Monday, April 03, 2017

Pwt o eglurhad i Glyn Davies

Dwi'n gobeithio nad fi sydd yn gyfrifol am y ffaith nad ydi'r Tori o Faldwyn, Glyn 'Pluen Eira' Davies, am gyhoeddi sylwadau ar ei flog eto.  Ymddengys ei fod wedi cael y myll:

To begin. If you are just reading this, looking to criticise and make some **** comment, don't bother. Comments are so miserable, (and almost always anonymous) that I'm no longer going to publish them. If you have no wish to engage in constructive debate, go read someone else's blog. I don't write it for you. I write it for me, to help me think through issues of concern.

Y peth ydi fy mod i wedi gadael sylw ar dudalen sylwadau y rant yma gan Glyn lle nad oedd o methu deall, methu deall o gwbl, pam bod yr Undeb Ewropiaidd yn cymryd ochr Sbaen yn hytrach nag un y DU yn eu anghydfod ynglyn a statws cyfansoddiadol Gibraltar.  Roedd y sylw wrth gwrs yn fy enw fy hun - fel mae pob dim dwi'n ei gyhoeddi ar y We - neu fel arall.

Cynnig pwt o eglurhad i Glyn pam bod yn UE mor anystyriol o'i safbwynt wnes i.  Mae'r rheswm yn union yr un peth a'r rheswm y gorfodwud Sbaen i agor y ffin efo Gibraltar cyn cael hawl i ymuno a'r UE yn 1986.  Roedd yr UE yn cefnogi gwlad oedd yn aelod yn erbyn gwlad nad oedd yn aelod mewn anghydfod tiriogaethol. Bryd hynny Prydain oedd yr aelod a Sbaen oedd y wlad nad oedd yn aelod.

Y tro hwn mae'r esgid ar y droed arall.  Mae Prydain ar y ffordd allan o'r UE tra bod Sbaen yn aros i mewn.  Mae'r UE felly yn cefnogi'r wlad sydd yn aros i mewn yn ei anghydfod tiriogaethol efo'r wlad sy'n gadael.  Mae hyn yn anhepgor.

Yn yr ystyr yna mae'r DU yn ynysig a di gyfaill.  Mae ar ei phen ei hun.  Glyn a'i gyfeillion oedd am adael y DU sy'n gyfrifol am hyn - ond bydd rhaid iddynt ddod i arfer at sefyllfaoedd tebyg.  Os bydd anghytundeb rhwng y DU ac Iwerddon tros statws Gogledd Iwerddon, gallwn fod yn reit siwr ar ochr pwy fydd yr UE bryd hynny hefyd.


4 comments:

Joniesta said...

ti ddim ar ben dy hyn. Mae o wedi tynnu fy sylwadau i lawr yn ddiweddar. Cega ar gynnwys ei araith yn gynhadledd y toriaid oedd y drosedd.

Anonymous said...

Tra rydym yn son am flogiau adain-dde o'r canolbarth, oes modd i ti ail-gynnwys 'Jac o'the North' yn y blogiau ti'n eu dilyn eto ? Mae ei gyfraniad, a'r sylwadau dadlennol gan genedlaetholwyr eraill fel Gwilym ap Ioan, yn agoriad llygad.

Cai Larsen said...

Dwi wedi trio sawl gwaith, ond am rhyw reswm dydi'r peth byth yn gweithio. Mi dria i eto - ond bydd hwn y degfed gwaith i mi wneud hynny mae'n siwr.

Anonymous said...

Diolch yn fawr - mae'n flog na all neb anwybyddu, serch fod rhai pethau carlamus a heriol eithriadol yn cael eu dweud.