Tuesday, July 19, 2016

Ynglyn a Thrident

Dod ar draws rhywun dwi'n ei adnabod wnes i neithiwr mewn tafarn neithiwr.  Roedd yn darllen rhyw bapur newydd neu'i gilydd, ac roedd yn awyddus i rannu yr hyn roedd wedi ei ddysgu am fanylion technegol y system Trident newydd mae cymaint o'n haelodau seneddol eisiau  'buddsoddi' ynddi.  Fydd o ddim yn gwbl anisgwyl i ddarllenwyr Blogmenai am wn i, ond dywedais bod yr holl beth yn wastraff arian llwyr.  Doedd o ddim yn cytuno - roedd angen y taflegrau 'i'n cadw ni'n saff'.  Holais oddi wrth pwy oedd angen ein hamddiffyn - a chael mai Putin oedd yr ateb - ymddengys bod hwnnw'n ddyn drwg iawn.  Wnes i ddim holi pam y byddai 'r dywydedig Putin eisiau cynnal ymysodiad niwclear ar wlad yr ochr arall i Ewrop (sy'n perthyn i NATO, ac a fyddai felly'n gwahodd ymysodiad niwclear gan yr UDA beth bynnag), a wnes i ddim holi pam nad ydi cymdogion agos Rwsia yn dangos unrhyw ddiddordeb mewn ymuno efo'r clwb o 9 sydd yn cadw'r WMDs yma chwaith.

Ta waeth - un neu ddwy o ffeithiau.  

1). Naw gwlad sydd a systemau niwclear - er bod un neu ddwy o rai eraill wedi ceisio datblygu rhai.  Gwaddol y Rhyfel Oer ydi systemau, China, Rwsia, yr UDA, Prydain a Ffrainc.  Adlewyrchiad o elyniaeth ffyrnig rhwng y ddwy wlad ydi systemau Pacistan ac India, y ffaith eu bod ar dermau sobor o wael efo'u holl gymdogion sy'n gyfrifol am system Israel, a does yna fawr o bwynt ceisio egluro pam bod Gogledd Corea eisiau taflegrau niwclear.


2). Piso dryw yn y mor ydi'r hyn sydd gan y DU - a'r hyn fydd gan y DU - tua 1.3% o'r job lot.  A dweud y gwir mae o'n llai na mae'r ffigyrau moel yn awgrymu - yn wahanol i'r gwledydd eraill mae taflegrau'r DU yn cael eu cadw mewn llongau tanfor - a dydi'r rheiny byth o dan y dwr ac yn barod i danio efo'i gilydd.  Maen nhw'n ddigon pwerus i wneud niwed i rhywun neu 'i gilydd - Rwsia er enghraifft - ond mae 8,000 taflegr Rwsia yn fwy o fygythiad o lawer i wlad lle mae pawb yn byw ar ben ei gilydd nag ydi  225 taflegr yn fygythiad i'r wlad fwyaf - ac ymysg yr isaf o ran dwysedd ei phoblogaeth - yn y Byd.  Mae'r gymhariaeth yn ogleisiol o anghyfartal.

3). Mae'r DU yn perthyn i NATO. Does gan 25 o 28 aelod y gynghrair honno ddim arfau niwclear - ond maent yn gwybod bod ymysodiad arnynt yn ymosodiad ar y cwbl - gan gynnwys America - gwlad sydd ag arfau niwclear yn dod allan o'i chlustiau.

4). Yn hanesyddol mae'r DU yn llawer mwy tebygol o ymosod ar wledydd eraill nag ydi'r gwledydd hynny o ymosod arni hi.  Mae'r DU (neu Loegr cyn creu'r DU) wedi ymosod rhywbryd neu'i gilydd ar tua 90% o'r gwledydd sy'n bodoli ar hyn o bryd.  Mae Iran i fod yn fygythiad sylweddol i ni - dydi'r wlad honno heb ymosod ar wlad arall am ddwy ganrif.  Petai rhesymeg yn unrhyw beth i wneud efo'r ffordd mae'r pethau 'ma'n gweithio, byddai rhai o'r gwledydd mae'r DU wedi ymosod arnyn nhw yn y gorffennol yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gael arfau niwclear er mwyn bod yn 'saff rhag y DU.

Beth bynnag, mae'r criw isod yn anghytuno ac maen nhw wedi pleidleisio ddoe i barhau a'r cynllun dw lali.  Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw hefyd wedi pleidleisio tros lymder.


No comments: