Saturday, June 11, 2016

Y blynyddoedd wedi'r refferendwm os y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropiaidd

Mae pethau'n edrych yn agos ar gyfer y refferendwm Ewrop - ac mae hynny'n rhannol oherwydd nad ydi'r gefnogaeth i'r ochr Aros ddim yn edrych mor soled ymysg y grwpiau y byddai rhywun yn disgwyl y byddai'n pleidleisio iddynt.  

Yn bersonol dwi ddim yn credu'r darogan gwae economaidd gan yr ochr Aros(na'r ochr Gadael).  Mae'n ddigon posibl y bydd anhrefn yn y marchnadoedd stoc ac arian tros dro os bydd y DU yn gadael yr Undeb - ond mae marchnadoedd a busnesau yn addasu'n sydyn i 'r sefyllfaoedd sy'n eu hwynebu.  Yr hyn sydd yn fy mhoeni fi mwy ydi'r math o wladwriaeth y bydd y DU ar ol cyfnod maith o lywodraethu Adain Dde.  Gallai'n hawdd esblygu i fod yn wladwriaeth o fath tra gwahanol i'r hyn ydyw ar hyn o bryd.

Bydd y Dde oddi mewn i'r Blaid Geidwadol yn ennill goruwchafiaeth.  Bydd rhaid i Cameron ymddiswyddo, ac os na wnaiff hynny bydd yn cael ei wthio.  Bydd aelodaeth y Blaid Geidwadol yn dewis arweinydd sy'n erbyn Ewrop - a bydd hwnnw / honno ar asgell Dde ei blaid.  Mae yna resymau pam y bydd y Blaid Geidwadol yn anodd i'w symud o lywodraeth am flynyddoedd lawer.  

Dydi'r anhrefn oddi mewn i'r Blaid Lafur ddim yn debygol o leihau hyd yn oed os nad Corbyn fydd yn eu harwain i'r etholiad nesaf.  Mae'n amlwg bod aelodaeth cyffredin y blaid Lafur a'u haelodau etholedig mewn dau le gwahanol - cwbl wahanol - ar hyn o bryd.  Tra bod y sefyllfa yna'n parhau mae am fod yn hynod anodd i Lafur wneud argraff mewn etholiad cyffredinol.

Un o 'r ychydig bethau y gallwn fod yn siwr ynglyn a nhw am ganlyniad y refferendwm ydi y bydd yr Alban yn pleidlesio i aros yn y DU.  Erbyn hyn mae diwylliant gwleidyddol yr Alban yn gwbl wahanol i un gweddill y DU.  Does gan yr Alban ddim dyfodol hir dymor yn y DU beth bynnag - mae natur demograffaidd y gefnogaeth i adael y DU yn ei gwneud yn hynod debygol y bydd yn gadael mewn llai na dau ddegawd beth bynnag.  Gallai cael ei gorfodi i adael yr UE - wedi i'r perygl i aelodaeth yr Alban yn y DU gael ei ddefnyddio fel un o'r prif ddadleuon yn erbyn annibyniaeth i'r Alban - yn hawdd arwain at yr Alban yn cael refferendwm cyn 2020 - a gallai'r canlyniad fod yn wahanol y tro hwn. 

Yn ychwanegol at hynny, bydd y ffiniau etholiadol wedi newid yn sylweddol erbyn 2020, newidiadau fydd yn dileu'r fantais strwythurol sydd gan Llafur yn y gyfundrefn etholiadol sydd ohoni.  Bydd yn llawer, llawer anos i lywodraeth sy'n cael ei harwain gan Lafur ddod i rym eto yn y dyfodol canolig.


Byddai'r newid ffiniau, a'r gwrthdaro mewnol gan Lafur ac - o bosibl ymadawiad yr Alban a'r DU - wedi digwydd beth bynnag wrth gwrs.  Mae'n ddigon posibl y byddai blynyddoedd maith o lywodraethau Adain Dde o'n blaenau beth bynnag.  Mae'n ddigon posibl y byddai'n rhaid i'r Blaid Lafur symud i'r Dde ac i gyfeiriad y tir canol newydd beth bynnag.

Ond yr hyn fyddai'n gwahanol petai'r DU yn gadael yr Undeb Ewropiaidd ydi y byddai llywodraeth felly yn cael rhwydd hynt i wneud yr hyn fyddai eisiau ei wneud.  Fyddai yna ddim deddfwriaeth Ewropiaidd i atal i'r llywodraeth gymryd pa bynnag lwybr y byddai am ei gymryd.  Petai eisiau cyfyngu ar hawliau gweithwyr - a'i alw'n ddeddfwriaeth busnes gyfeillgar - gallai wneud hynny.  Petai eisiau cryfhau gallu'r wladwriaeth i gyfyngu ar hawliau sifil - gallai wneud hynny hefyd.  Petai eisiau cael gwared o ddeddfau amddiffyn data gallai wneud hynny.  Gallai hefyd gael gwared o ddeddfwriaeth cyflogaeth cyfartal, deddfwriaeth i atal discrimineiddio ar sail crefydd, hil, rhyw, oed ac ati, deddfwriaeth sicrhau hawliau sylfaenol i bobl sy'n dioddef yn sgil tor cyfraith, 

Gallai'r DU mewn ugain mlynedd fod yn rhywbeth tra gwahanol i'r hyn ydyw heddiw.




3 comments:

Anonymous said...

Mae Plaid Cymru wastad yn dweud wrthon ni pa mor bwysig ydi Ewrop a pha mor drychinebus fydda hi i Gymru pe fydden ni yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ga'i ofyn felly be mae'r Blaid yn ei wneud i mobilisio'r fot genedlaetholgar o blaid aros i mewn ar Fehefin 23?

Hyd yn oed yma yn y gogledd-orllewin, cadarnle Plaid Cymru, mae hi'n rhyfeddol o ddistaw. Dim cyfarfodydd, dim posteri, dim arwyddion, a dim canfasio fotwyr o gwbl.

Gyda'r polau piniwn yn dango bod hi'n eithaf cyfartal yma yng Nghymru rhwng aros a gadael, siawns y dylai Plaid Cymru fod yn gwneud mwy i sicrhau bod ei phleidleiswyr yn dod allan i fotio ar y diwrnod mawr?

Onibai wrth gwrs, bod yna deimlad ar droed bod Gadael am ennill a dydi PC ddim isio cael eu gweld ar yr ochr anghywir o'r ddadl fawr??

Anonymous said...

Ga'i ofyn pam na chafodd y cwestiwn am anweledigrwydd PC o ran mobilisio ei fot yn y gogledd orllewin o blaid aros yn yr UE ei gyhoeddi?

Sdim sensoriaeth ar Flog Menai siawns?

Cai Larsen said...

Wedi bod allan o gysylltiad a chyfrifiadur..

Mae'r Blaid yn Arfon o leiaf yn taflennu ei holl gefnogwyr. Byddwn yn cymryd bod yr un peth yn digwydd yng ngweddill y Gogledd Orllewin.