Saturday, June 04, 2016

Wyth rheswm i boeni am refferendwm Ewrop

Er bod y marchnadoedd betio yn parhau i awgrymu mai'r ochr aros fydd yn ennill yn refferendwm Ewrop ddiwedd y mis, mae'r polau wedi closio yn sylweddol yn ystod y dyddiau diwethaf - ac mae yna le i boeni bod pethau am fod yn agos iawn - ac y gallai'r ochr gadael ennill y dydd.

Yn fy marn i mae'r ymgyrch aros yn wynebu nifer o broblemau.  Dwi'n eu rhestru isod.

1). Mae arweinyddiaeth y Blaid Doriaidd yn arwain yr ymgyrch.  Oherwydd bod Cameron ac Osborne wedi treulio cymaint o amser tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn gwneud mor a mynydd o fod yn Ewrosceptiaid mae'r Ewrofrwdedd diweddar yn ymddangos yn ffug.  Mae'r cyferbyniad yma yn effeithio ar hygrededd yr ymgyrch.

2). Y negyddiaeth di ddiwedd - rydym eisoes wedi trafod hyn.

3).  Diffyg proffil arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn yr ymgyrch.  Mae yna leiafrif sylweddol o gefnogwyr Llafur sydd ddim yn eglur ynglyn a safbwynt eu plaid tuag at aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropiaidd.  Dydi hi ddim yn bosibl i'r ochr aros ennill y refferendwm yma oni bai bod mwyafrif clir o gefnogwyr Llafur yn pleidleisio i aros - ac yn dod allan i bleidleisio ar y diwrnod.

4). Y berthynas rhwng oedran yr etholwyr a'r patrymau pleidleisio.  Pobl mewn oed sydd fwyaf tebygol o bleidleisio i adael, a nhw hefyd sydd fwyaf tebygol i bleidleisio.  Pobl ifanc sydd fwyaf tebygol o bleidleisio i aros, a nhw sydd leiaf tebygol o bleidleisio.  Bydd cyfraddau pleidleisio gwahaniaethol - a bydd hynny o fantais i'r ochr gadael.

5). Ar wahan i'r Alban yn Llundain mae'r gefnogaeth uchaf i'r ochr aros - ac mae cyfraddau pleidleisio yn tueddu i fod yn isel yn Llundain.  Serch hynny mae cyfraddau pleidleisio yn uchel yn yr Alban - a bydd yr ochr aros yn cael eu digolledu yn rhannol oherwydd hynny.

6).  Yr economi ydi prif gryfder yr ochr aros, mewnfudo ydi prif gryfder yr ochr gadael.  Dydi'r economi ddim yn y newyddion llawer ar hyn o bryd oherwydd nad oes yna ddim argyfwng ar y gorwel, mae mewnfudo a ffoaduriaid yn y newyddion dragwyddol oherwydd gwahanol argyfyngau'r Dwyrain Canol.

7). Fel rheol mewn refferendwm mae gan yr ochr sydd ddim eisiau newid fantais o'r cychwyn - mae yna lawer o bobl yn ofn newid o unrhyw fath.  Mae'r amgylchiadau'n wahanol yma - i lawer o bobl mewnfudo ydi prif yrrwr newid yn y DU.  I'r bobl hynny pleidlais yn erbyn newid ydi pleidlais i adael.

8). Mae'r rhan fwyaf o'r cyfryngau print poblogaidd eisiau - ac maent yn gwneud eu safbwynt yn gwnl glir.  

No comments: