un peth ag arfer - palu celwydd, cael sterics a dychwelyd at wleidyddiaeth yr anterliwt.  

A beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd Llafur yn gwneud yr hyn y dylent fod wedi ei wneud ar y cychwyn a dangos mymryn o wyleidd- dra a gwneud ychydig o waith paratoi cyn mynd i bleidlais.  Bydd eu hymgeisydd yn cael ei ethol wedyn.  

Tuesday, May 10, 2016

Arwyddocad canlyniad Comiwsiynydd Heddlu'r Gogledd

Un o'r pethau sydd wedi ei golli braidd yn dilyn etholiadau dydd Iau diwethaf ydi perfformiad rhyfeddol o gryf Arfon Jones o Blaid Cymru yn yr etholiad am Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd. Ystyrier y tabl cyntaf - sy'n dangos o ble y daeth y pleidleisiau cyntaf yn ol etholaeth.



Daeth y Blaid yn gyntaf yn Aberconwy, Arfon, Dwyfor Meirion ac Ynys Mon - a daeth o fewn chwe phleidlais i ddod ar y brig yng Ngorllewin Clwyd.  Daeth o flaen yr ymgeiswyr annibynnol ac UKIP ym mhob etholaeth, daeth o flaen y Toriaid yn saith o'r deg etholaeth a daeth o flaen Llafur yn hanner yr etholaethau - weithiau gyda mwyafrifoedd anferthol.  Daeth yn ail gweddol agos yn Wrecsam.  

Dangos beth ddigwyddodd i'r ail bleidleisiau yn ol etholaeth mae'r ail dabl.  Y ddwy res uchaf ydi'r rhai pwysig - PC ydi'r gyntaf a Llafur ydi'r ail.




Mae'r Blaid yn cael mwy o ail bleidleisiau na Llafur ym mhob etholaeth - weithiau llawer  mwy. Ni chafodd ail bleidleisiau Llafur eu cyfri oherwydd bod y blaid honno yn ail - ond o'r hyn y gallwn weld yng Nghaernarfon nos Iau, roedd cyfran uchel iawn ohonynt yn mynd i'r Blaid.

Beth felly ydi arwyddocad hyn oll?  Wel -  mae cryfder y perfformiad yn arwyddocaol -  gyda'r Blaid yn cymryd bron i draean y pleidleisiau ar hyd y rhanbarth.  Gwnaethwyd hynny er gwaethaf ymgyrch driciau budron a arweiniodd at sylw cyfryngol negyddol eang ac ymgais hollol hurt a di glem gan un o aelodau Cynulliad y Blaid i gael pleidwyr i bleidleisio'n dactegol i'r ail blaid er mwyn stopio'r pedwerydd ddod yn gyntaf.



Ond mae yna arwyddocad pellach hefyd.  Mae yna rannau o'r Gogledd lle mae pobl wedi pleidleisio i'r Blaid yn naturiol ers hanner canrif.  Ond ar un ystyr mae'r rhanbarth yn ddwy wlad wahanol, ac yn rhai o'r llefydd yma byddai fotio i'r Blaid yn rhywbeth eithaf rhyfedd i'w wneud.  Mae yna lawer o bobl yn yr ardaloedd hyn sydd wedi rhoi un o'u dwy bleidlais i'r Blaid yn yr etholiadau hyn am y tro cyntaf erioed.  Mae pleidleisio i'r Blaid wedi cael ei normaleiddio mewn rhannau o Gymru sy'n anghyfarwydd efo gwneud hynny.

Adlewyrchwyd hyn mewn rhannau eraill o Gymru - Caerdydd er enghraifft.  Cafodd y Blaid fwy o bleidleisiau'n gyfforddus na'r Lib Dems yn y brif ddinas.  Hyd yn gymharol ddiweddar roedd y Dib Lems yn dominyddu gwleidyddiaeth leol yng Nghaerdydd.

Roedd yr hyn ddigwyddodd yng Nghaerdydd yn gam mawr ymlaen o ran Cymreigio gwleidyddiaeth, mewn rhannau o'r wlad sy'n tueddu i ddilyn patrymau etholiadol Seisnig.  Roedd pleidlais wych Arfon yn y Gogledd yr un mor bwysig - ac am yr un rheswm.  

Sunday, May 08, 2016

Sibrydion - eto

Plaid yn polio'n gryf ar ail bleidleisiau'r Gogs.  Edrych yn gadarnhaol iawn.

Sibrydion 4

Plaid yn polio'm gryf ar yr ail bleidlais yn y Gogs

Sibrydion 3

Ail bleidlais llanelli
Pc 5047 tories 1147, dwyrain caerfyddin pc 3569 ltories 1356

Sibrydion 2

Ail bleidlais Llafur yn mynd yn drwm iawn i'r Blaid yn Dyfed Powys.

Sibrydion

Ail bleidleisiau yn mynd yn drwm iawn i'r Blaid yn Dyfed Powys (PCC).  Plaid yn debygol iawn o ennill.

Neil Hamilton a'r gyfundrefn aparteid

Ymddengys bod posibilrwydd cryf mai Neil Hamilton fydd arweinydd ei blaid yn y Cynulliad.  I ni fod yn glir yngyn a Mr Hamilton - mae rhai o'i agweddau yn dra gwahanol i rai'r rhan fwyaf o bobl - neu'r rhan fwyaf o bobl sy'n byw yn yr unfed ganrif ar hugain o leiaf.

Stori yma.




Cwis y diwrnod

Mi wnawn ni hon yn gymharol hawdd.  

Mae naill a'i dyn yn y crys glas neu'r dyn efo sbectol ar ochr dde'r llun newydd ennill sedd Gorllewin Caerdydd.  Pa un gafodd y sedd?


Friday, May 06, 2016

Sylwadau ar etholiad echdoe

Reit ta - rwan mae'r posteri yn dod i lawr a rwan 'dwi wedi cael awr neu ddwy o gwsg - ychydig o sylwadau cychwynol.



Y peth cyntaf i'w ddweud ydi bod y system etholiadol yn un rhyfeddol o anhyblyg.  A bod yn deg nid y system ynddi ei hun ydi'r broblem - ond cyfuniad o'r system a dosbarthiad cyfnogaeth bleidiol yng Nghymru.  Serch hynny 'dydi cyfundrefn lle mae cwymp sylweddol yng nghefnogaeth plaid wleidyddol ddim yn cael ei adlewyrchu gan gwymp cyfatebol yn eu cynrychiolaeth seneddol.

Yn ail mae'n rhaid cydnabod i Lafur wneud yn dda - nid cymaint o ran eu pleidlais - syrthiodd hwnnw - ond yn hytrach o ran perfformio'n dda ble roedd rhaid iddynt wneud yn dda.  Yn ddi amau mater o ganolbwyntio adnoddau ar seddi allweddol oedd hyn - a hefyd - ag ystyried mor agos oedd hi yn rhai o'r seddi - roedd yna lwc ar waith hefyd.



O ran y Blaid, mae'r wers yn weddol amlwg.  At ei gilydd gwnaeth yn dda lle'r oedd peirianwaith effeithiol ar lawr gwlad, a pherfformiodd yn siomedig lle nad oedd peirianwaith felly yn bodoli.  Dydi o ddim ots pa mor dda ydi maniffesto, polisiau, ymgeiswyr a naratif etholiadol - roedd y Blaid filltiroedd o flaen pawb arall yn erbyn y mesuriadau hynny - mae'n rhaid wrth beirianwaith i wneud i hynny gyfri - yma yng Nghymru o leiaf.  Mae'n debyg y dyliwn hefyd adlewyrchu ar y ffaith i ni ddod yn agos iawn - unwaith eto - mewn nifer o seddi a methu.  Roedd rhai o'r seddi yna yn agos iawn yn ddaearyddol i etholaethau lle enillodd y Blaid yn hawdd iawn.  Mae angen o ddifri meddwl am hynny.

Roedd y canlyniad yn amlwg yn siomedig i'r Toriaid.  Yn ystod yr haf roedd pethau'n edrych yn addawol iawn iddynt.  Mater syml o ddefnyddio data Mai 2015, llusgo eu pobl i'r bythau pleidleisio a dibynu ar y ffaith nad ydi pleidleiswyr Llafur yn arbennig o dda am ddod allan i bleidleisio mewn etholiadau Cynulliad oedd rhaid ei wneud.  O wneud hynny,bryd hynny, gallai cyfres o seddi fod wedi syrthio iddynt.  Ond ers hynny maent wedi mynd ati i handbagio'i gilydd yn gyhoeddus gyda pheth arddeliad, ac mae hynny wedi niweidio eu delwedd yn sylweddol.

O ran y Lib Dems mae nhw wedi cael eu chwalu tros rannau eang o Gymru.  Roedd eu perfformiad yn waeth nag un Plaid Diddymu'r Cynulliad mewn dau ranbarth, yn Arfon echnos roedd yna flychau lle nad oedd hi'n bosibl dod o hyd i gymaint ag un pleidlais iddynt.  I bob pwrpas maent bellach yn blaid pedair etholaeth yng Nghymru - Ceredigion, Brycheiniog a Maesyfed, Trefaldwyn a Chanol Caerdydd.  Mae'n blaid sydd bellach yn hollol amherthnasol tros rannau eang o'r wlad.  Bydd rhaid iddynt chwarae eu triciau budur mewn rhannau mwyfwy cyfyng o'r wlad.

Mae UKIP wedi cael etholiad dda, ond o bosibl ddim llawn cystal ag y byddent wedi gobeithio.  Dydan ni ddim yn gorfod mynd yn ol yn rhy bell i weld y polau'n awgrymu y byddant yn cael dwy sedd ranbarthol ym mhob etholaeth.  Ta waeth, byddant yn ddigon hapus - er bod eu grwp wedi hollti'n ddwy garfan cyn cychwyn. Duw a wyr sawl carfan fydd yna mewn chwe mis.   

Byddant yn wahanol i'r pleidiau eraill, a dylanwad negyddol di gydweithrediad fyddant yn bennaf - fel y buont yn senedd Ewrop.  Serch hynny, mae yna leiafrif arwyddocaol o bobl yng Nghymru yn rhannu eu hagweddau (a'u rhagfarnau gwaelodol) ac efallai nad yw'n ddrwg o beth i gyd bod yr agweddau / rhagfarnau hynny yn cael cynrychiolaeth ar lefel Cynulliad - yn wahanol i senedd y DU.  O ran eu dyfodol mae'n dibynu ar sut y bydd UKIP Lloegr yn ail ddiffinio ei hun yn dilyn refferendwm Ewrop.  Adlewyrchiad o ddylanwad Lloegr ar wleidyddiaeth Cymru ydi llwyddiant y blaid yng Nghymru, ac yn Lloegr y bydd ei dyfodol yng Nghymru yn cael ei benderfynu. 

A'r dyfodol yng Nghymru?  Pum mlynedd arall o Lafur - a phum mlynedd arall o'r un hen beth.  Oherwydd bod eu gwleidydda negyddol, anterliwtaidd wedi amddiffyn eu seddi (os nad eu canran o'r bleidlais) byddant yn parhau i'w ddefnyddio.  Oherwydd mai un sedd mae pum mlynedd o danberfformio alaethus wedi ei gostio iddynt, byddant yn parhau i dan berfformio ar eu maniffesto di weledigaeth, di uchelgais.  Oherwydd nad oes cosb am fethiant, byddant yn parhau i fethu.  Bydd perfformiad cymharol Cymru wedi dirywio ymhellach - a byddwn mewn lle gwaeth yn 2021 nag ydym ynddo heddiw.

A'r ffordd ymlaen?  Mater i flogiad arall ydi hynny.

Sibrydion 9

Plaid i ddal Arfon efo tua 55% o'r bleidlais

Sibrydion 8

Gorllewin Caerdydd yn agos

Sibrydion 7

Plaid yn gwneud yn dda yn Rhondda, Blaenau Gwent ac Aberconwy.  Pleidlais i fyny yn gyffredinol.

Sibrydion 6

PC yn perfformio'n gryf yn Aberconwy

Sibrydion 5

Agos yn Llanelli

Thursday, May 05, 2016

Sibrydion 4

Son bod mwyafrif y Blaid ym Mon am fod yn uchel iawn

Sibrydion 3

Llafur yn perfformio'n gryfach yn Arfon nag o'r blaen - ond Plaid Cymru ar y blaen yn eithaf cyfforddus hyd yn hyn.  Pleidlais pawb arall yn chwalu - wedi polareiddio yn llwyr.

Sibrydion 2

Rhagolygon cynnar bod Plaid am ennill yn hawdd iawn ym Mon.

Sibrydion

Sibrydion cynnar iawn bod Plaid Cymru yn mynd i ennill Arfon yn eithaf cyfforddus

Wednesday, May 04, 2016

Pa mor gywir oedd y polau Cymreig yn 2011?

Y tro diwethaf roedd yna etholiad Cynulliad roedd y polau yn gor gyfri'r bleidlais Lafur - ac yn tan gyfri'r un Doriaidd (a'r un Plaid Cymru i raddau llai).  Y rheswm tebygol am hyn ydi bod pleidleiswyr Llafur yn llai tueddol i bleidleisio na chefnogwyr pleidiau eraill.  


Ac mi ddigwyddodd rhywbeth tebyg yn etholiadau Ewrop 2014.  


Mae'r pol diwethaf yn rhoi 33% i Lafur.  Os ydi'r gor gyfrifo yn debyg y tro hwn - ac efallai na fydd - bydd  eu gwir ganlyniad tua 28% - 14% yn is nag oedd yn 2011.  Os bydd hynny 'n digwydd, bydd cyfres o seddi yn syrthio - gan gynnwys rhai sy'n edrych yn gwbl ddiogel.

Dim ond dweud.





Pob lwc _ _

_ _ i bawb sy'n sefyll yn enw'r Blaid fory - yn yr etholaethau, ar y rhestrau ac am swyddi comisiynwyr yr heddlu.  Cofiwch fynd allan i bleidleisio trostynt - oni bai eich bod eisoes wedi gwneud hynny trwy'r post.  

Mae'n arfer i Flogmenai ddechrau adrodd ar sibrydion sydd o gwmpas am ganlyniadau unigol yn fuan wedi i'r bythau pleidleisio gau.  Dydi 'r hyn rwyf yn ei glywed ac adrodd arno ddim yn 100% siwr o fod yn gywir wrth gwrs - ond dwi ddim yn meddwl ein bod wedi galw unrhyw ganlyniad yn anghywir hyd yn hyn.  

Felly galwch draw ar y blog o bryd i 'w gilydd ar ol 10 fory.  Mi adawaf i chi wybod os 'dwi'n clywed rhywbeth.

Tuesday, May 03, 2016

Mae gennych chi dair pleidlais - defnyddiwch nhw

Mwy o ddeunydd uniaith Saesneg _ _

_ _ gan Lafur wrth gwrs.

'Does yna ddim llawer o siaradwyr Cymraeg yng Nghasnewydd - ond mae'n amlwg nad ydi Jayne Bryant eisiau eu pleidlais nhw.







Monday, May 02, 2016

Ail dudalen flaen y diwrnod

Rhywbeth arall na fyddwn ei eisiau ar gychwyn wythnos etholiad.


Tudalen flaen y diwrnod

Aw - yr union y stori fyddai plaid ei heisiau dri diwrnod cyn etholiadau:


Beth sydd gan Llafur Cymru a'r Alban yn gyffredin?

Sunday, May 01, 2016

Cyn arweinydd (Llafur) Cyngor Caerdydd - eto

Mae'n bosibl parchu ieithoedd lleiafrifol mewn etholiad

Fel mae'r pamffled hwn o Dde Caerdydd / Penarth yn ei ddangos. Gwers i Lafur a'r Dib Lems yn yr etholaeth - dwy blaid sydd methu dangos parch at iaith frodorol y wlad yn yr etholaeth honno - a thu hwnt.