Thursday, May 31, 2018

Gadael yr UE - rhan 4



  1. 17.  Fel mae’r negydu yn mynd rhagddo mae’n dod yn amlwg y bydd rhaid i’r DU ddewis rhwng gadael yr Undeb Tollau a chael masnach rydd efo’r UE.  Felly mae’r Cabinet yn dechrau ffraeo ynglyn a dau gynllun gwahanol.  Mae May eisiau gweithredu ar  gynllun sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn unrhyw le arall yn y Byd lle byddai’r DU yn hel tollau ar ran yr UE.  Mae Boris Johnson yn disgrifio’r cynllun fel un ‘gorffwyll’.  Yn y cyfamser daw’n amlwg bod y cynllun mae Boris yn ei ffafrio - creu ffin sy’n cael ei phlismona gan dechnoleg - am gostio £20bn y flwyddyn - os ydi hi’n bosibl creu’r system yn y lle cyntaf - ac mae hynny’n hynod amheus. Mae hyn yn llawer mwy o arian na mae’r DU yn ei wario ar aelodaeth y DU ar hyn o bryd ac mae’n gyfystyr a chael dau Ogledd Iwerddon newydd i’w hariannu.  Mae’r Cabinet yn mynd ati i dreulio wythnosau yn ffraeo pa un o’r ddau gynllun boncyrs maent yn ei ffafrio - sy’n wastraff amser braidd cyn bod yr UE wedi dweud o’r cychwyn nad ydi’r naill gynllun na’r llall yn dderbyniol iddyn nhw.
  2. 18. Mae Cymru - neu ei llywodraeth - yn penderfynu ildio i ddymuniadau llywodraeth Doriaidd y DU a gadael iddyn nhw gadw’r pwerau ‘datganoledig’ sy’n cael eu ad ennill o Frwsel am gyfnod o flynyddoedd gan ddisgrifio eu llyfdra fel ‘cyd weithio’.  Unwaith eto mae llywodraeth genedlaetholgar yr Alban yn cymryd trywydd gwahanol ac yn gwrthod y math o ‘gyd weithredu’.  Maent yn cael cefnogaeth y gwrthbleidiau i gyd ag eithrio’r Toriaid a Jeremy Corbyn. Ac unwaith eto mae Cymru yn dangos nad oes rhaid i Lywodraeth San Steffan ei chymryd o ddifri.
  3. 19. Mae May yn cael syniad newydd - cicio Brexit ymhell i’r dyfodol, ac i gyfnod pan na fydd hi yn Brif Weinidog a felly ddim yn gorfod poeni am yr holl smonach.  Mae’n dechrau son am ymestyn y cyfnod trawsnewidiol ymhellach - i 2023 y tro hwn.  Petai yr UE yn derbyn yr argymhelliad (a go brin y byddan nhw) byddai ymadawiad y DU a’r UE wedi cymryd saith blynedd - ac mi fyddai yna ddigon o sgop i wthio pethau ymhellach fyth i’r dyfodol.

A dyna lle ydan ni ddwy flynedd ar ol penderfynu y byddai’n syniad da gadael yr UE.  ‘Dydan ni ddim wedi diffinio beth ydym ei eisiau, mae pob fersiwn o Brexit yn sicr o achosi niwed economaidd i’r DU, mae’r cloc yn tician efo llai na blwyddyn i fynd cyn ein hymadawiad - a’r unig beth tebyg i strategaeth sydd gan y DU ydi ceisio symud y penderfyniad i’r dyfodol pell.

Tuesday, May 29, 2018

Gadael yr UE - rhan 3





13.  Trwy gydol y cyfnod yma daw’n amlwg bod pob math o broblemau na ragwelwyd yn dod i’r amlwg.  ‘Fedar y DU ddim deall pam bod yr UE yn cymryd ochr ei haelodau ei hun mewn anghytundebau tiriogaethol (Gibralta ac Iwerddon), daw’n amlwg y bydd rhaid i’r DU gael ei system GPS (hynod ddrud) ei hun, y bydd yn fwy anodd a chostus i unigolion deithio yn yr UE, na fydd yn cael dylanwadu ar gyfreithiau amddiffyn data, daw’n amlwg bod pob math o gytundebau rhyngwladol bydd rhaid eu ail negydu a daw’n amlwg bod pob fersiwn o Brexit am fod yn niweidiol i economi’r DU gyda’r fersiynau caletach yn fwy niweidiol na’r rhai meddalach.  

14.Mae’r DU a’r UE yn cytuno i gyfnod ‘trawsnewidiol’ wedi i’r DU adael yr UE pan na fydd fawr ddim yn newid.  Bydd y cyfnod yn parhau am ddeunaw mis.

15. Dydi’r cyfnod o negydu go iawn ddim yn dechrau’n dda.  Mae May yn mynd ati i roi gwahanol linellau coch iddi hi ei hun - llinellau coch sydd yn croes ddweud ei gilydd a nad ydi hi’n bosibl cadw atynt oll.  Mae hi’n benderfynol na fydd y DU yn aros yn yr Undeb Tollau na’r Farchnad Sengl ond eisiau mynediad di lyfethair i’r UE.  Yn amlwg dydi hi ddim yn bosibl gwneud y tri pheth yma.

16. A daw hyn a ni yn ol at y ddadl a fethwyd ei hateb yn ystod yr ymgyrch Refferendwm ‘ Bydd yr UE yn siwr o ildio i’n gorchmynion i adael i ni fasnachu efo nhw am ddim tra’n tanseilio eu marchnadoedd eraill oherwydd eu bod eisiau gwerthu Prosecco i ni’.  

Mae hyn yn gamddealltwriaeth llwyr o’r hyn ydi’r UE.  Bloc masnachu oedd ar y cychwyn, a dyna yw o hyd yn annad dim arall.  Pwrpas bloc o’r fath ydi edrych ar ol buddiannau aelodau’r bloc ar draul gwledydd eraill, nid edrych ar ol buddiannau gwledydd sydd ddim yn aelodau o’r bloc ar draul aelodau’r bloc.  Mae’r DU yn gofyn i’r UE wneud yr ail - a byddai gwneud hynny’n tanseilio’r rheswm tros fodolaeth y bloc.  Byddai hefyd yn arwain at wledydd sydd eisoes wedi dod i gytundebau masnach efo’r UE yn ceisio ail negydu eu cytundebau fel eu bod hwythau hefyd yn cael eu trin yn well nag aelodau’r bloc.  Byddai hefyd yn groes i gyfraith yr UE.  

Mae yna ystyriaethau eraill hefyd. Mae ymhell tros 40% o allforion y DU yn mynd i’r UE, 8% o allforion yr UE sy’n mynd i’r DU.  Mae allforion i’r UE gyfwerth a thua 12% o economi’r DU tra bod allforion y ffordd arall yn gyfwerth a thua 3% o economi’r UE.  Ac mae yna fater bach arall hefyd - un mae’r UE yn rhy - ahem - gwrtais i son amdano.  Bydd Brexit yn cynnig cyfleoedd yn ogystal a heriau i’r UE.  Os na fydd Nissan yn gallu gwerthu ceir yn broffidiol ar dir mawr Ewrop, bydd hynny’n gadael bwlch yn y farchnad i Peugeot.  Os na fydd cwmniau allforio o Iwerddon eisiau mynd drwy’r rigmarol a’r gost anfon eu cynnyrch trwy ffin galed yng Nghaergybi a Plymouth, bydd cyfle i Rotterdam fanteisio ac os bydd ffatri Airbus yn cau ym Mrychdyn bydd yn adleoli i Limerick, neu Marsailles neu le bynnag arall oddi mewn i ffiniau’r UE.

Monday, May 28, 2018

Gadael yr UE - rhan 2


6. Yr ochr Gadael yn dehongli’r canlyniad agos fel y fuddugoliaeth fwyaf yn hanes gwleidyddiaeth y DU ac yn gyfiawnhad tros y Brexit caletaf bosibl.
7.  Cameron yn rhoi’r ffidil yn y to a May yn cael ei gorseddu yn ei le.  Negydu yn cychwyn - ond daw’n amlwg o’r cychwyn nad ydi ochr y DU wedi paratoi ac nad ydyn nhw’n hollol siwr beth maen nhw ei eisiau.  Mae’r lluniau teledu o’r cyfarfod cyntaf rhwng y ddau dim negydu lle mae ochr yr UE efo ffeiliau tew o’u blaenau tra nad oes darn o bapur rhwng tim negydu’r DU yn adrodd cyfrolau.
8.  Erthygl 50 yn cael ei gweithredu, a’r cloc ymadael yn cychwyn.
9.  May yn galw etholiad yn anisgwyl, yn colli ei mwyafrif ac yn cael ei hun yn ddibynol ar blaid adain dde eithafol y DUP i aros mewn llywodraeth.
10.  Trafodaethau efo Ewrop yn dechrau o ddifri - ond daw’n amlwg o’r ochr Ewropiaidd mai trafodaethau am sut gall y DU symud ymlaen i drafod a geir.  Mae’r UE yn ei gwneud yn glir bod rhaid i’r DU gytuno i dalu iawndal, sicrhau na fydd ffin yn Iwerddon a chytuno i ganiatau i ddinasyddion yr EU sy’n byw yn y DU barhau i fod o dan oruwchwyliaeth y Llys Cyfiawnder Ewrop wedi i’r DU adael yr UE.  Ceir cryn dipyn o wylofain, rhincian dannedd a bygwth gan y cyfryngau a gwleidyddion Ceidwadol cyn i’r DU dderbyn yr holl orchmynion ar y chwedlonol unfed awr ar ddeg.  Y dywydedig wleidyddion a’r cyfryngau yn mynd ati i ddathlu byddugoliaeth anferth a’n sicrhau bod Brexit ar y ffordd.
11.  Tua’r amser yma daw’n amlwg nad oes gan May lawer o syniad beth mae ei eisiau o Brexit.  Mae’n siarad am ‘Red White & Blue’ Brexit a rydym yn clywed gan rai o’i dilynwyr am ‘The Great in Great Britain’.  Rydym hefyd yn deall bod May yn ceisio cael Merkel i wneud ‘cynnig’ iddi yn hytach na dweud wrth Merkel beth yn union roedd ei eisiau.
12. Daw buddugoliaeth enfawr arall - rydym am gael pasborts glas.  Mae’r dathlu cyfryngol lloerig yn parhau hyd y daw’n amlwg mai cwmni o’r Iseldiroedd yn hytrach nag un o’r DU sydd wedi cael y cytundeb i wneud y pasborts.  Daw i ben yn ddisymwth wedi i hynny ddod yn amlwg.


Sunday, May 27, 2018

Y daith o’r UE - rhan 1



Cyn bod blogio wedi bod yn ysgafn, a chyn bod ymadawiad anhrefnus y DU o’r UE yn debygol o ddominyddu’r newyddion tros yr wythnosau nesaf, efallai y byddai’n syniad  gwirio lle’r ydan ni  trwy edrych ar sut mae pethau wedi mynd tros yr ychydig flynyddoedd diwethaf - fel ‘dwi’n eu cofio nhw beth bynnag.  Mae hi’n stori o dypdra, hunan dwyll, traha a chenedlaetholdeb cul ar ei fwyaf cibddall a hurt.  Mae hi hefyd yn stori eithaf maith - felly bydd yn cael ei hadrodd mewn pedwar blogiad tros y pedwar diwrnod nesaf.  ‘Does yna neb yn darllen blogiadau maith. 


  1. Mae’r stori  yn cychwyn yn 2014 pan mae David Cameron yn penderfynu y byddai’n syniad da rhoi refferendwm ar ddyfodol y DU yn Ewrop ym maniffesto’r Toriaid ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol oedd i’w gynnal y flwyddyn ganlynol.  ‘Doedd Cameron ddim yn credu am funud y byddai’n rhaid iddo weithredu ar yr addewid annoeth yma - roedd y polau ar y pryd yn awgrymu mai Llafur fyddai’n ennill yr etholiad ac mai’r gorau un y gallai’r Toriaid obeithio amdano fyddai gallu clymbleidio unwaith eto efo beth bynnag fyddai’n weddill o’r Dib Lems druan.  Fyddai yna ddim cwestiwn o refferendwm petai’r blaid honno o fewn miliwn o filltiroedd i lywodraeth.  Ffordd o gadw ei blaid yn unedig ac i chwystrellu‘r adain Rees-Mogaidd efo benzodiazepine dro dro oedd yr holl ymarferiad.  Ail pell i anghenion y Blaid Doriaidd oedd anghenion y DU - rhywbeth sydd wedi bod yn wir am ddegawdau pan mae’r Toriaid yn ystyried materion sy’n gysylltiedg a’r UE.
  2. Y Blaid Doriaidd yn ennill etholiad 2015 ar ei phen ei hun o fwyafrif bach ond digonol i ffurfio llywodraeth - David Cameron ar ol dod tros y sioc - yn gorfod galw refferendwm y flwyddyn ganlynol ac effaith y benzodiazepine yn pylu a diflannu gyda chyflymder rhyfeddol.
  3. Y refferendwm yn cael ei alw mewn amgylchiadau anodd i’r ochr aros.  Y rhan fwyaf o’r papurau newydd poblogaidd yn orffwyll o wrth Ewropiaidd ac wedi bod yn bychanu, dilorni neu ladd ar yr UE ers degawdau - yn aml iawn ar sail ‘ffeithiau’ cwbl ddychmygol. Ychydig iawn o bapurau sydd ar gael sydd o blaid yr UE - y Guardian a’r FT sydd ddim yn cael eu darllen gan fawr neb a’r Mirror sydd prin byth yn son am yr UE.  Mae’r cannoedd o filoedd o ffoaduriaid yn ffoi o Syria hefyd yn fyw iawn yn y cof.  Roedd y bobl anffodus yma wedi gyrru’r Sun, Express a’r Mail i uchelfanau cwbl newydd o gasineb a dicter tuag at dramorwyr.
  4. Ymgyrch refferendwm anhrefnus ac hynod anymunol yn cael ei chynnal.  Yr ochr Aros yn cynnal ymgyrch hysteraidd sy’n  pwysleisio pob math o erchyllderau economaidd os mai’r ochr Gadael fyddai’n ennill.  Yr ochr Gadael yn canolbwyntio ar bethau ymddangosiadol mwy haniaethol - sofraniaeth a rheolaeth.  Ond symbolau am bethau eraill oeddynt mewn gwirionedd - y drwgdeimlad tuag at fewnfudwyr ymysg llawer yn y DU - drwgdeimlad oedd wedi ei gorddi yn y wasg am flynyddoedd -  a chanfyddiad (cwbl ffug) bod y DU yn wlad bwerus a nerthol sydd yn cael ei dal yn ol gan yr UE.  Fel rheol materion economaidd sy’n ennill yn y diwedd mewn etholiadau, a phetai’r ochr Aros wedi ffocysu ei dadl economaidd yn well byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol.  Y ddadl y byddai’r DU yn cael ei hollti oddi wrth ei phrif farchnadoedd gan wal dollau oedd ei phrif arf o’r cychwyn ond ni wnaethwyd digon o ddefnydd ohoni, ac ni wnaed ymdrech ddigonol i fynd i’r afael ac ymateb ar ochr Gadael i hynny.  Yr ymateb hwnnw oedd ‘Bydd yr UE eisiau gwerthu gwin a Volkswagens i ni o hyd - felly bydd marchnad rydd yn bodoli rhyngom ni a nhw o hyd’.  Fel cawn weld yn hwyrach nonsens llwyr oedd y ddadl yma, ac un sy’n dangos diffyg dealltwriaeth llwyr o’r hyn ydi’r UE - ond ni wnaed hynny’n glir yn ystod yr ymgyrch.  Daw’n amlwg yn hwyrach bod symiau enfawr o arian wedi eu sianelu i’r ymgyrch Gadael trwy ddulliau amheus - rhai ohonyn nhw yn ol pob tebyg yn anghyfreithlon. 
  5. Y refferendwm yn cael ei gynnal a’r ochr Gadael yn ennill o tua 4% tros y DU.  Yr Alban yn pleidleisio’n drwm i aros a felly hefyd Llundain.  Gogledd Iwerddon yn pleidleisio i aros gyda phob etholaeth efo mwyafrif Pabyddol am aros a phedair o’r rhai efo mwyafrif Protestanaidd.  Cymru wrth reswm yn pleidleisio fel Lloegr gyda”r rhannau o’r boblogaeth oedd wedi elwa fwyaf o aelodaeth o’r UE fwyaf awyddus i adael.

Thursday, May 03, 2018

Celwydd yr wythnos 2 _ _ _

_ _ _ neu ‘Dim ond yng Ngwynedd’

Y Celwydd



A’r realiti:

Cafwyd cynnig yng nghyfarfod llawn Cyngor Gwynedd heddiw gan y Cynghorydd Alwyn Griffiths ynglyn a chynlluniau i ail fodelu gwasanaeth ieuenctid Gwynedd.  Wele’r cynnig.

Bod y Cyngor hwn yn gofyn i Gabinet y Cyngor ail-ystyried dyfodol Gwasanaeth Ieuenctid y Sir gan ragdybio o blaid cynnal clybiau ieuenctid a pharhau gyda’r cymorth ariannol traddodiadol i fudiadau gwirfoddol megis yr Urdd a Mudiad y Ffermwyr Ifanc.

Roedd cynnig Alwyn Griffiths yn un digon teilwng - ond roedd yna un gwendid amlwg.  O dderbyn y cynnig gallai  Cabinet Cyngor Gwynedd ail ystyried y bwriad i atal arian i gwahanol wasanaethau ieuenctid a dod i yn union yr un canlyniad - rhagdybiaeth neu beidio - yn wyneb y pwysau cyllidol anferth sydd ar y Cyngor o ganlyniad i doriadau Llafur a Thoriaidd.

Cynigwyd gwelliant i’r cynnig gan y Cynghorydd Menna Baines.  Wele hwnnw isod:

Gwelliant i gynnig Alwyn Gruffydd:

Bod y Cyngor hwn hefyd yn gofyn i Gabinet y Cyngor ailystyried elfennau penodol o’r model newydd ar gyfer Gwasanaeth Ieuenctid y Sir, a hynny oherwydd ein pryderon ar dri chyfrif:

1.  Y newid pwyslais o’r cymunedol i les unigolion
2.  Yr effaith ar ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir
3.  Yr effaith ar yr iaith Gymraeg

Gofynnwn felly i’r Cabinet gynnal trafodaethau brys a manwl gyda phob un o’r cynghorau tref, cymuned a dinas ynghyd ag asiantaethau perthnasol eraill. Diben hyn fyddai edrych ar ffyrdd o gydweithredu er mwyn ariannu parhad cynifer รข phosib o glybiau ieuenctid y sir - lle dymunir hynny -  ac er mwyn rhoi cymorth priodol i’r mudiadau ieuenctid gwirfoddol a fu’n derbyn nawdd tan yn ddiweddar. Gofynnwn hefyd i’r Cabinet gynnal asesiad ieithyddol o effaith yr ad-drefnu ac asesiad o’i effaith gymunedol ar ardaloedd mwyaf difreintiedig y sir.

I’r sawl sydd ddim yn gyfarwydd ag arferion cyngor, ychwanegiad at gynnig, nid rhywbeth yn ei le ydi gwelliant.  Felly mae cynnig Menna yn golygu bod y cynnig nid yn unig yn cyfarwyddo’r Cabinet  i ail ystyried eu penderfyniad, ond i droi pob carreg yn lleol i ddarganfod y cyllid i gadw sefydliadau yn agored pan mae dymuniad i wneud hynny yn lleol.  ‘Does gen i ddim pwt o amheuaeth bod y gwelliant yn ei gwneud yn fwy tebygol o lawer y bydd sefydliadau ieuenctid yn aros yn agored na’r cynnig ar ei ben ei hun.

Pleidleisiodd y Pleidwyr tros y gwelliant, pleidleisiodd y gwrthbleidiau i gyd ag eithrio un unigolyn yn erbyn y gwelliant.  Wedi i’r gwelliant gael ei dderbyn pleidleisiodd pawb (‘dwi’n meddwl) o blaid y cynnig  a’r gwelliant. 

Ond eto mae gwefan gweplyfr yng Ngwynedd yn honni bod y sawl oedd wedi cynnig y llwybr mwyaf tebygol o gadw sefydliadau yn agored wedi pleidleisio i’w cau,  tra bod y sawl bleidleisiodd tros gymryd llwybr fyddai’n llai tebygol o fod yn  effeithiol wedi pleidleisio i’w cadw’n agored.

Tybed os mai ond yng ngwleidyddiaeth lleol Gwynedd mae’n cael ei ystyried yn briodol i ddweud bod gwyn yn ddu a du yn wyn er mwyn pardduo gwrthwynebwyr?