Tuesday, August 09, 2016

Pam nad oes gan Lafur obaith caneri o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg

Mae'n ddiddorol i Alun Davies a Carwyn Jones fynd ati i fynegi eu bod am geisio sicrhau y bydd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ar yr un pryd - fwy neu lai - a chyhoeddiad adroddiad 5 mlynedd ar y Gymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae'r adroddiad yn un maith - a diddorol ar brydiau - ac mae yna lawer iawn, iawn ynddi hi. Ond mae yna un peth amlwg iawn ynglyn a dyfodol y Gymraeg i'w weld yn yr adroddiad - ac mae'n bwysicach nag unrhyw beth arall mewn gwirionedd.  Dwi wedi dwyn y graffiau o'r adroddiad.


Does yna ddim angen eglurhad ar y siart uchod - mae'n amlwg bod newid arwyddocaol a phell gyrhaeddol wedi digwydd ers canol y ganrif ddiwethaf.  Heddiw mae mwyafrif llethol y sawl sy'n siarad y Gymraeg yn ei dysgu yn yr ysgol, tra bod mwyafrif llethol y sawl a anwyd yng nghanol y ganrif ddiwethaf - a chyn hynny - wedi dysgu'r Gymraeg adref.

Un o'r prif resymau am y newid yma ydi nad ydi trosglwyddiad iaith yn y cartref mor effeithiol heddiw nag oedd yn y gorffennol.  Nid bod rhieni Cymraeg eu hiaith yn llai tebygol o drosglwyddo 'r Gymraeg ydi'r broblem - ond bod yna lai o deuluoedd lle mae'r ddau riant yn siarad yr iaith.  



Mater o fathemateg ydi hyn yn y bon - os ydi 20% o'r gwyr / gwragedd / partneriaid sydd ar gael yn ddi Gymraeg, yna mae'r nifer o deuluoedd lle mae'r ddau riant yn siarad yr iaith yn siwr o gwympo.  Teuluoedd felly ydi'r mwyaf effeithiol o lawer o drosglwyddo'r iaith. 

Felly os ydi'r targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg i gael ei gwrdd mae'n hanfodol bod y nifer o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu.  Mae addysg cyfrwng Cymraeg yn llawer mwy tebygol nag addysg cyfrwng Saesneg o gynhyrchu siaradwyr Cymraeg.  Yn anffodus 'dydi'r ganran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg ddim yn cynyddu.  Roedd y ganran o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn is yn 2014/15 nag oedd yn 2010/11.



Dydi'r nifer o blant sy'n cael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ddim yn ymddangos i gynyddu llawer chwaith.  O gymharu faint o blant a asesid trwy gyfrwng y Gymraeg ym mlwyddyn 2 mae'r niferoedd wedi cynyddu, tra bod y ganran wedi cwympo.  Demograffeg sy'n gyfrifol am y cynnydd - roedd yna fwy o blant 7 oed yn gyffredinol yn 2014 nag oedd yna bum mlynedd ynghynt.  Gallwn ddisgwyl gweld y nifer sy'n cael eu hasesu yn y Gymraeg yn cwympo fel mae'r niferoedd plant yn gyffredinol yn cwympo.  


Mae yna dystiolaeth bod galw sylweddol am addysg Gymraeg - galw sydd ddim yn cael ei ddiwallu yn y rhan fwyaf o Gymru.  Mae awdurdodau Llafur ymysg y gwaethaf yn y wlad am ddarparu ysgolion Cymraeg.





Y gwir amdani ydi y gall Llafur siarad hyd ddydd y farn am gynhyrchu miliwn o siaradwyr Cymraeg - ond does ganddyn nhw ddim gobaith caneri o wneud hynny tan maen nhw'n cael eu cynghorau i wneud gwell job ar ddarparu addysg Gymraeg, ac i gael eu gwleidyddion i gefnogi'r addysg Gymraeg, yn hytrach na'i ddefnyddio at ddibenion gwleidyddol.






1 comment:

Anonymous said...

Hyd yn oed o ganiatau gwireddu-r holl alwadau gan rieni am addysg Gymraeg ychwanegol yn y de ac i raddau llai yn y Gog; mae'r Gymraeg ar drai ymhlith cyfran sylweddol o hen gyn-ddysgyblion Ysgol y Creuddyn;Morgan Llwyd;Llanhari etc flynyddoedd ar ol iddyn raddio Ond eto-cydiodd eraill o'r un ysgolion i'r pethe'n eiddgar.. Ateb angenrheidiol ond anghyflawn ar ben eu hunain ydy'r yagolion.Beth arall sydd ar gael gan eithrio oedolion sy'n dysgu Cymraeg? Mudiad magu mwy? Targedu y rhiant Gymraeg mewn tyiad Saesneg i dal y llymglwm iaith yn dynn am y babi/babanod Cymraeg. Ydy'r fam yn debycach o ymateb i annog moesau iaith o'r fath na dynion? D'wn i ddim fy hun, ond mae 'na ddata rhywle sy'n egluro os oes unrhyw wahaniaeth neu beidio..Pa agweddau a brawdddegau a chymelliadau i feithrin ymlyniad dryw? Pa wersi efengylu heintus ymhlith ieithoedd eraill sy'n gaddo cynydd a thaenu iaith yn amgenach nag a fu unwaith? Mae marchnata, amaethyddiaeth a gwyddoniaeth gymdeithasol ayb yn defnyddio on