Sunday, October 01, 2017

Llafur Arfon a thlodi - rhaid wrth dderyn glan i ganu

Ar y Maes yng Nghaernarfon ddoe oedd fy nhad pan gafodd ei ganfasio gan actifydd Llafur - o bosibl y tro cyntaf iddo gael y profiad hwnnw yn ei fywyd (mae o 'n 90 oed).  A dweud y gwir cafodd ei ganfasio ddwywaith - y tro cyntaf ar y ffordd i Stryd Llyn a'r ail waith ar y ffordd oddi yno.  

Mae'n ddigon naturiol bod Llafur eisiau gwneud ymdrech ychwanegol yn Arfon wrth gwrs - o drwch blewyn yn unig enillwyd yr etholaeth gan Blaid Cymru ym mis Mai ac maen nhw'n rhagweld etholiad arall yn gynt yn hytrach na'n hwyrach.  Digon teg.

Yr hyn sy'n llai teg fodd bynnag ydi pitch eu canfaswyr.  Y neges gafodd fy nhad oedd bod Arfon yn dlawd, ac mai'r rheswm am hynny ydi bod Arfon yn dlawd ac mai'r rheswm am hynny ydi ei bod wedi ei chynrychioli gan Blaid Cymru am hir.  Oni bai am y ffaith amlwg mai rhan o Arfon yn unig sydd wedi ei chynrychioli gan y Blaid am hir mae yna broblem arall - wrth safonau Cymreig 'dydi Arfon ddim yn dlawd. A dyna ddywedwyd wrth un o'r canfaswyr gan fy nhad 'Os ydych chi eisiau gweld ardaloedd tlawd ewch i'r rhai rydych chi wedi eu rheoli am ganrif yng Nghymoedd y De'.  Daeth hynny a'r sgwrs i ben a throdd yr actifydd ei chefn i chwilio am rhywun arall i'w fwydro.

Ymddengys felly mai'r strategaeth ydi argyhoeddi trigolion etholaeth sydd ddim yn dlawd (mae cyflogau cyfartalog Arfon yn uwch nag unrhyw le yn y Gogledd ag eithrio Delyn er enghraifft) eu bod yn dlawd ac mai bai eu cynrychiolwyr etholedig ydi hynny.

Beth am gael golwg felly ar yr ardaloedd tlotaf yng Nghymru yn ol gwahanol fesuriadau?  Isod 'dwi 'n rhestru'r pump etholaeth sydd ar waelod y tablau Cymreig.  Ffigyrau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2015 ydyn nhw i gyd a dwi wedi eu cymryd oddi yma.

Mi wnawn ni ddechrau efo'r ganran o bobl sydd yn byw yn y 10% o gymunedau tlotaf yng Nghymru:

Gorllewin Caerdydd 26%
Rhondda 26% 
Merthyr 24%
Blaenau Gwent 23%
De Caerdydd 23%
Dwyrain Abertawe 23%

Mae'r chwech etholaeth yn cael eu cynrychioli yn San Steffan gan Lafur - ac maen nhw wedi cael eu cynrychioli gan y blaid honno fwy neu lai trwy gydol eu hanes ers i bleidlais rydd gael ei gyflwyno.

Y ffigwr ar gyfer Arfon ydi 8%.

Beth am y cymunedau mwyaf cyfforddus yn economaidd?  Wel mae'r ffigyrau isod yn dangos pa ganran o boblogaeth gwahanol etholaethau sy'n byw yn y 50% o gymunedau lleiaf difreintiedig:

Rhondda 4%
Cwm Cynon 14%
Blaenau Gwent 15%
Merthyr 17%
Dwyrain Abertawe 27%

Eto Llafur un ac oll.

Y ffigwr ar gyfer Arfon ydi 65%

Fel y byddai rhywun yn disgwyl mae pobl yn marw yn gynt os ydyn nhw'n byw mewn etholaethau Llafur.  Mae hyd bywyd cyfartalog dynion yng Nghymru yn 78.5.  Yn Arfon mae'n uwch na hynny - 79.4.  Pump etholaeth Llafur sydd ar waelod y tabl:

Rhondda - 75.9
Blaenau Gwent 76.2
Aberafan - 76.5
Dyffryn Clwyd - 76.7
Ogwr - 76.7

Ac eto fel y byddai rhywun yn disgwyl mae diweithdra'n uwch mewn etholaethau Llafur nag ydynt yng ngweddill Cymru.  Y rhif cyfartalog yng Nghymru yn 2015 oedd 7% - union ganran Arfon.  Ond wele'r 5 isaf - pob un ohonynt yn etholaethau Llafur wrth gwrs:

Blaenau Gwent - 14%
Rhondda - 12%
Aberafan - 10%
Merthyr 10%
Cwm Cynon 10%.

Beth am weithgaredd economaidd?  Mae'r ganran o bobl Cymru sydd ddim yn economaidd weithredol yn 21%.  Mae'n is na hynny yn Arfon - 19% - ond mae'n uwch o lawer mewn nifer o etholaethau Llafur:

Merthyr - 26%
Rhondda - 26%
Aberafan - 25%
Canol Caerdydd - 24%
Ogwr - 19%.

A wedyn rydych chi'n llai tebygol o lawer i fod mewn swydd broffesiynol os ydych yn ddigon anffodus i fyw mewn etholaeth Lafuraidd.  Mae yna 39.7% o boblogaeth Cymru mewn swyddi proffesiynol, ac mae'n uwch na hynny yn Arfon - 46% a bod yn fanwl gywir.  Etholaethau Llafur sydd ar waelod y tabl wrth reswm:

Rhondda - 27%
Cwm Cynon - 28%
Ogwr - 29%
Blaenau Gwent - 28%
Merthyr 30%.

Mae'r ganran o boblogaeth Arfon sydd heb unrhyw gymwysterau addysgol o gwbl fymryn yn uwch na'r cymedr Cymreig (11% o gymharu a 10%).  Ond unwaith eto etholaethau Llafur sydd ar waelod y tabl:

Rhondda - 17%
Cwm Cynon - 17%
Ogwr - 16%
Merthyr - 15%
Blaenau Gwent - 15%

Ond pan mae'n dod i gymwysterau uwch - NQF 4 neu uwch - mae Arfon (38%) yn uwch na'r cymedr cenedlaethol (32%) ac yn llawer, llawer uwch na'r cymedr Llafur.  Yr isaf - fel arfer ydi:

Blaenau Gwent - 18%
Rhondda - 18%
Cwm Cynon - 18%
Ogwr - 21%
Aberafan - 24%
Islwyn - 24%
Torfaen 24%

Rwan does yna ddim pwt o amheuaeth mai'r rhannau tlotaf o Gymru o dan y rhan fwyaf o fesuriadau ydi'r rhai traddodiadol Lafur.  Ond nid bai Ann Clwyd yn uniongyrchol ydi o bod Cwm Cynon ar waelod cymaint o'r tablau isod, ac nid bai Chris Bryant ydi o bod y Rhondda mor isel.  'Does gan y naill na'r llall ohonynt y pwerau cyfansoddiadol i ddenu buddsoddiad i'w etholaethau.  

Ond mae'n ffaith nad ydi pleidleisio i Lafur am ganrif wedi bod o fudd economaidd i Gymru, a'r ardaloedd sydd wedi dioddef fwyaf ydi'r rhai sydd wedi bod fwyaf cyson eu cefnogaeth i Lafur.  Mae'r rhesymau pam bod yna gydberthyniad mor agos rhwng pleidleisio i Lafur yng Nghymru a methiant economaidd, ond un o'r ffactorau pwysicaf ydi methiant y blaid honno pan mae wedi cael y cyfle i ddarparu Cymru, a chymunedau Cymru, efo'r arfau i ddenu buddsoddiad a datblygu'r economi mewn ffordd gytbwys.  


1 comment:

Anonymous said...

Fe ddywedodd rhywun wrthyf unwaith na fuasai dafydd Wigley wedi ennill yn 1974 petai Dinorwig heb gau rhyw 5 mlynedd ynghynt. Y rheswm iddo ddweud hynny oedd fod Goronwy Roberts wedi chwarae gormod ar ei gefndir tuag at ddiwedd ei yrfa, a hynny'n mynd ar nerfau'r rhai oedd wedi colli eu gwaith.
Yr ail reswm oedd fod y Blaid Lafur wedi ei chyplysu'n gryf gyda'r T & G. Dyma'r undeb a lyncodd Undeb (Hollol Gymraeg) y chwarelwyr, ac a oedd yn ffiaidd o wrth-Gymreig. Pan gaeodd y chwarel, dyma nerth a phwrpas lleol yr undeb yn diflannu, gan adael Llafur yn wan o ran 'muscle' . Bryd hynny, roedd symud actifyddion o un lle i'r llall yn anoddach.
Yr wyf wastad yn teimlo i Blaid Cymru roi eu pen yn y tywod am elyniaeth yr undebau tuag at genedlaetholdeb. Nid gelynion Mrs Thatcher oedd ein cyfeillion ni bob tro. Ceisiom gefnogi'r NUM yn 1984, a phlannu hedyn yn Ne Cymru, ond aros ym mynwes Llafur wnaeth y cymoedd. Sylweddolodd Bethan Jenkins yn ddiweddar na ellir ymddiried yn yr undebau llafur hyd heddiw.