Sunday, August 14, 2016

Ar y ffens?

Diolch i Ann Hopcyn am ddwyn fy sylw at ymddygiad bisar Plaid Lafur Arfon mewn perthynas a'r gwrthryfel o fewn y Blaid Lafur yn erbyn arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.

Bydd darllenwyr rheolaidd Blogmenai yn gwybod i ymgeisydd Llafur yn etholiad Cynulliad eleni, Sion Jones gefnogi Andy Burnham ar y cychwyn yn etholiad arweinyddol Llafur y llynedd, cyn troi at Jeremy Corbyn.  Cafodd lond bol ar Jeremy Corbyn yn fuan iawn, a phenderfynodd gefnogi Owen Smith yn yr ornest eleni.  Nid yn unig hynny, ond penderfynodd fod yn gydlynnydd ymgyrch Smith yn Arfon, a threfnu banc ffonio i geisio perswadio pobl i bleidleisio i'r dyn bach o'r Bari.







Yn wir, ymddengys ei fod yn mynd cyn belled a rhoi'r bai ar Corbyn am bolio diweddar gwael Llafur yn hytrach na'r criw o gynllwynwyr sydd wedi taflu'r blaid i ryfel cartref a galw ar Corbyn i ymddiswyddo heb etholiad.


Ond - a barnu o'r trydariad yma gan un o hoelion wyth Llafur yn Arfon - does gan Sion ddim llawer o gydlynnu i'w wneud oherwydd nad oes fawr neb ymhlith Llafurwyr Arfon yn cefnogi Smith.  





Rwan, tydi hyn ddim yn syndod arbennig o fawr i mi a dweud y gwir oherwydd bod y rhan fwyaf o Lafurwyr Arfon - yn fy mhrofiad i o leiaf - yn bobl sy'n arddel gwerthoedd Llafur yn hytrach na'r dipyn o bob dim i bawb mae Smith yn ei gynnig.  

Mae hyn i gyd yn gwneud rhyw fath o synnwyr - cyn ymgeisydd seneddol allan o gysylltiad efo'i blaid leol ei hun yn uniaethu efo elit etholedig ei blaid.  Mae hyn yn siwr o fod yn wir mewn rhannau eraill o Gymru.  Ond yr hyn nad yw yn ei egluro ydi'r map yma o @CLPNominations


Yn ol hwnnw dydi Plaid Lafur Arfon ddim yn cefnogi'r naill ymgeisydd na'r llall o ran enwebiad swyddogol. Rwan efallai mai camgymeriad ar ran y wefan ydi'r map.  Neu efallai bod well gan Blaid Lafur Arfon eistedd ar y ffens yn gyhoeddus - er bod bron i 90% ohonynt yn cefnogi Corbyn.  Petai hynny'n wir, byddai'n anodd meddwl am blaid leol mwy llwfr ac amharod i ypsetio'r elit etholedig neo Blairaidd yn unman.  Wedi'r cwbl mae gan bron i pob plaid leol arall yng Ngogledd a Gorllewin Cymru y dewrder i wneud eu cefnogaeth i Corbyn yn gyhoeddus.

Byddai'n rhywbeth gwirioneddol bathetig.  




2 comments:

Anonymous said...

Petai Corbyn yn arweinydd Plaid Cymru, a fuaset yn pleidleisio iddo ?

Cai Larsen said...

Dibynu pwy fyddai yn ei erbyn a'i agwedd at faterion creiddiol megis annibyniaeth i zgymru.