Tuesday, August 16, 2016

Methu gweld yr hyn sy'n digwydd o flaen eu trwynau

Dydw i ddim eisiau bysnesu mewn galar plaid arall, ond dwi'n meddwl y dyliwn ddweud pwt am yr obsesiwn sydd gan aelodau seneddol Cymreig ynglyn a Jeremy Corbyn - a'r ffordd mae 'n cael ei ddefnyddio fel bwch dihangol i egluro pam bod y Blaid Lafur yng Nghymru - a thu hwnt - yn colli cefnogaeth.  Dwi am wneud hynny trwy gyfeirio at berfformiad Llafur yn rhai o gadarnleoedd y blaid yn 1992 - pan roeddynt yn cael eu harwain gan un person o'r Chwith 'meddal' a 2015 - pan roeddynt hefyd yn cael eu harwain gan rhywun ar y Chwith 'meddal'.  

'Dydw i heb ddethol etholaethau - ceir patrwm tebyg yn holl gadarnleoedd Llafur yng Nghymru.

















Cyn mynd ymlaen, mae'n debyg y dylid cymryd ennyd i longyfarch Chris Bryant - does yna neb yng Nghymru wedi bod mor effeithiol am ddifa pleidleisiau Llafur.  

Rwan - mae'r cwymp yna i gyd - ac mae o'n anferth o safbwynt niferol syml - wedi digwydd yn absenoldeb Jeremy Corbyn a phan roedd y criw o wrthryfelwyr sydd bellach yn herio arweinyddiaeth Corbyn yn rhedeg y sioe. 

Mae'n eithaf amlwg bod yna rhywbeth sylfaenol o'i le ar y Blaid Lafur Gymreig - mae hi'n colli pleidleisiau mewn etholiad ar ol etholiad.  Mae hi'n teithio yn union yr un cyfeiriad a'r Blaid Lafur yn yr Alban, ond ychydig yn arafach.  Os ydi'r sefydliad Llafur yng Nghymru yn credu mai cael gwared o Corbyn ydi'r ateb i'w problemau, dydyn nhw heb fod yn edrych ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd o flaen eu trwynau am chwarter canrif.
















3 comments:

Anonymous said...

Blog Menai sydd hefo'r obsesiwn mwya ma nai ofn.Dim byd mond rhedeg ar bleidiau eraill. Dim byd i gynig am be mae Plaid Cymru am addo.

Anonymous said...

Hollol gywir. Ffigyrau trawiadol iawn.

Ond does dim argoel bod ein plaid genedlaethol, bron 100 mlynedd wedi ei sefydlu, ddim agosach at ddisodli'r Blaid Lafur yn y math o seddi allweddol a welir uchod. Be' sy'n waeth ydi'r ffaith mai UKIP ydi'r her gwirioneddol i Lafur yn yr ardaloedd yma erbyn hyn.

Dwi di dod i'r casgliad bellach bod angen symudiad/plaid newydd i gyflwyno'r achos dros annibyniaeth yn ardaloedd poblog y de- a fyddai'n gweithredu'n bennaf trwy'r Saesneg. Gallai fod yn rhydd o'r "baggage" o fethiant ac amherthnasedd sy'n perthyn i Blaid Cymru yn yr ardaloedd hyn a manteisio ar yr hunaniaeth Gymreig cryf sydd yn bodoli yno. Ac yn ceisio manteisio hefyd ar y llanw o Gymreictod a welwyd yn ystod yr Euros yn ddiweddar.

Byddai'r symudiad hwn yn cyd-weithio hefo Plaid Cymru dros Gymru Annibynnol ac yn cytuno ar seddau i'w hymladd yn etholiad nesaf Senedd Cymru.

Mae'n rhaid gwneud rhywbeth i chwalu gafael Llafur ar ein gwlad.

Efrogwr said...

Rhaid cytuno ag Anon 11:41, yr hyn drawodd fi am y ffigyrau oedd anallu y mudiad cenedlaethol i fanteisio ar gwymp Llafur. Dyna'r stori go iawn, mae arnaf ofn. Gyda'r gol yn agored, mae'n tipyn o gamp ein bod ni'n gwneud mor wael, mewn ffordd.