Monday, November 11, 2013

Ffrae fach Paul Flynn a'r Lib Dems

Dydi Blogmenai ddim yn ymyryd yn aml iawn mewn ffraeo rhwng y pleidiau unoliaethol - ond mae'r emosiynau operataidd sydd wedi eu codi yn sgil is etholiad Pillgenlly yng Nghasnewydd yn dechrau mynd ar fy nerfau.  Ffrae anoracaidd  braidd ar y We ydi hi rhwng Paul Flynn, Llafur a gwahanol Lib Dems ynglyn a'r  canlyniad.  Gellir gweld rhan ohoni yma - ond mae wedi codi mewn lleoedd eraill.

Y canlyniad yn etholiad 2012 oedd Llafur 756 a 703, Lib Dems 150 a 71, Plaid Cymru 277 a Tori 306.  Roedd dwy bleidlais gan bawb, ac etholwyd dau gynghorydd.  Mae'r Lib Dems yn ceisio troelli'r ffaith i'r ganran Llafur syrthio o 64.5% i 47.5% fel chwalfa yn y bleidlais Llafur.  Ond un ymgeisydd oedd gan bawb eleni ac un bleidlais oedd gan yr etholwyr.  Roedd dwy bleidlais gan bawb yn 2012 ac roedd gan Llafur a'r Lib Dems ddau ymgeisydd.  Felly maen nhw'n cymharu dwy etholiad hollol wahanol o ran eu mathemateg.

Mae Paul yn ceisio camarwain hefyd, ond mewn ffordd ychydig yn wahanol - mae'n cymharu pleidlais un o'r ddau Lafurwr yn 2012 efo pleidlais un o'r un eleni ac yn hawlio gogwydd mawr tuag at Lafur ar sail hynny.  Fel y Lib Dems mae'n dod i'w gasgliadau trwy gymharu etholiadau nad ydynt yn gymharol o ran eu mathemateg.

Fel mae'n digwydd mae yna ffordd hawdd o gymharu etholiad dwy bleidlais efo etholiad un bleidlais - dull na ddylai fod y tu hwnt i Paul, na hyd yn oed y Lib Dems.  I gael canran ystyrlon o'r etholiad dwy bleidlais dylid diystyru pob ail bleidlais ar gyfer pob plaid (Llafur a'r Lib Dems yn yr achos yma) a gweithio'r canrannau allan ar sail y nifer o bleidleisiau sy'n weddill.  Gellir wedyn gymharu mewn ffordd llawer gwell efo'r etholiad un pleidlais dilynol.  Yn yr achos yma dyma bleidlais 2013  a'r newid canrannol cywir ers 2012.

Llafur 500 (47.4;-3.4), Lib Dem 233 (22.1;+12.0), PC 167 (15.8;-2.8), Tori 155 (14.7;-5.9)

No comments: