Thursday, February 09, 2017

Methu'r pwynt yn llwyr

Dwi'n hoff o Golwg 360 - a dwi hefyd yn cydymdeimlo efo 'r wefan - mae'n rhaid ei bod yn uffernol o anodd cynnal gwasanaeth newyddion dyddiol gydag adnoddau bychan iawn.  Weithiau maent yn cael straeon da, ac weithiau maent yn cael rhai nad ydynt yn dda.  Mae'r stori yma sydd ar frig eu tuadlen flaen ar hyn o bryd yn syrthio i 'r ail gategori mae gen i ofn.  Mae'n esiampl wych o fethu prif bwynt stori.

Mae adleoli S4C a phloncio 'r Swyddfa Dreth yn Nhrefforest yn ddwy stori sydd yn gysylltiedig - ond nid yn y ffordd y byddai rhywun yn meddwl.  Y prif linyn sy 'n cysylltu 'r ddwy stori ydi llywodraethiant - neu fethiant posibl mewn llywodraethiant.  Mae'r llinyn datganoli sefydliadau 'n linyn cyswllt pwysig ond eilaidd.

Yn achos y Swyddfa Dreth mae Llywodraeth Cymru yn honni eu bod o blaid datganoli sefydliadau cyhoeddus i gwahanol rannau o Gymru - ond mae ei phrosesau mewnol yn gwneud hynny yn amhosibl.  Mae hynny'n fethiant o ran llywodraethiant effeithiol.

Yn achos S4C mae'n ymddangos nad ydi'r sianel gyda'r prosesau priodol i sicrhau ei bod yn gweithredu mewn modd sydd yn unol a'i lles  a'i budd ei hun mewn lle.  Mae hynny hefyd yn fethiant o ran llywodraethiant effeithiol.

Dydi pethau ddim mor glir yn achos Coleg y Drindod - mae'n debygol y daw pethau 'n gliriach o fewn yr wythnosau os nad y dyddiau nesaf.  Mae 'r cwestiwn llywodraethiant yma'n ymwneud a'r ffordd maent wedi mynd i 'r afael a dennu S4C i Gaerfyrddin.  Dydi o ddim yn gwneud synnwyr i ofyn i lywodraeth y Cynulliad am grant yn dilyn gwrthod cais am grant o Ewrop pan mae 'n ymddangos bod S4C wedi cael ar ddeall bod yr adnoddau ar gael - grant o Ewrop neu beidio. Pwrpas grant ydi caniatau rhywbeth na fyddai'n digwydd yn absenoldeb y grant i ddigwydd.  Dydi'r myrllwch o gwmpas honna ddim am ddiflanu mae gen i ofn.

Rwan dyna'r stori - problemau llywodraethiant oddi mewn i sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru.  Wrth ymyl hynny stori fach iawn ydi bod gwleidyddion Plaid Cymru yn anghytuno efo lleoliad S4C oherwydd eu bod yn edrych ar ol eu milltir sgwar eu hunain.  Felly mae'r math o ddemocratiaeth sydd gennym ni yn gweithio.  Dydi 'r cyfeiriad yn y stori at agosatrwydd Trefforest i etholaeth Leanne Wood yn y Rhondda ddim yn berthnasol - cododd fethiant Llywodraeth Cymru i ddatganoli sefydliadau yn sgil y penderfyniad i leoli yn Nhrefforest - yn unol a pholisi'r Blaid.

Y stori go iawn ydi methiant mewn llywodraethiant mewnol sefydliadau cyhoeddus pwysig, nid llwyddiant system o ddemocratiaeth cynrychioladol i gael gwleidyddion i weithio tros eu hetholaethau.

2 comments:

Cneifiwr said...

Troednodyn ar lywodraethiad Coleg y Drindod: Un o gyfarwyddwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Coleg Sir Gâr (a.y.b) yw Mark James CBE, prif weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae Mr James yn enwog am ei ddulliau amgen ac arloesol o lywodraethu, wrth gwrs.

Anonymous said...

eirioni diwedaraf prifathro Drindod Dewi Sant ar dasgfwrdd gwledig Eluned Morgan - y dyn sydd wedi gwneud mwy na neb i ddifetha tref Llamebd a tanseilio a glasdwreiddio prifysgol Dewi SAnt Llambed a chyfrannu tuag at dlodi gwledig