Saturday, September 10, 2016

Sut i ennill hogan

Felly ymddengys bod Owen Smith wedi 'ennill' ei wraig Liz flynyddoedd maith yn ol tra'n ddisgybl ysgol yn y Bari.  Yn anffodus, wnaeth o ddim egluro sut enillwyd y gystadleuaeth eithriadol yma.  



Mae hyn yn anffodus oherwydd ei bod yn debygol iawn bod llawer o ddarllenwyr Blogmenai  eisiau gwybod sut mae'n bosibl i un person ennill person arall.  Waeth i mi heb a honni fy mod yn gwybod yr ateb i sicrwydd, ond mae gen i gyfres gyflawn o Bygones yn y stydi acw.  Mae'r cylchgrawn hwnnw'n arbenigo mewn arferion gwerin o'r gorffennol pell - a'r gorffennol ddim mor bell.  Felly - er mwyn cynnig gwasanaeth cyflawn ac effeithiol i ddarllenwyr Blogmenai, mi fyddseddais fy ffordd trwy'r job lot mewn ymgais i ddod o hyd i'r ateb.  

Beth bynnag, o chwilio'n ofalus dwi wedi dod o hyd i bedwar dull traddodiadol gwahanol o ennill hogan yn rhai o ardaloedd mwy anghysbell yr hen Sir Forgannwg.  Mae'n bosibl eu bod yn taflu goleuni ar sut enillodd Owen Smith ei wraig - neu mae'n bosibl nad ydynt yn gwneud hynny wrth gwrs.  Doedd yna ddim son am genod yn ennill hogiau gyda llaw.

Dull 1:

1). Mae'r hogiau yn edrych ar beth sydd ar gael ac yn dewis yr hogan maent eisiau ei hennill.
2).  Mae'r genod yn mynd i sefyll yn erbyn waliau gwahanol, ac mae'r hogiau yn hel mewn grwpiau tua deg llath oddi wrth yr hogan maent wedi ei dewis.
3). Mae'r hogiau yn cymryd eu tro i gicio pel droed at yr hogan.  Os ydynt yn ei tharo maent yn mynd ymlaen i'r rownd nesaf, os ydynt yn methu maent yn cael eu hanfon i ffwrdd i bwdu.
4).  Mae'r un peth yn digwydd eto - ac yn parhau tan mai un ciciwr yn unig sydd ar ol.  Fo sydd wedi ennill yr hogan.

Roedd y dull yma'n cael ei ystyried yn un goleuedig a blaengar oherwydd bod  yna elfen o ddewis i'r hogan .  Gallai geisio symud os nad oedd am i hogyn arbennig ei hennill, ond aros yn llonydd os oedd eisiau cael ei hennill.  

Mae'n amlwg yn fantais sylweddol gallu cicio pel yn syth pan ddefnyddir y dull  yma, ac mae rhai'n credu mai dyma'r eglurhad pam bod cymaint o beldroedwyr proffesiynol efo gwragedd neu gariadon del iawn.

Dull 2:

Fel uchod, gydag un gwahaniaeth arwyddocaol - teflir pel griced neu bel fas yn hytrach na chicio pel.  Mae pethau'n tueddu i weithio'n well os oes cit batio - helmed, pads, fisor i'r wyneb ac ati ar gael i'r hogan.  Ond mae pethau'n gweithio'n o lew yn absenoldeb cyfarpar felly.  

Mae rhai pobl yn dweud mai diffyg cit batio mewn ysgolion uwchradd ydi un o'r rhesymau pam nad ydi gwragedd cricedwyr proffesiynol yn tueddu i fod cyn ddeled a gwragedd peldroedwyr proffesiynol.

Dull 3:

Mae'r dull yma'n un tra gwahanol.  

1). I ddechrau mae'n rhaid i grwp o hogiau sydd heb ennill neb eto chwilio am yr holl genod sydd ar gael - hynny yw y rhai sydd heb gael eu hennill gan neb eto.  Mae hyn yn aml yn anodd oherwydd bod y genod i gyd ond y gwirionaf yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i guddio.
2). Dewis hogan a'i rhoi mewn sach.  'Does dim ots pa hogan sy'n cael ei dewis - gofyn am wirfoddolwraig ydi'r ffordd decaf mae'n debyg.  Os nad oes neb yn ffansio teithio mewn sach, gellir mynd ati i orfodi'r genod i dorri pac o gardiau a gwobreuo'r un sydd yn cael y cerdyn uchaf trwy ei rhoi mewn sach.  
3). Mae pob hogyn yn cymryd tro i gario'r sach, ac mae'r un sydd efo'r enw o fod mwyaf gonest yn eu plith yn cofnodi'n ofalus lle mae'r sach yn cael ei gollwng oherwydd blinder yr hogyn.  Ar ol i pawb gael tro mae'r hogyn sydd wedi cario'r sach bellaf cyn ei gollwng yn cael y dewis cyntaf o hogan, mae'r un sydd wedi cario'r sach ail bellaf yn cael yr ail ddewis ac ati.

Yn naturiol ddigon roedd yna lawer o gwyno am y dull hwn oherwydd y gwaith caled a gallai coesau neu gefn yr hogyn fynd i frifo braidd.  Felly 'doedd o ddim yn agos mor boblogaidd a'r ddau ddull blaenorol.

Dull 4:

Mae angen sach ar gyfer hon hefyd, ond y tro yma mae'n rhaid wrth goeden a rhaff hefyd. 

1). Dewis hogan a'i rhoi mewn sach.
2). Clymu rhaff wrth geg y sach, a thaflu'r rhaff tros frigyn isel.
3). Mae pob hogyn yn halian y rhaff nes ei fod yn cyrraedd y brigyn - os ydi'r hogyn yn methu mae allan.  Mae'r gweddill yn mynd ymlaen i'r cymal nesaf o'r gem.  
4). Taflu'r rhaff tros frigyn uwch a halian unwaith eto.
5). Parhau i wneud hyn tan mai dim ond un hogyn sydd ar ol.  Fo sy'n ennill yr hogan.  

Un o'r problemau efo'r dull yma ydi'r perygl bod brigyn yn torri a'r sach yn syrthio.  Dydi o ddim ots mawr os ydi'r brigau yn isel, ond gallai codwm oddi ar frigyn uchel anafu'r hogan yn ddifrifol, neu hyd yn oed ei lladd. Doedd hyn ddim yn cael ei ystyried y. dderbyniol oherwydd y byddai tad yr hogan yn debygol o wylltio, neu ypsetio.  Byddai digwyddiad o'r fath hefyd yn gwneud yr hogan ddim gwerth ei hennill hefyd wrth gwrs.  O ganlyniad arferid anfon yr hogan i fyny'r goeden i brofi diogelwch y canghennau ar yr un egwyddor a'r arfer o orfodi aelodau o gatrawdau parashiwt i lapio eu parashiwt eu hunain cyn neidio.

Doedd y dull yma ddim yn boblogaidd iawn chwaith oherwydd yr holl gymhlethdodau oedd ynghlwm a fo.

No comments: