Sunday, March 05, 2017

Brexit ac etholiadau Gogledd Iwerddon

Felly dyna ni - mae'r DU yn wynebu tri argyfwng cyfansoddiadol ar yr un pryd - negydu termau ymadawiad y DU a'r UE, ail refferendwm tebygol ar ymadawiad yr Alban a'r DU a cheisio adgyfodi Stormont.  Mae'n fwy na phosibl y bydd delio efo galwadau am refferendwm i ail uno'r Iwerddon yn cael ei ychwanegu at hynny yn y man.  Mae'r bleidlais Brexit yn gysylltiedig a'r tri argyfwng mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.

Cyn mynd ymlaen, gair brysiog am ddigwyddiadau echdoe.  Rydym eisoes wedi edrych ar y rhesymau tros ddymchwel Stormont.  Yn fyr roedd y cyfraddau pleidleisio ymysg cenedlaetholwyr
wedi bod yn gostwng oherwydd bod y brif blaid genedlaetholgar - Sinn Fein - wedi bod mewn llywodraeth am gyfnod maith.  Roedd plaid sydd a chefnogwyr naturiol hynod o wrth sefydliadol yn ymddangos yn sefydliadol iawn.  Canlyniad i ymdrech lwyddiannus i ail fwtio'r blaid a mynd a hi'n ol at ei gwreiddiau gwrth sefydliadol - ac yn wir chwyldroadol - oedd canlyniadau ysgytwol yr etholiad.  Mae'r tablau isod yn gwneud hynny'n gwbl glir.  




A roeddynt yn ysgytwol hefyd - mewn un diwrnod chwalwyd y mwyafrif etholiadol unoliaethol i pob pwrpas.  Mae wedi sefyll ers ffurfio'r wladwriaeth bron i ganrif yn ol - beth bynnag arall ddaw, mae'r tirwedd gwleidyddol wedi ei drawsnewid yn llwyr.  Am y tro cyntaf yn hanes y dalaith mae'r unoliaethwyr wedi methu ag ennill mwyafrif yn Stormont a mwyafrif o ran y bleidlais.

Rwan, mae'r rhesymau am yr hyn ddigwyddodd yn eithaf cymhleth - y gwelltyn olaf oedd penderfyniad bach eithaf sbeitlyd gan weinidog addysg y DUP i gael gwared o grant (bychan iawn) i helpu plant sydd yn dysgu Gwyddeleg a sy'n rhy dlawd i dalu am fynd i'r Gaeltacht ar wyliau astudio.  O fewn oriau roedd Adams ar y ffordd i Derry i siarad efo McGuinness, penderfynwyd yn eithaf cyflym nad oedd gan y DUP bellach ddiddordeb mewn dilyn egwyddorion cydraddoldeb Cytundeb Dydd Gwener y Groglith, ac roedd Stormont wedi ei dynnu i'r llawr o fewn dyddiau.

Ond roedd Brexit yn gefndir i hyn oll.  Mae gadael yr UE yn broblem ym mhob rhan o'r DU, ond mae'n fwy o broblem yng Ngogledd Iwerddon nag yw yn unman arall.  Mae ffin rhyngwladol 'galed' yn debygol o niweidio Gogledd Iwerddon yn economaidd - bydd yn hawdd iawn i gwmniau sy'n allforio i Ewrop adleoli yng Ngweriniaeth Iwerddon.  Yn ychwanegol at hynny bydd yn creu rhwystr i bobl fynd o gwmpas eu bywyd pob dydd - bydd yn rhwystro pobl rhag symud yn rhwydd at eu ffrindiau a'u teuluoedd - bydd yn creu rhwystr rhyngddyn nhw a'u gwaith, eu tafarnau, eu hanifeiliaid a'u eglwysi. Yn yr etholaethau sy'n agos at y ffin oedd rhai o'r symudiadau mwyaf ysgytwol tuag at SF trwy'r dalaith.  Mae 19 o'r 25 sedd ar hyd y ffin bellach yn nwylo Cenedlaetholwyr neu Weriniaethwyr.

Mae yna lawer o oblygiadau anfwriadol i Brexit - ac un o'r rheiny ydi straen ychwanegol sylweddol ar bensaerniaeth y wladwriaeth Brydeinig ei hun - ac mae hynny 'n wir am Ogledd Iwerddon o leiaf cymaint a'r Alban erbyn hyn.

No comments: