Wednesday, August 31, 2016

Y cynllwyn gwirionaf erioed?

Os ydi pol ddoe yn agos at fod yn gywir, a bod Jeremy Corbyn am ennill yr etholiad arweinyddol o filltiroedd, mae'n debyg gen i mai cynllwyn y gwrthryfelwyr ydi un ymgeisiadau mwyaf pathetig o wirion erioed ar coup d'etat gwleidyddol.

Drannoeth y refferendwm roedd Llafur mewn lle cymharol dda o gymharu a'r Toriaid.  Roedd y rhan fwyaf o'u cefnogwyr yn siomedig, ond doedd yna ddim rheswm gwirioneddol i anobeithio.  Roedd yr aelodau etholedig i gyd (fwy neu lai) wedi bod ar yr un ochr o'r ddadl, roedd tua 2/3 o gefnogwyr Llafur wedi pleidleisio i aros (ffigwr tebyg i un y Blaid a'r SNP gyda llaw), roedd y Toriaid yn ddi arweinydd ac am waed ei gilydd ac roedd y pol piniwn a gyhoeddwyd yn syth wedi'r refferendwm yn awgrymu bod Llafur ar y blaen (o fymryn) am y tro cyntaf ers cyn etholiad 2015.

A dyma ni heddiw - ddim cymaint a hynny o wythnosau wedyn - efo'r Toriaid yn gymharol unedig a milltiroedd ar y blaen yn y polau a mwyafrif llethol aelodau seneddol Llafur wedi gwrthod gwneud yr hyn maent wedi ei ethol i'w wneud - gwrthwynebu'r Toriaid a gwrthwynebu eu harweinyddiaeth eu hunain yn lle hynny.  

Ac mae'r dyfodol yn edrych hyd yn oed yn fwy ansicr.  Bydd canran go lew o'r aelodau seneddol gwrthryfelgar mewn perygl o gael eu dad ddewis gan yr aelodaeth oherwydd eu hymddygiad, mae posibilrwydd go iawn y bydd y blaid yn hollti 'n ddau, neu dri neu fwy, bydd y Chwith yn cael ei gorfodi i dynhau ei gafael ar strwythurau mewnol y blaid i osgoi cael y shambyls yma'n flynyddol (mae hyn eisoes wedi cychwyn), ac mae llinellau ymosod y Toriaid ar Lafur mewn etholiadau sydd i ddod eisoes wedi eu llunio gan aelodau seneddol Llafur.  

Mae'r rhesymau am yr hyn ddigwyddodd yn eithaf clir.  Dydi'r aelodau seneddol a wrthryfelodd ddim yn deall Corbyn, a dydyn nhw ddim yn deall aelodaeth eu plaid eu hunain.  

Roedd y busnes o ymddiswyddo o'r cabinet a gorfodi pleidlais o ddiffyg hyder yn Corbyn yn ymgais i'w gwneud yn amhosibl iddo arwain yr wrthblaid yn effeithiol a'i orfodi i ymddiswyddo oherwydd hynny.  Mae sicrhau rheolaeth y Chwith tros y Blaid Lafur yn bwysicach i Corbyn nag ydi arwain yr wrthblaid yn effeithiol.  Fydd o ddim yn mynd i'r unman o'i wirfodd nes ei fod yn gwybod bod y rheolaeth hwnnw wedi ei sicrhau.  Bydd hyn yn digwydd yn gynt yn hytrach na'n hwyrach rwan.  

A doedd aelodaeth y Blaid Lafur - yn ei ffurf bresenol yn dilyn y mewnlifiad anferth o ddilynwyr y Chwith ehangach tros y flwyddyn diwethaf - erioed am bleidleisio yn erbyn Corbyn - yn sicr ddim os mai gwleidydd ail neu drydydd rheng sy'n ymddangos yn ddi waelod yw ei unig wrthwynebydd. 

Diolch byth nad fy mhroblem i ydi hon!




No comments: