Friday, July 29, 2016

Ydi hi'n bosibl i Trump ennill?

Byddai llawer yn dweud ei bod yn anodd iawn i'r Blaid Weriniaethol ennill mewn etholiad arlywyddol (lle mae cyfraddau pleidleisio yn gymharol uchel) oherwydd demograffeg - mae'r grwpiau sy'n pleidleisio tros y Democratiaid yn tyfu tros amser tra bod y grwpiau sy 'n pleidleisio tros y Gweriniaethwyr yn lleihau.  Fel y gellir gweld o'r graff mae'r boblogaeth croenwyn yn lleihau, tra bod grwpiau eraill - yn arbennig felly pobl sydd a'u gwreiddiau yn Asia a Chanolbarth a De America yn cynyddu.


Mae yna wahaniaeth sylweddol yn y ffordd mae gwahanol bobl yn pleidleisio.  Er enghraifft pleidleisiodd tua 93% o bobl groenddu i Obama yn 2012 - ac roedd y canrannau yn ddigon tebyg mewn etholiadau cyn hynny.  Tua 71% o bobl o gefndir De / Canolbarth America bleidleisiodd tros y Democratiaid a 74% o bobl o gefndir Asiaidd.  

Tra bod y twf yma yn helpu'r Democratiaid, mae yna newid demograffig pwysicach yn digwydd hefyd - ac mae hwnnw yn digwydd oddi mewn i'r boblogaeth croenwyn.  Mae pobl gwyn sydd wedi cael addysg coleg yn llawer mwy tebygol na'r boblogaeth croenwyn sydd heb fod i goleg o bleidleisio i'r Democratiaid.  Pleidleisiodd y bobl groenwyn addysgiedig i'r Democratiaid gyda mwyafrif o 6% yn 2012 - pleidleisiodd y bobl groenwyn anaddysgiedig i'r Gweriniaethwyr gyda mwyafrif o 26%.  Mae'r boblogaeth wyn anaddysgiedig yn syrthio'n eithaf cyflym fel canran o'r boblogaeth yn gyffredinol - tua 0.75% y flwyddyn.

Ond dydi pethau ddim mor syml a hynny - gallai cwymp yng nghyfradd pleidleisio'r sawl sydd yn pleidleisio i'r Democratiaid sicrhau mai'r Gweriniaethwyr sy'n ennill - hyd yn oed os ydi maint y grwpiau hynny yn tyfu.

Esiampl da o hyn yn digwydd mewn cyd destun arall ydi Gogledd Iwerddon.  Mae'r cysylltiad rhwng demograffeg a phatrymau pleidleisio hyd yn oed yn gliriach yno nag yw yn yr UDA gyda mwyafrif llethol y Pabyddion yn pleidleisio i bleidiau cenedlaetholgar a'r Protestaniaid yn pleidleisio i bleidiau unoliaethol.  

Mae pob tystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod y boblogaeth Babyddol yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn - a bod tua'r un faint o Babyddion a Phrotestaniaid yn y boblogaeth bellach.  Ond mae'r bleidlais genedlaetholgar yn is nag oedd yn 2001.  Y rheswm sylfaenol am hynny ydi bod y boblogaeth Babyddol yn llai tebygol o lawer o bleidleisio nag oeddynt yn ystod y rhyfel maith, a'r blynyddoedd yn dilyn hynny - tra bod y Protestaniaid yr un mor debygol - neu'n fwy tebygol o wneud hynny.  

Gallai'r un peth ddigwydd yn America, neu unrhyw le arall wrth gwrs - ond byddai angen rheswm neu resymau am gwymp felly.  Byddai drwgdybiaeth tuag at Hillary Clinton yn reswm felly wrth gwrs.  Ond yn fy marn i dydi hynny ddim yn debygol o ddigwydd yn yr UDA eleni, oherwydd rhethreg a natur ymgyrch Trump.  Mae ofn yn gymhelliad cryf - cryfach na'r un arall tros fynd allan i bleidleisio - ac mae Trump wedi codi ofn ar lawer iawn o bobl sy'n perthyn i'r grwpiau sy'n tueddu i bleidleisio i'r Democratiaid.  




No comments: