Monday, April 24, 2017

Pol Cymreig heddiw

Ar y ffigyrau yma byddai Llafur yn colli pob sedd sydd ganddynt yn y Gogledd - Ynys Mon, De Clwyd, Wrecsam, Delyn ac Alyn a Glannau Dyfrdwy.  

Byddant hefyd yn colli'r ddwy sedd Casnewydd, De Caerdydd, Gorllewin Caerdydd, Pen y Bont.  Byddai risg sylweddol hefyd i Orllewin Abertawe a Thorfaen.


2 comments:

Anonymous said...

Mae yna elfen yma o bleidleiswyr Llafur yn troi at y Toriaid yn uniongyrchol - y Gogledd Ddwyrain ? Mae'n amlwg fod nifer uchel o bleidleiswyr Cymru bellach yn coleddu BREXIT, caled neu beidio. Gobeithio y bydd Leanne Wood yn son am rhywbeth arall am y chwech wythnos nesaf, a lleoli'r blaid i'r dde o'r Blaid Lafur. Nid oes pleidleisiau i'w cael i'r chwith ohoni. Gobeithio y bydd canlyniad da i'r Blaid yn yr etholiadau lleol, ac un drwg i Lafur, yn perswadio pobl i wrthod hurtrwydd di-glem Corbyn.

Joniesta said...

Diawledig. Mae hyn yn dangos i ni meth bynnag mai y ceidwadwyr yw y prif elyn. Perygl go iawn i ddatganoli bellach.