Friday, April 14, 2017

Sut i gael gweinyddiaeth Lafur heb bleidleisio i Lafur

Efallai bod y stori yma a ymddangosodd yn Golwg ddoe yn syndod i rai o etholwyr Gwynedd.




Rwan 'does yna ddim byd o gwbl o'i le mewn clymbleidio rhwng grwpiau neu bleidiau gwleidyddol ar gynghorau lleol.  Yn wir oni bai bod hynny'n digwydd byddai'n aml yn amhosibl rhedeg cynghorau.  

Serch hynny efallai y byddai etholwyr sy'n ystyried pleidleisio tros Lais Gwynedd neu ymgeiswyr annibynnol eisiau adlewyrchu y gallai llwyddiant i'r grwpiau hynny arwain at gyngor sy'n drwm o dan ddylanwad Plaid Lafur Jeremy Corbyn.  

1 comment:

Anonymous said...

Ella bod gan Plaid Cymru fwy o ymgeiswyr nag erioed......ond mae safon rhai ohonynt yn ddifrifol....gwirioneddol crafu gwaelod y gasgen. Mae yn well cael llai o ymgeiswyr a rheiny yn rai o safon.