Sunday, November 26, 2017

Pam bod sylwadau fel rhai Liam Fox yn cythruddo Gweriniaeth Iwerddon

Gan bod Liam Fox wedi cael ei hun yn y newyddion heddiw oherwydd ei sylwadau am Brexit a'r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth waeth i mi ddweud pwt.  

Yr hyn sy'n fy nharo ydi mor ddi ddeall ydi pobl fel Liam Fox a'r cyfryngau Seisnig o arwyddocad y ffin i'r Weriniaeth a'r graddau mae eu sylwadau yn cythruddo Gwyddelod ac yn gwneud feto o'u cyfeiriad nhw yn llawer mwy tebygol.  Mi geisiaf egluro.  

1). Mae'r ffin yn ffrwydrol - mae yna lawer iawn o bobl wedi eu lladd ar ei hyd - yr holl ffordd o Muff ar eithaf Gogledd Orllewinol y ffin  i Warrenpoint ar ei eithaf de Ddwyreiniol.

2). Dydi hi ddim yn bosibl selio'r ffin - mae'n rhedeg trwy bentrefi, trefi, ffermydd, gerddi, coedwigoedd, mynyddoedd, corsydd.  Ni lwyddwyd i'w selio pan roedd 55,000 o aelodau o'r lluoedd diogelwch ar gael gyda cart blanche i chwythu lonydd a phontydd i fyny os oeddynt eisiau, hofrenyddion rhyfel yn hedfan uwchlaw fwy neu lai yn barhaol ac ugeiniau o adeiladau milwrol wedi eu lleoli ar ei hyd.  

3). Mae agwedd gyffredinol Prydain yn corddi llywodraeth Iwerddon fel mae'n corddi llywodraethau eraill yn Ewrop.  Mae'r cyfuniad o'r penderfyniad i adael yr UE - sy'n benderfyniad a wnaed gan y DU a'r DU yn unig - ynghyd a'r disgwyliad i wledydd eraill i ddod o hyd i ddatrysiadau i'r problemau lu sy'n codi yn sgil hynny yn ddigon drwg.  Mae'r addewidion cyffredinol iawn yn absenoldeb unrhyw fanylion, ac yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth o fod wedi ystyried y manylion yn  gwneud pethau'n waeth.  

4). Mae'r penderfyniad i adael yr UE yn broblem economaidd sylweddol i'r Iwerddon.  Does yna ddim mewath o gydnabyddiaeth o hynny yn dod o gyfeiriad y DU.

5). Mae'r ddadl na ddylai Gogledd Iwerddon gael ei thrin mewn unrhyw ffordd yn wahanol i. 'Weddill' y DU yn afresymegol.  Mae'n cael ei thrin yn wahanol mewn pob math o ffyrdd - gan gynnwys cyfreithlondeb erthyliad a phriodas hoyw.

6). Mae'r cyferbyniad rhwng  ymddygiad llywodraeth Prydain wrth ymateb i'w dyled i'r Undeb Ewropeaidd รข sut y cafodd y Gwyddelod eu trin ni pan gawsant eu hannibyniaeth hefyd yn achos cynnen.

Gorfodwyd Iwerddon i gymryd  7% o ddyled rhyfel y DU a pharhau i ad-dalu blwydd-daliadau tir i Brydain, tra bod perchnogion Seisnig neu Eingl Wyddelig y rhan fwyaf o gyfoeth y wlad wedi mynd a phob ased oedd posibl ei symud i'r DU.  Gwnaed yn glir bod rhaid i'r wladwriaeth newydd glymu ei harian i sterling ac ildio i bolisi ariannol Banc Lloegr neu gael ei gwahardd o'r marchnadoedd cyllid rhyngwladol yn Llundain.

Dyna pam - yn wahanol i wledydd y Baltic, Fifindir, Gwlad Pwyl, Hwngari ac Iwgoslafia-  na lwyddodd economi'r Wladwriaeth Wyddelig i godi ar ei draed rhwng diwedd y Rhyfel Mawr a dechrau'r Dirwasgiad Mawr.

Ar hyn o bryd mae Prydain yn flin bod yna fil unwaith ac am byth o £40m i £60m ar y ffordd.  Pan adawodd Iwerddon y DU.  Dydi hyn ddim yn edrych yn llwyth o bres o ochr arall y Mor Celtaidd.  Byddai'r swm yma yn ychwanegu 2% i 2.5% o ddyled cenedlaethol y DU.  Mae hyn yn llawer is na'r hyn mae Iwerddon wedi bod yn ei ad dalu yn flynyddol ers trychineb ariannol 2009.

Winston Churchill sydd biau'r dyfyniad enwog yma yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf: 

"As the deluge subsides and the waters fall short, we see the dreary steeples of Fermanagh and Tyrone emerging once again. The integrity of their quarrel is one of the few institutions that have been unaltered in the cataclysm which has swept the world."

Ac mae yna rhywfaint o wirionedd yn hynny ( er mai 'our quarrel' nid 'their quarrel' sy'n gywir)  mae'r ffrae am statws cyfansoddiadol Iwerddon yn un oesol ac yn un sy'n codi ym mhob math o gyd destynnau.  


2 comments:

Anonymous said...

Erthygl dda Cai. 1 neu 2 o sylwadau.

Yn gyntaf. Neges ganolog y Brexiteers, cyn, drwy gydol, ac wedi'r refferendwn oedd - "We need to control our borders". Fel mae dy sylwadau yn dangos yn glir, mae hyn yn amhosib yn yr Iwerddon.

Rwan, mae nhw'n ceisio dweud dau beth hollol wrthgyferbyniol - a hynny ar yr un pryd. Maent yn dal i rwdlan am reoli ffiniau, (heblaw am yr Iwerddon), ble mae technoleg rhywsut neu'i gilydd yn mynd i atab y broblam.

Y gwir yw - mai cyfeirio at fewndudwyr a fforinars oeddynt yn ystod yr ymgyrch. Fydda technoleg ddim felly yn atal pobl rhag croes'r ffin.

Yn ail, sut mae hyn oll yn mynd i effeithio at borthladd Caergybi ? A fydd yna fwy o reolaeth yma ? A fydd yna dagfeydd hefo loriau a cheir yn creu tagfeydd i lawr London Road ? Fydd Irish Ferries ac efallai Stena yn osgoi porthladd Caergybi ?

Fydda modd cael erthygl gennyt at oblygiadau Brexit at gaergybi ?

Cai Larsen said...

Mae'r ddwy long fferi anferth sydd ar archeb ar hyn o bryd yn gallu mynd o Ddulyn i Rotterdam neu Cherbourg.