Saturday, April 01, 2017

Sut fyddwn yn adnabod llwyddiant ym mis Mai?

Y peth cyntaf i’w ddeall ydi bod etholiadau 2012 yn dda iawn i Lafur ac yn wael i bawb arall.   Y canlyniadau oedd:

Llafur 304,296  36.0% +9.4% 577 cynghorydd cynnydd o 237. 

Annibynnol 190,425  22.5% + 0.5%  284 cynghorydd – colled o  27

Plaid Cymru 133,961 15.8% -1.0% a  158 cynghorydd colled o 41

Toriaid 108,365  12.8% - 2.8% 0 -2 105 colled o 66

Dib Lems  68,619  8.1% - 4.9% a 72 cynghorydd colled o  91

UKIP – 0

Mae’n anodd gor bwysleisio diwrnod mor dda gafodd Llafur yn 2012 yng Nghymru.  Mae’n debyg mai dyma eu perfformiad gorau mewn llywodraeth leol ers dyddiau Kinnock.  Roedd ganddynt reolaeth lwyr tros 10 cyngor – o gymharu a dau yn yr etholiad blaenorol.  Roedd yr annibyns yn rheoli 2 gyngor arall, ond ni lwyddodd yr un o’r pleidiau eraill i reoli cyngor o gwbl. 

Rwan gallwn fod yn sicr – yn hollol sicr – na fydd Llafur yn gwneud cystal y tro hwn.  Y ffordd gorau o ddarogan perfformiad Llafur mewn etholiadau cyngor (yn anffodus) ydi trwy edrych ar y polau piniwn ehangach. Yn hanesyddol dyna sy'n penderfynu eu tynged  - nid eu perfformiad ar y cynghorau.

Dymamae'r polau yn ddweud wrthym ar hyn o bryd o gymharu a 2012:

Polau Cymreig:


Llafur 2012 48% Eleni 31%
Toriaid. 2012 19% Eleni 25%
Lib Dems 2012 7% Eleni 8%
Plaid Cymru – 2012 17% Eleni 21%
UKIP – 2012 5% Eleni 12%

Polau Prydeinig:
Llafur 41% vs 27%%
Toriaid 36% vs  43%%
Lib Dems 11%  vs 10%
UKIP 7% vs 10%

Gallwn fod yn siwr y bydd Llafur yn colli rheolaeth ar y rhan fwyaf o gynghorau maent yn eu rheoli, ond y cwestiwn mwy diddorol ydi pam mor wael fydd eu perfformiad? 

Roedd 2008 yn drychinebus i Lafur -- yr etholaethau gwaethaf iddynt erioed yng Nghymru mae'n debyg. Dim ond 2 gyngor a reolwyd ganddynt – castell Nedd port Talbot a Rhondda Cynon Taf. A fydd Llafur yn gwneud cyn waethed neu yn waeth na hynny?  Os digwydd hynny  bydd yn ganlyniad trychinebus iddynt.  Yn yr amgylchiadau sydd ohonynt byddai rheoli 5 cyngor a chael 420 o gynghorwyr yn berfformiad eithaf da iddynt.

Beth am y Blaid ‘ta?

Cafodd y Blaid 158 cynghorydd yn 2012  - colled o 41 o gymharu a 2008.   Fyddai aros lle’r ydym ddim yn llwyddiant mewn amgylchiadau lle mae Llafur yn sicr o golli pleidleisiau a seddi. I hawlio ei bod wedi llwyddo mae angen gwneud yn llawer gwell na hynny.  I edrych am dargedau ystyrlon efallai ein bod angen edrych yn ol i'r gorffennol. 

Yr ail nifer uchaf o seddi i’r Blaid erioed  oedd 199 yn 2008.  Mae angen cael 42 yn fwy na gafwyd yn 2012 i guro hynny.   Cafwyd 161,000 pleidlais - neu 16.1% o'r bleidlais a gafwyd yn 2008. Byddai curo perfformiad 208 yn llwyddiant sylweddol.

Byddai hyd yn oed yn fwy o lwyddiant i guro perfformiad 1999 - yr un gorau yn hanes y Blaid.  Cafwyd 18.2% o'r bleidlais a 205 sedd gan reoli 3 chyngor.  Byddai curo'r tri meincnod yna - canran, cynghorwyr a chynghorau a reolir yn wirioneddol roi'r hawl i'r Blaid hawlio bod gwynt go gryf yn ei hwyliau.

A’r Toriaid?

Mae’r polau cenedlaethol a Phrydeinig yn awgrymu y dylai’r Toriaid wneud yn dda.  Eu prif broblem nhw yng Nghymru ydi’r ffaith nad ydynt yn dda iawn am ddod o hyd i bobl i sefyll i fynd ar gynghorau – ac mae hynny’n cynnwys ardaloedd lle maent yn gryf megis Powys a Phenfro.

Serch hynny mae ganddynt darged eithaf clir – eu perfformiad yn 2008 pan gawsant 149k o bleidleisiau, 174 o seddi a 15.6% o’r bleidlais.  Mae’n fwy na phosibl y byddant yn cyrraedd hynny ag ystyried eu perfformiad yn y polau – os bydd ganddynt yr ymgeiswyr mewn lle.  Mae’n debyg y byddant yn siomedig os na fyddant yn rhagori ar, neu o leiaf yn dod yn eithaf agos at hynny. 

Dib Lems:
Troi’r llanw fydd y gobaith yma ar ol trychineb 2012.  Fyddan nhw ddim yn ennill yr 13% a 165 cynghorydd a gawsant yn 2008, ond byddai cael mwy na 100 sedd a 10% o’r bleidlais yn ganlyniad da iawn iddynt.

UKIP:

Byddant yn gwneud yn wych i gael ugain sedd ar hyd a lled Cymru.  Mae ffigyrau sengl yn fwy tebygol o lawer.

No comments: