Thursday, February 02, 2017

Dethol er mwyn pardduo

Gyda mwy a mwy o adroddiadau am gasineb gwrth Fwslemaidd - yn rhannol yn sgil Brexit ac ethol Donald Trump - byddai rhywun yn disgwyl y byddai'r pleidiau gwleidyddol prif lif a sefydliadau crefyddol yng Nghymru yn awyddus i wneud yr hyn y gallent i leddfu'r dyfroedd.  Ond nid felly pob un - yn arbennig felly'r gwleidydd Toriaidd o Weinidog Annibynnol, Felix Aubel.  Wele ddetholiad o'i drydariadau diweddaraf.

Yn hytrach na cheisio tawelu pethau ymddengys ei fod yn treulio ei amser yn pori trwy'r We am straeon gwrth dramorwyr ac yn arbennig felly gwrth Fwslemaidd cyn mynd ati i'w hail drydar neu wneud rhyw sylw ffug boenus amdanynt.  Papurau newydd adain Dde, cyfrifon trydar asgell Dde eithafol fel un David Jones neu Ulster Crusader, gwefannau adain Dde eithafol megis Breitbart ydi ffynonellau'r stwff fel rheol.  Dydi o ddim yn colli cyfle i achub cam y Donald Trump bach annwyl 'na chwaith pan mae pobl yn ymosod arno fo oherwydd ei senoffobia.

Rwan os rydym yn dethol ein straeon yn ofalus gallwn wneud i unrhyw grwp mewn cymdeithas edrych yn wael.  Y cwbl sydd rhaid ei wneud ydi dod o hyd i cymaint o straeon  negyddol am aelodau o'r grwp, anwybyddu pob stori gadarnhaol am aelodau o'r grwp ac anwybyddu pob stori negyddol am bobl o grwpiau eraill.  Yn ddi amau mae yna pob math o senoffobiaid ac eithafwyr crefyddol yn gwneud yr un math o beth ar hyd y Byd - Protestaniaid eithafol yn ceisio pardduo Pabyddion, eithafwyr Islamaidd yn ceisio pardduo Cristnogion a'r di grefydd, hilgwn croenwyn yn yr UDA yn pardduo pobl dywyll eu croen, Rwsiaid yn pardduo Iwcraniaid ac ati, ac ati - yn dibynu ar pa bynnag niwrosis anoddefgar sy'n poeni'r sawl sy'n dethol.

Mi fyddai rhywun yn meddwl y byddai enwad neu blaid Felix farn am y gorffwylldra senoffobaidd yma, ond na - rydan ni'n lle'r ydym mae gen i ofn.



























































No comments: