Wednesday, May 18, 2016

Dameg y Blaid Lafur

Felly dyna ni wedi cyrraedd diwedd y stori fach yma - ac un dda oedd hi hefyd.  Mae hi bron yn ddameg o'r hyn ydi 'r Blaid Lafur yng Nghymru.

Dyna ni'n dechrau efo Carwyn Jones yn methu a chael mwyafrif llwyr, ond yn penderfynu ymddwyn fel petai ganddo un.  Felly dyma wrthod dod i unrhyw delerau efo Plaid Cymru, wrthod gohirio'r bleidlais am Brif Weinidog, fethu paratoi ar gyfer y bleidlais, fethu ymateb i sicrhau ei safle pan ddywedwyd wrtho bod Leanne am sefyll yn ei erbyn.  Ac o ganlyniad methodd ennill y bleidlais.

Dilynwyd hyn oll gan gorwynt ryfeddol o fyllio, tantro a phalu celwydd gan Lafurwyr bach a mawr. Yn naturiol ddigon roedd y Bib yn awyddus i fod yn rhan o'r sterics, ac i ffwrdd a nhw i fyny 'r A470 i Flaenau Gwent - lle'r oedd etholwyr newydd bleidleisio i'r Blaid mewn niferoedd sylweddol - i ailadrodd peth o gelwydd Llafur - fel petai'n Efengyl - wrth drigolion anffodus yr etholaeth.

Ac yna dechreuodd Llafur siarad efo UKIP a'r Toriaid a daeth y myllio, y stampio traed, yr hefru a'r moesoli i ddiwedd di symwth. Dechreuodd Andrew RT Davies awgrymu na fyddai ei blaid yn pleidleisio yn erbyn erbyn Carwyn Jones eilwaith.  

Doedd  Llafur ddim yn awyddus i dderbyn sel bendith o'r cyfeiriad yma a phenderfynwyd  mai'r unig ffordd gall i sicrhau bod eu harweinydd yn ennill  oedd trwy siarad a chyfaddawdu efo Plaid Cymru, digwyddodd hynny, ac agorwyd y ffordd yn ddi drafferth at  ethol Carwyn Jones.  

Mae'r holl stori bron yn ddameg o'r hyn ydi'r Blaid Lafur yng Nghymru - trahaus, twp, wedi ei hargyhoeddi bod ganddi hawl dwyfol i reoli, celwyddog, hysteraidd, rhagrithiol - ond a'r gallu i fod yn ymarferol, synhwyrol a hyblyg pan mae'r hyn mae'n ei charu fwyaf o dan fygythiad - ei 'hawl' i reoli.

No comments: