Saturday, February 04, 2017

Swyddfa Awdurdod Cyllid Cymru - yr un hen stori

Pe byddwn i eisiau lleoli rhywbeth yng Nghaerdydd, ond ddim eisiau cyfaddef fy mod yn ei leoli yng Nghaerdydd byddwn yn ei roi yn Nhrefforest - prin bod yna fwlch rhwng Caerdydd a Threfforest y dyddiau hyn.  A dweud y gwir mae'n cymryd llai o amser i ddreifio o adeiladau'r llywodraeth yn Nhy Glas yn Llanishen i Drefforest na mae'n gymryd i ddreifio o Dy Glas i'r Cynulliad.



A dyna'n union sydd wedi digwydd gyda phenderfyniad Llywodraeth Cymru i leoli Swyddfa Awdurdod Cyllid Cymru.  Mae hi'n mynd i gael ei lleoli yn Nhrefforest.

Rwan dydi o ddim llawer o amser yn ol pan roedd Carwyn Jones a Ken Skates yn awgrymu bod yr arfer o leoli pob dim yn agos at Gaerdydd am ddod i ben.  

Carwyn Jones (mewn ateb i gwestiwn gan Sian Gwenllian) 10/1/17

Mae  hwnnw’n gwestiwn pwysig dros ben. Mae rhai wedi sôn am Borthmadog, wrth gwrs, hefyd. Rwy’n deall, wrth gwrs, pam y mae’r Aelod yn cefnogi Caernarfon. Mae hwn yn rhywbeth rwy wedi gofyn i swyddogion i’w ystyried. Y pwynt sy’n cael ei godi yw a fyddai’n bosib sicrhau bod yna ffyniant o sgiliau yn yr ardaloedd llai trefol. Mae hwnnw’n gwestiwn agored ar hyn o bryd. Ond, rwy’n deall, lle mae corff newydd yn cael ei greu—corff cyhoeddus newydd, felly—dylem edrych y tu fas i Gaerdydd, ac efallai y tu fas i’r de hefyd, er mwyn gweld a oes yna fodd i sicrhau bod y corff hwnnw yn gallu bod rhywle arall yng Nghymru. Felly, mae hwn yn rhywbeth yr ydym yn ei ystyried ar hyn o bryd.

Ken Skates 13/12/16

Can I thank the Member for his questions and say I would agree with him on many of the points that he’s made about the need to ensure that we do decentralise where we can and share opportunities right across Wales. I’d be more than happy to discuss with my colleague, the Cabinet Secretary for Finance and Local Government, the idea of also ensuring the Welsh revenue authority is located away from the capital, potentially in north Wales, potentially in Wrexham.

Beth ddigwyddodd felly?  

Mae'r ateb yn eithaf hawdd. Proses arferol asesu addasrwydd safleoedd ar gyfer swyddfeydd Llywodraeth Cymru ddigwyddodd.
  Dewiswyd chwe lleoliad i'w hystyried - Parc Cathays yng nghanol Caerdydd, Trefforest, Merthyr, Caerfyrddin,  Cyffordd Llandudno ac Aberystwyth.  Cafodd pob lleoliad ystyriaeth - ond ystyriaeth yn unol a thri maen prawf - pellter o randdeiliaid, pellter at gwsmeriaid, ac argaeledx gweithlu arbenigol.  Cafodd y llefydd hyn eu dewis oherwydd bod rhannau o ystad Llywodraeth Cymru wedi eu lleoli ynddynt - penderfyniad oedd ynddo'i hun yn cyfyngu'n ddifrifol ar yr hyn oedd yn bosibl o ran lleoli.

Rwan - os mai dyna'r meini prawf dim ond dau le oedd ag unrhyw obaith o ddenu 'r lleoliad - y ddau sydd wedi eu lleoli yn y De Ddwyrain ac ar goridr yr M4.  Roedd hefyd yn amlwg pa leoliad fyddai'n dod yn olaf - yr un yn y Gogledd ymhell o ganolfannau poblogaeth y De Ddwyrain, ac ymhell oddi wrth y miloedd o weision sifil sy'n byw yn ardal Caerdydd.  

Yn wreiddiol roedd sgiliau yn y Gymraeg ymysg y meini prawf - rhywbeth fyddai wedi rhoi mantais sylweddol i Gyffordd Llandudno - ac anfantais sylweddol i'r tri lleoliad yn y De Ddwyrain.  Penderfynwyd yn gynnar yn ystod y broses i hepgor y maen prawf yma - ond cadwyd y tri arall.

O wneud hynny roedd y sgoriau yn gweithio'n eithaf twt - y pellaf y lleoliad o ganol Caerdydd yr isaf ydi'r sgor, yr agosaf y lleoliad i ganol Caerdydd yr uchaf y sgor:

Parc Cathays 57
Trefforest 53
Merthyr 45
Caerfyrddin 34
Aberystwyth 28
Cyffordd Llandudno 19

Aethwyd am y y lleoliad ddaeth yn ail yn hytrach na'r un ddaeth yn gyntaf oherwydd addasrwydd adeiladau.

Felly dyna ni - gosodwyd meini prawf oedd yn sicrhau canlyniad cwbl ragweladwy, a digwyddodd yr un peth ag arfer - aeth y wasanaeth i'r un ardal ag arfer.  Dydi o ddim ots faint o ddoethinebu ffug sanctaidd am leoli adrannau o'r llywodraeth y tu hwnt i ardal Caerdydd - mae meini prawf yn cael eu gosod sy'n sicrhau nad ydi hynny byth am ddigwydd.

Does yna ddim byd byth am newid hyd y bydd lleoli teg ymysg meini prawf Llywodraeth Cymru.




1 comment:

Unknown said...

Byddwn yn ymweld yn aml â swyddfa Threfforest pan fyddwn i'n gweithio i'r WDA. Oedd, roedd nifer o'r staff yno'n byw yn y cymoedd, ond roedd y rhan fwyaf yn teithio o Gaerdydd a'r cyffiniau - yn eu plith bron pob un o'r rheolwyr. Teithio mewn car bron yn ddieithriad bydden nhw, er bod gorsaf rheilffordd fach heb fod yn bell.

Nonsens llwyr yw honni y bydd cymunedau'r cymoedd yn elwa o leoli swyddfa'r trethi yn Nhrefforest. Ond bydd Porthmadog - a'r iaith Gymraeg - ar eu colled yn fawr. Er bo fi'n byw yn y De, fe gefais wasanaeth staff Porthmadog bob amser o ansawdd uchel, a'r lleoliad ddim yn anfantais.

Penderfyniad gwarthus.