Sunday, August 07, 2016

Ffrwydriad ar y ffordd o Fynwy - efallai

Bydd y sawl ymhlith darllenwyr Blogmenai sydd efo cof arbennig o dda yn cofio i Aelod Seneddol Mynwy - David Davies - gael sterics pan benderfynodd Llywodraeth y Cynulliad wario £3.2 miliwn ar addasu swyddfeydd ar bumed llawr yn Nhy Hywel ar safle'r Cynulliad yn ol yn 2013.

Rwan dydi £3.2m ddim yn swm arbennig o fawr o gymharu a chyfanrwydd gwariant Llywodraeth Cymru - ond dyna fo, efallai nad ydi David yn hoff o wariant ar senedd-dai a 'ballu.



Felly mae'n debyg gen i y gallwn ddisgwyl clywed y ffrwydriad mwyaf erchyll o gyfeiriad Mynwy pan fydd David yn dod i ddeall bod Llywodraeth Y DU yn bwriadu gwario £4bn ar gynnal, cadw, addasu ac uwchraddio San Steffan.  Rhag ofn bod rhywun ddim yn rhy siwr o'i syms, golyga hyn y bydd Llywodraeth y DU yn gwario 1,250 punt ar San Steffan am pob punt gafodd ei wario ar Dy Hywel gan Lywodraeth Cymru.  Gobeithio na wneith o wylltio 1,250 gwaith cymaint na wnaeth o yn 2013, neu bydd yn gwneud rhyw fath o niwed iddo'i hun.

A Duw a wyr beth ddigwyddith os daw i ddeall y gallai'r gost yn y diwedd gyrraedd £7.1bn - 2,200 punt am pob punt gafodd ei gwario ar Dy Hywel.

Neu, efallai na fyddwn yn clywed gair o Fynwy ynglyn a'r mater wrth gwrs _ _ wedi'r cwbl mae San Steffan yn lle hynod o bwysig, tra bod y Cynulliad yn _ _ wel rhywbeth i'w wneud efo Cymru.





No comments: