Thursday, June 09, 2016

Beth mae Loughinisland yn ei ddweud wrthym am y cyfryngau Prydeinig?

Mae'r stori heddiw am Ombwdsman yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon yn cadarnhau'r hyn roedd y rhan fwyaf o bobl sydd a diddordeb yng Ngogledd Iwerddon yn ei wybod beth bynnag - bod cysylltiadau agos rhwng y sawl a lofruddiodd 6 dyn oedd yn gwylio gem bel droed mewn bar yn Loughinisland, Swydd Down yn 1996 a'r heddlu - yr RUC. Mae'r adroddiad hefyd yn cysylltu'r lluoedd diogelwch efo mewnforio arfau anghyfreithlon i Ogledd Iwerddon - arfau a ddefnyddwyd i lofruddio 70 o Babyddion.



Y perygl efo'r ffordd mae'r adroddiadau ar y cysylltiadau rhwng y lluoedd diogelwch yng Ngogledd Iwerddon a llofruddiaethau gan grwpiau parafilwrol teyrngarol yn cael eu rhyddhau yn araf bach tros gyfnod o flynyddoedd ydi i bobl feddwl mai digwyddiadau ynysig a phrin oedd y digwyddiadau.  Y gwir ydi bod yna gysylltiadau rhwng y lluoedd diogelwch a channoedd o lofruddiaethau parafilwrol.

Er enghraifft roedd cysylltiad clos rhwng y lluoedd diogelwch a'r Glennane Gang ym mlynyddoedd cynnar yr ymladd.  Llofruddwyd 120 o bobl gan y grwp hwnnw.  Mae yna lawer o enghreifftiau eraill.

Rwan, doedd hyn i gyd ddim yn digwydd mewn gwagle.  Roedd llawer o'r wybodaeth sy'n cael ei ddatgelu yn raddol ar hyn o bryd ar gael yn ystod y cyfnod.  Roedd yna honiadau bod cysylltiad rhwng yr RUC a Loughinisland o'r dechrau'n deg - ac roedd hynny 'n wir am lawer o lofruddiaethau teyrngarol eraill.  Parhaodd y sefyllfa yma trwy gydol y cyfnod fwy neu lai - un rheswm am hynny oedd na chymrodd y cyfryngau torfol fwy neu lai ddim diddordeb yn yr hyn oedd yn digwydd - a'r rheswm am hynny oedd oherwydd eu bod yn ystyried mai eu prif bwrpas oedd cefnogi llywodraeth y DU yn eu rhyfel yn erbyn y gwahanol grwpiau parafilwrol gweriniaethol.

Roedd hynny'n hynod o anffodus gan bod dealltwriaeth llywodraethau Prydeinig o 'r sefyllfa roeddynt yn ymgodymu a hi yn ystod y rhan fwyaf o'r cyfnod yn sylfaenol wallus.  Yn ystod blwyddynyddoedd cyntaf y gwrthdaro roedd llywodraeth y DU yn dehongli'n gywir - roedd yn cydnabod mai adlewyrchiad o broblem wleidyddol ehangach oedd y gwrthdaro ar y strydoedd - ac roeddynt yn ceisio dod o hyd i atebion gwleidyddol (yn ogystal a milwrol).  Ond newidwyd polisi yn y saith degau canol a dechreuodd y llywodraeth drin y broblem fel un droseddol syml.  Dyna arweiniodd at y llysoedd di reithgor, at ddiddymu statws gwleidyddol i garcharorion, at yr ymgeisiadau cyfryngol i gysylltu parafilwriaeth gweriniaethol efo pob math o dor cyfraith arall.  

Dydi hi ddim yn bosibl - gan amlaf - datrys problem wleidyddol trwy smalio mai un droseddol syml ydi hi. O ganlyniad i'r arfer o drin carcharorion parafilwrol fel drwgweithredwyr cyffredin cafwyd y protestiadau budur yn y Maze, ac arweiniodd hynny yn ei dro at yr ymprydio a'r marwolaethau yn y carchar hwnnw - cyfres o ddigwyddiadau a fwydodd y trais a'r anhrefn am flynyddoedd maith wedyn Ac yna - o 'r diwedd - yng nghanol y naw degau - penderfynwyd trin y broblem fel un wleidyddol unwaith eto, a chafwyd datrysiad o fath i broblem oedd yn ymddangos yn amhosibl i'w datrys.

A thrwy hyn oll methodd y cyfryngau yn llwyr - methwyd gweld ymgyrch o lofruddio secteraidd oedd yn cael ei yrru i raddau helaeth gan bobl oedd yn cael eu cyflogi gan lywodraeth y DU, a methwyd a beirniadu dehongliad o'r gwrthdaro oedd yn amlwg hurt, ac yn arwain at fwy o wrthdaro.  

Mae'r holl hanes yn adrodd cyfrolau am y cyfryngau Prydeinig - mae yna anghytuno chwerw rhyngddynt tros fanion, ond pan mae'n dod i faterion tramor, neu sefyllfaoedd sy 'n cael eu dehongli fel bygythiadau i'r DU maent yn rhyfeddol o debyg.  

No comments: