Thursday, August 10, 2017

Ynglyn a'r etholiad a darlith Roger Scully yn yr Eisteddfod

Ymddiheuriadau i ddechrau - dwi yn y 'Steddfod a does gen i fawr o fynediad i drydan, ac oherwydd hynny mae charjio ffon yn hunllef braidd.

Ta waeth am son peddwn i am ddarlith gan Roger Scully yn yr eisteddfod ar ymgyrch a chanlyniad etholiad mis Mai ydw i.  Fel pob dim arall mae Roger yn ei gynhyrchu roedd y ddarlith yn drylwyr a diddorol - neu o leiaf roeddyn ddiddorol i'r anoraciaid yn ein plith.  Roedd y dadansoddiad o'r canlyniadau yn gryno ac yn drylwyr iawn ar yr un pryd - rhywbeth sy'n eithaf anoddi'wwneud.

Yr hyn dwi eisiau ei drafod fodd bynnag ydi'r ymdriniaeth a pham ddigwyddodd yr hyn ddigwyddodd - neu i fod yn fwy penodol o bosibl pam y gwnaeth Llafur mor dda yng Nghymru a'r tu hwnt i Gymru.

Roedd Roger yn cydnabod bod tipyn o ddirgelwch o gwmpas yr etholiad arbennig yma, a bod y canlyniad yn torri'n gwbl groes i'r  hyn y gellid ei ddisgwyl petai rheolau arferol etholiadol yn cael eu dilyn.  Ond un o'r elfennau roedd yn ei hystyried yn bwysig oedd y ffaith i'r Toriaid benderfynu ymladd yr etholiad ar y thema o arweinyddiaeth gadarn a dibenadwy, ond i'r arweinydd 'implodio' - chwedl yntau - yng nghanol yr ymgyrch.

Dwi'n tueddu i anghytuno - a dwi'n credu yn bersonol bod yr etholiad yn un mwy confensiynol na mae'r rhan fwyaf o bobl yn credu.  Yn fy marn i mae'r rhesymau am y canlyniad fel a ganlyn:

1). Cychwynodd yr etholiad gyda chanfyddiad nad oedd gan Lafur gyfle i'w hennill a bod Jeremy Corbyn yn anobeithiol.  Yn ychwanegol at hynny roedd y syniad bod llymder - a goblygiadau hynny i fywydau pobl wedi hen wreiddio.  Roedd y cyfryngau hefyd wedi portreadu May fel rhyw greadures effeithiol iawn.

2). Newidiodd pethau yn weddol gyflym.  Mewn etholiad cyffredinol mae arweinwyr yn cael sylw uniongyrchol ar y teledu a'r radio - sydd heb fynd trwy ffiltyr y Mail a'r Express, a gyda dechreuodd hynny ddigwydd cynyddodd poblogrwydd Corbyn ar draul poblogrwydd May.

3). Roedd y Toriaid wedi ceisio gwneud Brexit yn unig bwnc yr etholiad (ag eithrio cymeriad yr arweinydd).  Mae hanes yn dangos i ni nad ydi hi'n bosibl cyfyngu ymgyrch etholiadol i un pwnc - crwydrodd yr ymgyrch hir hon i bynciau eraill - gan gynnwys yr economi.

4). Dechreuodd pobl gael y neges bod posibilrwydd y gallai Corbyn ennill pan ddechreuodd y polau symud a dechreuodd carfanau sylweddol o bobl gymryd sylw am y tro cyntaf - yn arbennig felly pobl ieuengach - y bobl oedd wedi dioddef fwyaf yn sgil bron i ddegawd o lymder.

5). Erbyn diwedd yr etholiad roedd llawer o bobl nad oedd wedi pleidleisio yn 2015 yn gwneud hynny'r tro hwn.  Mae'n  debyg bod tros hanner y bleidlais 'newydd' Llafur yng Nghymru wedi dod gan bobl na bleidleisiodd yn 2015. 

A dyna ddigwyddodd am wn i - roedd llawer o bobl wedi dioddef oherwydd safonau byw statig (ar y gorau) am bron i ddegawd, ac yn fwyaf sydyn roedd Corbyn yn cynnig ffordd allan ohoni.  Roedd ceisio dianc yn siwr o ddigwydd yn hwyr neu'n hwyrach beth bynnag - ond daeth yr etholiad ar yr union amser pan roedd pobl yn dechrau sylweddoli nad oedd gan y Brenin Llymder ddim dillad.  Roedd polisiau economaidd Corbyn yn ddarniog, a ddim yn gwneud llawer o synnwyr ar sawl cyfri - ond roeddynt yn wahanol i'r hyn a gafwyd am bron i ddegawd ac yn cynnig ffordd allan o'r gors. Nid polisiau llymder mohonynt.

Rwan dwi ddim yn amau nad yr economi a llymder oedd yn dod ar frig materion etholiadol pobl pan oedd YouGov yn gofyn iddynt - ond roedd y cyfryngau eisoes wedi dweud wrth bobl beth oedd themau'r etholiad hyd at syrffed.

Ond materion economaidd sy'n symud niferoedd mawr o bobl mewn etholiadau cyffredinol fel rheol - a dyna ddigwyddodd y tro hwn.  Mae safon byw pobl, a'u canfyddiad o sut y bydd hwnnw'n gwella neu waethygu yn effeithio'n sylfaenol ar bobl - am y ffordd maent yn meddwl am y Byd, ac yn bwysicach ar sut maent yn ei deimlo am y Byd ac amdanyn nhw eu hunain a'u teuluoedd.

Efallai bod pobl yn dweud wrth y sawl oedd yn holi ar ran YouGov mai Brexit neu'r Gwasanaeth Iechyd neu beth bynnag oedd yn bwysig iddynt - ond roeddynt yn pleidleisio yn unol a sut roeddynt yn teimlo - nid yn unol a dadansoddiad y cyfryngau o'r etholiad.  Ac roeddynt yn teimlo eu bod wirioneddol angen newid eu byd.

1 comment:

Anonymous said...

Dwi'n meddwl bod rhaid cydnabod bod llawer o gefnogwyr Plaid Cymru wedi pleidleisio Llafur y tro hwn, yn dilyn cofleidio gwerthoedd traddodiadol y blaid Lafur gan Corbyn.

Mi wnes i bleidleisio Llafur (Gorllewin Casnewydd) am y tro cyntaf yn fy mywyd (ag eithrio etholiadau lleol lle nad oedd dewis amgen ond y toriaid neu annibynwyr) - fel "vote swap" am fôt Plaid gyda ffrind yn Arfon oedd eisiau pleidleisio i Lafur (felly sicrheuais i 1/75 o fwyafrif Hywel - dwi'n falch o wneud hynny felly). Nifer o hen ffrindiau a theulu gen i byddai fel arfer wedi cefnogi'r Blaid naill ai wedi pleidleisio i Lafur neu wedi ystyried gwneud hynny.

Rhaid sicrhau ein bod yn adennill y pleidleisiau hyn, neu o leiaf sicrhau nad ydynt yn eu colli ar lefel cynulliad. Dwi'n meddwl bod llwyddiant Ben yng Ngheredigion wedi 'papuro drosodd' y bygythiad go iawn sydd i Blaid Cymru gan Corbyn a symudiad Llafur i'r chwith.