Wednesday, December 07, 2016

Miwsig yng nghlustiau masnachwyr cyffuriau

Dwi'n meddwl mai tua blwyddyn yn ol aeth y blog yma i'r afael a Llafur Arfon ddiwethaf oherwydd eu hagwedd tuag at gyfreithiau cyffuriau.  Os dwi'n cofio'n iawn y cyd destun oedd rhaglen radio lle'r oedd ymgeisydd Cynulliad Llafur ar y pryd, Sion Jones, wedi llwyddo i leoli ei hun ychydig i'r Dde i'w gyd westai - yr eithafwr asgell Dde Felix Aubel - ym mater cyffuriau a datgan y dylai 'r heddlu briodoli mwy o amser ac ynni i erlid defnyddwyr canabis.  Gellir gweld y blogiad hwnnw yma.

Mae'r mater wedi ail godi galwad  gan Sion i Gomisiynydd Heddlu'r Gogledd ymddiswyddo oherwydd iddo alw am ail ystyried polisi o reoli'r defnydd o gyffuriau sydd wedi methu am ddegawdau, sydd wedi cyfoethogi drwg weithredwyr a sydd - yn ol pob tebyg - wedi arwain at gynnydd yn y defnydd o gyffuriau.  Manylion yma.

Mae yna nifer o bethau y gall pawb bron sy'n rhan o'r ddadl hon gytuno efo nhw - bod cymryd cyffuriau yn beth anoeth i'w wneud a gall gael effaith hynod niweidiol ar iechyd pobl, bod y tor cyfraith sydd ynghlwm a masnachu cyffuriau yn cael effaith hynod negyddol ar gymdeithas, a bod angen lleihau'n sylweddol y nifer o bobl sy'n ddibynol ar gyffuriau.  

Y dull sydd wedi ei ddefnyddio yn y rhan fwyaf o'r Byd ers y saith degau cynnar o fynd i'r afael efo'r broblem ydi criminaleiddio gwerthwyr cyffuriau, criminaleiddio defnyddwyr cyffuriau a chosbi'r ddau grwp trwy'r  system droseddol.  Y broblem efo hyn ydi nad yw'n gweithio - mae yna fwy o ddefnyddwyr cyffuriau heddiw nag oedd yna yn y saith degau, ac mae yna lawer mwy o dor cyfraith ynghlwm a chyflenwi cyffuriau heddiw nag oedd yn y 70au.

Gwlad sydd wedi dilyn dull Sion Jones o ddelio efo'r diwydiant cyffuriau a'i gario i eithafion ydi Iran.  Mae'r wlad honno yn dienyddio ymhell tros fil o bobl am droseddau sy'n ymwneud a chyflenwi cyffuriau yn flynyddol, ac mae yna ymhell tros 100,000 o bobl ychwanegol yn cael eu hunain yn gaeth i gyffuriau yn flynyddol.

Un wlad yn Ewrop hyd y gwn i sydd wedi symud i edrych ar y defnydd o gyffuriau fel mater meddygol yn hytrach nag un troseddol ydi Portiwgal - gwnaethwyd hynny yn 2001 yn dilyn cyfnod hir o geisio delio efo'r broblem trwy daflu pobl i'r carchar.  Ar y gwaethaf gallwn ddweud nad ydi 'r defnydd o gyffuriau wedi cynyddu ers hynny, bod y defnydd o gyffuriau ymysg yr ifanc wedi lleihau a bod pethau wedi gwella ar sawl mesur - er enghraifft  bu farw 80 o bobl oherwydd cyffuriau yn 2001, 16 oedd y nifer yn 2012.  Mae'r mapiau ar waelod y blogiad yma'n dangos sut mae Portiwgal yn cymharu efo 'r DU a gweddill Ewrop o ran y defnydd o gyffuriau ar hyn o bryd.

Rwan dwi'n derbyn nad ydi o'n dilyn bod y ffaith bod dad griminaleiddio cyffuriau ym Mhortiwgal yn golygu o anghenrhaid y byddai dad griminaleiddio cyffuriau yn arwain at gwymp yn y defnydd o gyffuriau yn y DU.  Ond rydym yn gwybod bod y polisi sy'n cael ei arfer ar hyn o bryd yn fethiant, a rydym yn gwybod ei fod wedi methu am hanner canrif - a rydym felly'n gwybod ei bod yn hen bryd ystyried gwneud rhywbeth mwy effeithiol.

Y sawl sy'n ennill o'r sefyllfa fel ag y mae ydi 'r bobl hynny sy'n ennill bywoliaeth trwy ddelio mewn cyffuriau.  Mae nadu gwleidyddion hysteraidd pob tro mae rhywun yn awgrymu edrych am ffyrdd o newid y polisi sy'n cael ei arfer ar hyn o bryd - y polisi sydd wedi methu cyhyd, a sydd wedi cyfoethogi'r sawl sy 'n delio mewn cyffuriau, sydd wedi arwain at cymaint o anhapusrwydd ac yn wir marwolaeth - yn fiwsig yng nghlustiau masnachwyr cyffuriau.  Mae hefyd yn ei gwneud yn llai tebygol y byddwn yn sefydlu polisi sy'n lliniaru ar y broblem.



Gavin Thorman - cyn frenin masnachwyr cyffuriau G/narfon - a chymydog drws nesa' i awdur blogmenai pan oedd yn hogyn bach - boi oedd yn llafurio o dan yr argraff na fyddai'r awdurdodau yn deall ei alwadau ffon o Walton oherwydd eu bod yn y Gymraeg.  Dwi'n mawr obeithio  bod Gavin wedi cael amser a gwagle i feddwl am bethau a challio.  Os nad yw, bydd yn falch o ddeall bod cefnogaeth yn Arfon i gadw'r diwydiant cyflenwi cyffuriau yn nwylo pobl tebyg iddo fo.















No comments: