Wednesday, August 16, 2017

ARFOR - y ffigyrau

Mae ail gyflwyniad  y syniad o sefydlu ARFOR- sef un awdurdod ar gyfer y Fro Gymraeg (Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin) yn un diddorol.  Syniad Adam Price ydi o wrth gwrs - fe gyflwynodd y syniad gyntaf tua pedair blynedd yn ol pan roedd ail strwythuro awdurdodau lleol ar agenda Llywodraeth Cymru.

Cyd destun ail godi'r syniad ydi bod Llywodraeth Cymru eisiau i awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i greu endidau sy'n cymryd cyfrifoldeb am gynllunio traws-sirol gan gynnwys datblygu economaidd a’r iaith gyda’i gilydd yn ogystal ag elfennau megis tai, amaeth, bwyd a diod, a thwristiaeth.

Mae  nifer o'r unedau newydd sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yn croesi ffiniau ieithyddol - a diwylliannol hefyd.

O safbwynt rhywun sydd eisiau gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu mae'r syniad yn un i'w groesawu - cyn belled a bod cynllunio ar gyfer y Gymraeg yn ganolog i genhadaeth yr endid newydd a bod y Gymraeg hefyd yn ganolog i'r ffordd mae'r endid yn cael ei weinyddu a'i reoli.

Yn ei gyfarfod yn yr Eisteddfod i drafod y syniad cafwyd awgrym gan Adam Price gallai Penfro a Chonwy fod yn rhan o'r awdurdod newydd yn ogystal a siroedd Cymreiciach Ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.  Y broblem efo cynnwys Conwy a / neu Penfro ydi y byddai gwneud hynny's Saesnigeiddio'r endid newydd yn sylweddol.

Os ydi'r awdurdod arfaethiedig i lwyddo - o safbwynt y Gymraeg mae'n rhaid iddo fod mwy - llawer mwy - fel Gwynedd na Chaerfyrddin neu Geredigion o ran ei ethos ac o ran ei iaith weithredol a rheolaethol.   Mae'n rhaid iddo hefyd flaenori amddiffyn a hyrwyddo'r Gymraeg.  Mae'n bosibl dadlau tros hynny os ydi mwyafrif y bobl sy'n byw o fewn tiriogaeth yr awdurdod siarad y Gymraeg.  Mae'n anos gwneud hynny os ydi'r siaradwyr Cymraeg mewn lleiafrif.  

Os ydym yn edrych ar y bedair sir Orllewinol ag eithrio Penfro mae yna fwyafrif bach sy'n siarad y Gymraeg.  Mae'n bosibl dadlau bod y mwyafrif hwnnw'n uwch na'r ffigyrau swyddogol oherwydd eu bod yn cymryd i ystyriaeth niferoedd cymharol uchel o fyfyrwyr - yn arbennig felly yng Ngwynedd a Cheredigion.  Mae'n debyg gen i bod sylwedd i'r ddadl honno yng nghyd destun y mater yma.







Os ydym yn ychwanegu Penfro i'r endid newydd mae'r sawl sy'n siarad y Gymraeg mewn lleiafrif.




Ac os ydym yn ychwanegu Conwy mae'n lleiafrif llai eto.





A beth am Ynys Mon, Conwy, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin?  Wel, unwaith eto mae gennym leiafrif.


Felly yn fy marn bach i, os ydi ARFOR ilwyddo fel erfyn i gryfhau'r Gymraeg, bydd rhaid iddo fod yn endid 4 sir - ynys Mon, Gwynedd, Ceredigion a Chaerfyrddin.


Saturday, August 12, 2017

Cylch rhagfarn y Bib

Reit 'ta cyn bod yr eitem ar Newsnight wedi codi'n ddiweddar waeth i ni ddweud gair neu ddau am y mater.  

Wna i ddim dweud llawer am Mr Ruck - mae  wedi bod wrthi'n gwyntyllu ei ragfarnau yn erbyn y Gymraeg ers blynyddoedd maith ar unrhyw blatfform sy'n fodlon ei gymryd.  Yr unig gysylltiad dwi wedi ei gael efo'r dyn mewn gwirionedd oedd pan enillodd y blog yma rhyw fan wobr neu'i gilydd flynyddoedd yn ol, ac aeth ati i gysylltu efo fi ar lein i gwyno bod fy mlog yn derbyn ffafriaeth, ac i holi beth ddylai fo ei wneud i gael gwobr.  Awgrymais y byddai'n syniad da iddo ysgrifennu blog mae pobl yn mwynhau ei ddarllen a rhoi cyhoeddusrwydd iddo.  Chlywais i ddim byd pellach.



Ta waeth, mae'r holl stori yn ddiddorol am resymau amgenach nag ansicrwydd gwaelodol yng nghymeriad Mr Ruck - mae'n dweud wrthym rhywbeth am ragfarnau Seisnig a sefydliadol.

Roedd y drafodaeth ar Newsnight wedi ei sbarduno gan newidiadau arfaethedig gan Lywodraeth Cymru yn ei darpariaeth ar gyfer hybu'r Gymraeg.  Dylai trafodaeth ar hynny wedi bod yn drafodaeth gweddol gysact a thechnegol - ond rhywbeth llawer mwy cyffredinol ac amrwd  a gafwyd. 

Mae thesis canolog yr eitem - bod y Gymraeg yn rhwystr i Gymru - yn hen, hen ragfarn.  Mae'n mynd yn ol - o leiaf - i'r Ddeddf Uno, ac roedd yn ganolog i'r feddylfryd roddodd Brad y Llyfrau Gleision i ni. Y rheswm i'r eitem gael ei fframio o gwmpas y rhagfarn yma ydi nad oedd y sawl oedd gan yn ymchwilio ar gyfer yr eitem fawr o wybodaeth am y Gymraeg, doedd ganddi hi ddim diddordeb mewn dysgu unrhyw beth am y Gymraeg, felly 'doedd ganddi ond ei rhagfarnau i dynnu arnynt.  Ac wedyn aeth ati i gael dau berson nad oedd yn gwybod fawr ddim am y Gymraeg i drafod y pwnc - gydag un ohonynt efo casineb obsesiynol tuag at y Gymraeg.

Mae gennym gylch ar waith yma sy'n atgyfnerthu ei hun.  Mae'r Bib (yn Lloegr) yn tynnu ar ragfarnau Seisnig wrth ymdrin a'r Gymraeg, maent yn darlledu stwff sy'n adlewyrchu'r rhagfarnau hynny, ac mae hynny yn ei dro yn adgyfnerthu'r rhagfarnau gwaelodol hynny.  Ac wedyn maent yn tynnu arnynt eto _ _.

Mae rhai o'r rhagfarnau Seisnig a chyfryngol tuag at y Gymraeg yn creu cyd  gwenwynig lle mae'n eithaf hawdd mynegi safbwyntiau hynod hyll mewn perthynas a'r iaith.  Y gwaethaf o'r rhain ydi'r canfyddiad nad oes fawr neb yn siarad yr iaith a'i bod yn cael ei chynnal yn llwyr gan bres cyhoeddus.  

Hynny yw mae'r iaith yn cael ei chynrychioli fel rhywbeth sydd ddim yn ymwneud a phobl - rhywbeth ar wahan, rhywbeth sy'n byw mewn geiriadur.  Mae'r Bib yn deall yn iawn bod ymosod ar Fwslemiaeth, neu Iddewiaeth neu Babyddiaeth yn ymosodiadau ar gymunedau o bobl, ond dydi'r geiniog bod ymysod ar y Gymraeg yn annad dim yn ymysodiad ar y bobl sy'n ei defnyddio wrth ryngberthnasu efo'i gilydd ddim wedi syrthio - a'r rheswm am hynny ydi'r cylch o ragfarn sy'n gyrru ymdriniaeth y Bib o Gymru.

Mae yna ragfarnau ehangach yn Lloegr (ac ym mhob man arall wrth gwrs), ond at ei gilydd mae'r Bib yn ceisio ymdrin yn gyfrifol a'r rheiny - fyddwn ni ddim yn cael dyn mewn gwisg Klu Klux Klan yn trafod cyfraniad Iddewon i fywyd Prydain, 'dydan ni ddim yn cael dau Sais dosbarth canol yn trafod tensiynau ar strydoedd Gogledd Iwerddon ac mae'r amrywiaeth barn ynglyn a'r amrywiaeth mewn cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cael ei adlewyrchu - i raddau o leiaf.

Mae'r ffaith bod y math yma o beth yn digwydd yng nghyd destun Cymru ynddo'i hun yn adlewyrchu rhagfarn gwrth Gymreig oddi mewn i'r Bib - dydi'r wlad a'i phethau ddim gwerth trafferthu llawer ynglyn a nhw -mater dibwys, ymylol - rhyfedd braidd.   

Ymddengys bod y rhagfarn hwnnw hyd yn oed yn amlygu ei hun yn y ffordd mae'r Gorfforaeth yn rhyngberthnasu'n fewnol.  Mae'n hen thema ar y blog yma bod y Bib yng Nghymru yn gweld ei hun fel cydadran o'r sefydliad yng Nghymru a bod hynny'n lliwio'r ffordd mae'n ymdrin ag endidau sefydliadol eraill yng Nghymru.  Ond 'does yna ddim amheuaeth bod ganddi gyfoeth o bobl sydd a dealltwriaeth o'r tirwedd cymdeithasol a gwleidyddol yma.  Ond - o safbwynt y Bib yn ganolog - 'doedd eu cyngor nhw ynglyn a pharatoi'r eitem ddim gwerth mynd ar ei ol.  I'r rhagfarnllyd mae canfyddiad bras, cwrs, cyffredinol pob amser yn well na manylder, ffeithiau ac ymwybyddiaeth  o nuance

Mae'n ddiddorol gyda llaw mor rhyfeddol o gyndyn oedd staff y Bib yng Nghymru i feirniadu'r rhaglen yn gyhoeddus - bron fel petaent yn ofn gwneud hynny.  Dwi'n gwybod bod yna'r fath beth a theyrngarwch corfforaethol  - ond mewn cylchoedd gwaith eraill mae beirniadaeth adeiladol yn dderbyniol - hyd yn oed pan mae'r feirniadaeth honno'n gyhoeddus.  Mae'n ymddangos bod yr hogiau a'r genod yng Nghymru yn ymwybodol o'u statws oddi mewn i'r Gorfforaeth.

A chyn gorffen - a rhag i mi fod yn rhy garedig efo staff y Bib yng Nghymru - dydi mynd o gwmpas yn gofyn i bobl 'What do you think of the Welsh language' ddim yn syniad da.  'Dydi'r Gorfforaeth ddim yn anfon gohebwyr o gwmpas yn holi 'What do yoy think of Urdu' neu Bengali neu beth bynnag.  'Dydyn nhw yn sicr ddim yn anfon neb o gwmpas yn holi beth ydi barn pobl am grefyddau, a dydyn nhw ddim yn anfod pobl o gwmpas yn holi pobl beth yw eu barn am wahanol leiafrifoedd ethnig.  Mae yna reswm da am hynny - ymarferiad mewn troi'r drol neu wthio'r cwch i'r dwr fyddai fo - creu trwbl.  Nid dyna ydi pwrpas y Bib - ac mae'r ffaith bod gohebwyr o Gymru yn gwneud hyn yn awgrymu bod rhai o ragfarnau'r Bib yn Lloegr yn ymestyn i Gymru hefyd.

Thursday, August 10, 2017

Ynglyn a'r etholiad a darlith Roger Scully yn yr Eisteddfod

Ymddiheuriadau i ddechrau - dwi yn y 'Steddfod a does gen i fawr o fynediad i drydan, ac oherwydd hynny mae charjio ffon yn hunllef braidd.

Ta waeth am son peddwn i am ddarlith gan Roger Scully yn yr eisteddfod ar ymgyrch a chanlyniad etholiad mis Mai ydw i.  Fel pob dim arall mae Roger yn ei gynhyrchu roedd y ddarlith yn drylwyr a diddorol - neu o leiaf roeddyn ddiddorol i'r anoraciaid yn ein plith.  Roedd y dadansoddiad o'r canlyniadau yn gryno ac yn drylwyr iawn ar yr un pryd - rhywbeth sy'n eithaf anoddi'wwneud.

Yr hyn dwi eisiau ei drafod fodd bynnag ydi'r ymdriniaeth a pham ddigwyddodd yr hyn ddigwyddodd - neu i fod yn fwy penodol o bosibl pam y gwnaeth Llafur mor dda yng Nghymru a'r tu hwnt i Gymru.

Roedd Roger yn cydnabod bod tipyn o ddirgelwch o gwmpas yr etholiad arbennig yma, a bod y canlyniad yn torri'n gwbl groes i'r  hyn y gellid ei ddisgwyl petai rheolau arferol etholiadol yn cael eu dilyn.  Ond un o'r elfennau roedd yn ei hystyried yn bwysig oedd y ffaith i'r Toriaid benderfynu ymladd yr etholiad ar y thema o arweinyddiaeth gadarn a dibenadwy, ond i'r arweinydd 'implodio' - chwedl yntau - yng nghanol yr ymgyrch.

Dwi'n tueddu i anghytuno - a dwi'n credu yn bersonol bod yr etholiad yn un mwy confensiynol na mae'r rhan fwyaf o bobl yn credu.  Yn fy marn i mae'r rhesymau am y canlyniad fel a ganlyn:

1). Cychwynodd yr etholiad gyda chanfyddiad nad oedd gan Lafur gyfle i'w hennill a bod Jeremy Corbyn yn anobeithiol.  Yn ychwanegol at hynny roedd y syniad bod llymder - a goblygiadau hynny i fywydau pobl wedi hen wreiddio.  Roedd y cyfryngau hefyd wedi portreadu May fel rhyw greadures effeithiol iawn.

2). Newidiodd pethau yn weddol gyflym.  Mewn etholiad cyffredinol mae arweinwyr yn cael sylw uniongyrchol ar y teledu a'r radio - sydd heb fynd trwy ffiltyr y Mail a'r Express, a gyda dechreuodd hynny ddigwydd cynyddodd poblogrwydd Corbyn ar draul poblogrwydd May.

3). Roedd y Toriaid wedi ceisio gwneud Brexit yn unig bwnc yr etholiad (ag eithrio cymeriad yr arweinydd).  Mae hanes yn dangos i ni nad ydi hi'n bosibl cyfyngu ymgyrch etholiadol i un pwnc - crwydrodd yr ymgyrch hir hon i bynciau eraill - gan gynnwys yr economi.

4). Dechreuodd pobl gael y neges bod posibilrwydd y gallai Corbyn ennill pan ddechreuodd y polau symud a dechreuodd carfanau sylweddol o bobl gymryd sylw am y tro cyntaf - yn arbennig felly pobl ieuengach - y bobl oedd wedi dioddef fwyaf yn sgil bron i ddegawd o lymder.

5). Erbyn diwedd yr etholiad roedd llawer o bobl nad oedd wedi pleidleisio yn 2015 yn gwneud hynny'r tro hwn.  Mae'n  debyg bod tros hanner y bleidlais 'newydd' Llafur yng Nghymru wedi dod gan bobl na bleidleisiodd yn 2015. 

A dyna ddigwyddodd am wn i - roedd llawer o bobl wedi dioddef oherwydd safonau byw statig (ar y gorau) am bron i ddegawd, ac yn fwyaf sydyn roedd Corbyn yn cynnig ffordd allan ohoni.  Roedd ceisio dianc yn siwr o ddigwydd yn hwyr neu'n hwyrach beth bynnag - ond daeth yr etholiad ar yr union amser pan roedd pobl yn dechrau sylweddoli nad oedd gan y Brenin Llymder ddim dillad.  Roedd polisiau economaidd Corbyn yn ddarniog, a ddim yn gwneud llawer o synnwyr ar sawl cyfri - ond roeddynt yn wahanol i'r hyn a gafwyd am bron i ddegawd ac yn cynnig ffordd allan o'r gors. Nid polisiau llymder mohonynt.

Rwan dwi ddim yn amau nad yr economi a llymder oedd yn dod ar frig materion etholiadol pobl pan oedd YouGov yn gofyn iddynt - ond roedd y cyfryngau eisoes wedi dweud wrth bobl beth oedd themau'r etholiad hyd at syrffed.

Ond materion economaidd sy'n symud niferoedd mawr o bobl mewn etholiadau cyffredinol fel rheol - a dyna ddigwyddodd y tro hwn.  Mae safon byw pobl, a'u canfyddiad o sut y bydd hwnnw'n gwella neu waethygu yn effeithio'n sylfaenol ar bobl - am y ffordd maent yn meddwl am y Byd, ac yn bwysicach ar sut maent yn ei deimlo am y Byd ac amdanyn nhw eu hunain a'u teuluoedd.

Efallai bod pobl yn dweud wrth y sawl oedd yn holi ar ran YouGov mai Brexit neu'r Gwasanaeth Iechyd neu beth bynnag oedd yn bwysig iddynt - ond roeddynt yn pleidleisio yn unol a sut roeddynt yn teimlo - nid yn unol a dadansoddiad y cyfryngau o'r etholiad.  Ac roeddynt yn teimlo eu bod wirioneddol angen newid eu byd.

Wednesday, August 02, 2017

Mymryn o Schadenfreude

Dwi wedi treulio'r diwrnod yn symud recordiau 78" - miloedd ohonyn nhw (peidiwch a gofyn pam, da chi).  Mae feinyl ar y gorau yn drwm, ond mae'r hen finyl a ddefnyddwyd mewn recordiau 78" tua dwywaith trymach na'r record finyl gyfoes.  Dwi'n brifo trostaf.  Felly i godi fy nghalon ychydig dyma fynd ati i gael ychydig o hwyl i edrych ar berfformiad y Dib Lems bach 'na yn eu - ahem - cadarnle yn rhanbarth Gogledd Cymru.



Gogledd Cymru ydi rhanbarth mwyaf poblog ac mewn rhai ffyrdd mwyaf amrywiol Cymru.  Byddai dweud bod perfformiad y Dib Lems yma yn erchyll yn sylw caredig.  Mae yna 9 etholaeth yn y Gogledd ac roedd cyfanswm y blaid yn amrywio o 479 yn Ynys Mon i 1089 yng Ngorllewin Clwyd.  Roedd eu canran o'r bleidlais yn amrywio o 1.3% yn Ynys Mon i 2.9% yng Ngorllewin Clwyd.  

Gan bod angen 5% o'r bleidlais i gadw ernes collwyd pob ernes yn y Gogledd - ond aeth y Dib Lems gam yn well na hynny - rhywsut llwyddwyd i fethu cael mwy na hanner hynny - 2.5% - mewn 6 o'r 9 etholaeth, a llwyddwyd i gyrraedd y mil yn yr etholaethau hynny.

Os ydym yn adio pob pleidlais gafodd y Lib Dems ym mhob etholaeth yn y Gogledd cawn gyfanswm o 7529. Mae hyn yn llai o bleidleisiau na gawsant yn Wrecsam ar ei ben ei hun yn 2010.  Ni fyddai'r cyfanswm yn ddigon i ennill sedd mewn unrhyw etholaeth yn y Gogledd yn 2017 (nag yn unman arall yng Nghymru).  Yn wir ni fyddai'n ddigon i fod yn ail mewn unrhyw etholaeth - y Toriaid yn Ynys Mon ddaeth yn ail efo'r cyfanswm isaf (10,834).  Fyddai 7529 ddim wedi bod yn ddigon iddynt ddod yn drydydd yno chwaith.  Yn wir cafodd y blaid oedd yn ail fwy na dwywaith gyfanswm y Dib Lems tros y Gogledd mewn nifer o etholaethau.

Rhag eich bod yn meddwl mai ffliwc oedd y perfformiad anhygoel yma, fis ynghynt cawsant 15 sedd tros 5 a 1/2 cyngor y Gogledd allan o 296 cynghorydd - gyda bron i hanner y rheiny ar un cyngor - Fflint. 

Dyna fo - dwi'n teimlo'n well rwan.